Newyddion: Ciarán Eynon - golygydd gwadd Ffosfforws 1
Ar gyfer pob rhifyn o FFOSFFORWS, byddwn yn gofyn i olygydd gwadd gwahanol ymgymryd a’r gwaith o ddewis a dethol y cerddi a gyhoeddwn. Rydym yn falch iawn o rannu’r newyddion mai golygydd gwadd Rhifyn 1 fydd Ciarán Eynon.
Daw Ciarán o Landrillo-yn-Rhos yn wreiddiol, ac yn dilyn graddio mewn Mathemateg o Brifysgol Warwick, dewisodd astudio MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yng Nghaerdydd. Mae ar hyn o bryd wrthi’n ysgrifennu ei draethawd hir ar farddoniaeth LHDT+ yn y Gymraeg. Daeth yn ail am y brif wobr farddoniaeth ac yn drydydd am y brif wobr rhyddiaith yn Eisteddfod-T 2021.
Wrth edrych ymlaen at ddethol y cerddi ar gyfer Ffosfforws, dywedodd ei fod yn ‘chwilio am farddoniaeth sy’n diriaethu’r profiad (boed gyfoes neu beidio) ac sy’n gwneud hynny’n ddidwyll. Y gamp yw cydio o’r gair cyntaf gan lwyddo i ddal yn y llinyn arian gydol y gerdd.’
‘Dwi’n edrych ymlaen at ddarllen cerddi sy’n ymdrin â themâu na thramwywyd ddigon yn hanes barddoniaeth Gymraeg ac sy’n gydnaws â 2021.
Byddwn yn rhannu manylion ein galwad agored a gofynion cyflwyno Ffosfforws wythnos i heddiw (31 Awst).