Newyddion: Carwyn Eckley - golygydd gwadd Ffosfforws 4

Rydym yn falch iawn o rannu mai golygydd gwadd rhifyn nesaf Ffosfforws fydd Carwyn Eckley.

Yn enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd 2021, daw Carwyn o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol. Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Dros yr Aber, sydd wedi ennill y gystadleuaeth deirgwaith, ac ef oedd enillydd Tlws Coffa Dic Jones am gywydd gorau'r gyfres yn 2022.

Mae'n newyddiadurwr wrth ei waith bob dydd, ac yn gweithio ar raglenni Cymraeg ITV Cymru ers tair blynedd - Y Byd ar Bedwar ac Y Byd yn ei Le. Mae'n aml yn gweithio ar straeon sy'n rhoi sylw i elfennau o anghyfiawnder ym mywydau pob dydd pobl yng Nghymru. Gwelir yr un thema ganolog yn ei awdl fuddugol yn Eisteddfod yr Urdd 2021, oedd yn troi'r chwyddwydr at y lefelau enbyd o dlodi plant sy'n dal i fodoli yng Nghymru heddiw.

Ar wahân i sgwennu, mae ganddo hefyd ddiddordeb mawr mewn pêl-droed a dilyn y tîm cenedlaethol. Mae'n ei weld yn ddifyr iawn sut mae'r tîm wedi trawsnewid perthynas llawer o Gymry gyda'u hunaniaeth, gyda'r Gymraeg yn ganolog i'r hyn sy'n bwysig iddynt.

Mewn ymateb i gwestiwn am yr hyn y bydd yn chwilio amdano mewn cerdd, dywed Carwyn fel hyn:

"Gogoniant barddoniaeth, ac unrhyw 'sgwennu creadigol yn fy marn i, ydy'r rhyddid i ysgrifennu am unrhyw beth sy'n mynd â bryd yr awdur - felly dw i ddim am i'r awduron lywio themâu'r cerddi tu hwnt i'r hyn y maen nhw'n awyddus i'w sgwennu yn y lle cyntaf. Y math o farddoniaeth sy'n mynd â 'ngwynt i fodd bynnag ydy barddoniaeth sy'n gwneud i rhywun deimlo rhywbeth - gorau oll os ydy hynny mewn Cymraeg bob dydd. Dwi'n gredwr cryf y dylai barddoniaeth fod yn hygyrch i bobl y tu allan i 'gylchoedd llenyddol' - o ran iaith ac y gallu i'w ddarganfod."

"Diolch yn fawr i'r Stamp am y fraint o ddarllen gwaith awduron Cymru, a dw i wir yn edrych mlaen at dderbyn y cerddi."

Bydd galwad agored Ffosfforws 4 yn glanio ddydd Sadwrn nesaf, 1 Ebrill, ac ar agor am fis. Cadwch olwg yma ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o fanylion.

Cofiwch fod trydydd rhifyn Ffosfforws, a argraffwyd yn ddiweddar dan olygyddiaeth Llinos Anwyl, ar gael rwan hefyd, yn ogystal â rhai copïau o rifynnau blaenorol. Ewch i'r Siop ar-lein ar gyfer rhain.

Previous
Previous

Digwyddiad: Swper y Beirdd - Machynlleth

Next
Next

Cyhoeddiad: Ffosfforws 3 - gol. Llinos Anwyl