Datganiad: #BDS

Mi fydd gwefan arferol ac archif cynnwys ar-lein y Stamp i lawr am gyfnod, wrth i ni symud oddi wrth Wix, at ddarparwr gwefannau sydd ddim yn cefnogi apartheid yn Israel.

Y mae dogfennaeth glir a diamheuol fod polisïau llywodraeth Israel yn cyflawni troseddau yn erbyn dynoliaeth wrth gynnal stad apartheid yn Israel a Phalesteina. Mae’r polisi bwriadol o barhau i adeiladu gwladychfeydd anghyfreithlon ar dir Palesteinaidd yn difa unrhyw obaith am broses heddwch yn y dyfodol. Mae bywydau Palesteinaidd o bwys.

Mae #BDS yn ymgyrch wedi ei arwain gan Balestiniaid i ddefnyddio grym economaidd y gymuned ryngwladol i bwyso ar Israel i newid, fel y bu pwysau rhyngwladol yn hanfodol wrth ddymchwel y gyfundrefn apartheid yn Ne Affrica:

Boycott, Divestment, Sanctions (BDS) is a Palestinian-led movement for freedom, justice and equality. BDS upholds the simple principle that Palestinians are entitled to the same rights as the rest of humanity.

Gan ddyfynnu o wefan Boycott Wix:

WIX is a large, publicly traded company worth hundreds of millions of dollars. As a website building service, WIX relies on free access to the internet and access to startup capital that Palestinians living under Israeli occupation are denied.

Ffynonellau:

Adroddiad Human Rights Watch: https://www.hrw.org/report/2021/04/27/threshold-crossed/israeli-authorities-and-crimes-apartheid-and-persecution

Gwefan Boycott, Divestment, Sanctions: https://bdsmovement.net/

Gwefan Boycott Wix: https://boycottwix.org/

Boicot Ymddiriedolaeth Gelf Zabludowicz

Rydym yn annog unigolion a sefydliadau, grwpiau celfyddydol a gweisg i ymuno mewn ymrwymiad i foicotio Ymddiriedolaeth Gelf Zabludowicz, sydd â chysylltiadau uniongyrchol â gwladychu anghyfreithlon ym Mhalesteina. Darllenwch fwy ac arwyddwch trwy ymweld â gwefan Boycott Zabludowicz: https://boycottzabludowicz.wordpress.com/

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Triongl

Next
Next

Cyhoeddiad: Lansio ‘Stwff ma hogia ‘di ddeud wrtha fi’ - Llio Elain Maddocks