Cyhoeddiad: Ffosfforws 3 - gol. Llinos Anwyl

Mae’n fraint gennym ddatgelu clawr a chyfrannwyr trydydd rhifyn Ffosfforws, cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp.

Mae’r cerddi wedi’u curadu gan Llinos Anwyl ac yn cynnwys gwaith newydd gan Alys Hall, Beth Celyn, Esyllt Angharad Lewis, Gwenno Gwilym, Jo Heyde, Lois Medi, Martha Ifan, Meleri Davies, Morgan Owen, Morwen Brosschot, Non Prys Ifans, Rhianwen Roberts, Sam Robinson, Sian Shakespear a Vernon Jones. Mae’n gasgliad sy’n cynnwys cyfraniadau gan leisiau sy’n newydd ac yn gyfarwydd i Gyhoeddiadau’r Stamp, ac yn amrywio’n fawr o ran ffurfiau, arddulliau a themâu.

Am y tro cyntaf, mae’r golygydd gwadd wedi dewis rhannu’r gyfrol yn dair adran: Ein Bröydd, Ein Heddiw, ac Ein Gobeithion. O fewn y pymtheg darn fe geir cerddi natur a cherddi am y bygythiadau i’r natur hwnnw; am gyfeillgarwch a hunan-gariad; am ein hanes a’n dyfodol; cerddi taith, cerddi am hunaniaeth a cherddi sy’n chwarae ar iaith.

Mae’r rhifyn wedi’i gysodi ac yn barod i fynd, ac mae’r rhagarchebion yn awr ar agor er mwyn i chi helpu i orffen y gwaith. Fel gyda nifer o’n casgliadau amlgyfrannog, byddwn yn ariannu’r gwaith o argraffu trwy’r rhagarchebion hyn. Y tro hwn, mae opsiwn newydd yn y dewisiadau talwch-be-fedrwch-chi, sef yr opsiwn £25. Bydd cyfran o arian y sawl sy’n talu £25 yn mynd tuag at dalu un o feirdd y rhifyn nesaf, a bydd eich enw yn ymddangos fel noddwr yng nghefn y gyfrol.

Ewch draw i’n siop ar-lein heddiw i sicrhau eich copi!

Ffosfforws: Rhifyn 3 – Gaeaf 2022-23

gol. Llinos Anwyl / Cyhoeddiadau’r Stamp 2023

argraffiad riso cyfyngedig gan Biscuits Press, Caerdydd / 32t.

pris £2 (digidol) / £5 (print, gostyngiad) / £10 (pris arferol) / £25 (copi o Rifyn 3 + noddi ffi un o gyfrannwyr Rhifyn 4, gyda’ch enw i ymddangos yng nghefn y gyfrol)

Tudalennau enghreifftiol:

Previous
Previous

Newyddion: Carwyn Eckley - golygydd gwadd Ffosfforws 4

Next
Next

Darllen 2022: dewisiadau’r golygyddion