Cyhoeddiad: Triongl

1_IMG20210629_112935.png

Y pamffled nesaf a gyhoeddir gan Gyhoeddiadau’r Stamp fydd Triongl, casgliad o bymtheg cerdd gan bymtheg bardd mewn ymateb i ddelweddau gan y ffotograffydd Lena Jeanne o Borthaethwy. Mae Triongl yn cynnwys cerddi Cymraeg, Saesneg a Gwyddeleg gan Annes Glynn, Ciara Ní É, Caryl Bryn, Catrin Menai, Glyn F. Edwards, Lowri Hedd, Marged Elen Wiliam, Mari Elen, Morwen Brosschot, Roísín Sheehy, Rhys Trimble, Siân Miriam, Yasus Afari a Zoë Skoulding. Curadwyd a golygwyd y casgliad gan Iestyn Tyne.

Ymhlith y cerddi, ceir ysgrifennu uniongyrchol ac anuniongyrchol am ogledd orllewin Cymru o’r tu fewn ac o’r tu allan; gan rai sydd wedi byw yno ar hyd eu hoes, a rhai a faged yno ond sydd wedi symud i ffwrdd; rhai sydd wedi byw yno ar adegau, ac eraill sy’n ymwelwyr ysbeidiol am resymau amrywiol; ambell un sydd â chysylltiad am y rheswm syml fod hwn yn le y mae’n rhaid teithio drwyddo i gyrraedd mannau eraill. Yr hyn sy’n cysylltu’r holl weithiau – y gweledol a’r geiriol – yw eu gallu i weld mawredd yn yr ennyd fach, a gweld y pethau bychain yn yr ehangderau mwyaf.

Comisiynwyd cerddi’r pamffled fel rhan o brosiect Triongl, a ddatblygwyd gan ganolfan gelfyddydau Pontio i gefnogi gweithwyr llawrydd ym maes y celfyddydau yn ystod y pandemig.

Gallwch ragarchebu copi o Triongl, a gyhoeddir ar 12 Gorffennaf 2021 gydag argraffiad cyfyngedig o 100 copi, trwy fynd i ystamp.cymru/cyhoeddiadau

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Ffosfforws

Next
Next

Datganiad: #BDS