Newyddion: Llinos Anwyl - golygydd gwadd Ffosfforws 3

Mae’n bleser ac yn fraint gan griw Cyhoeddiadau’r Stamp ddatgelu mai Llinos Anwyl - a gyhoeddodd bamffled o waith celf a barddoniaeth, Hen Bapur Newydd, trwy’r wasg yn 2019 - yw golygydd gwadd trydydd rhifyn Ffosfforws, ein cyfnodolyn barddoniaeth.

Addysgwr ac ymgyrchydd yw Llinos (nhw/eu) sy’n creu celf a llenyddiaeth â chymhelliant gwleidyddol. Maen nhw’n pwysleisio pwysigrwydd rhyngddisgyblaethrwydd wrth lwyfannu pynciau sy’n aml yn cael eu portreadu’n ‘academaidd’ drwy ddulliau llai traddodiadol.

Rhwng ceisio cydbwyso eu bywyd rhwng cyfarfodydd, cymdeithasu a chreu, mae Llinos yn ymdrechu i ddad-ddysgu agweddau sydd wedi’u dylanwadu gan gyfalafiaeth. Yn eu bywyd personol, caiff hyn ei amlygu wrth herio eu perthynas gyda rhywedd a rhyw gan hefyd adnabod eu breintiau. Ar sail ehangach mae cyfiawnder cymunedol yn ganolbwynt hollbwysig iddynt. 

Dywedodd Llinos:

"Wrth ddethol cerddi Ffosfforws hoffwn y syniad o weld newid er gwell yn y darnau. Mae’n gyfnod heriol iawn i’r rhan fwyaf ohonom oherwydd yr argyfwng costau byw, felly gobeithiaf y gallwn gynnig llygedyn o obaith am ddyfodol gwell yn y casgliad yma.

Diolch fil i’r Stamp am y cyfle hynod hyfryd yma i allu ddarllen a dysgu am brofiadau unigolion. Dwi methu disgwyl!"

Bydd galwad agored Ffosfforws yn glanio dydd Iau nesaf, 1 Medi, ac yn aros am fis - felly cadwch lygad barcud yma ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o fanylion.

Cofiwch fod ambell gopi Ffosfforws 1, dan olygyddiaeth Ciarán Eynon; a chopis prin iawn o Ffosfforws 2, dan olygyddiaeth Mari Elen, yn parhau i fod ar gael mewn niferoedd cyfyngedig, ewch i’r Siop os am fachu copi.

Previous
Previous

Galwad agored: Ffosfforws 3

Next
Next

Newyddion: merch y llyn - Enillydd Categori Barddoniaeth #LlYF22