Newyddion: merch y llyn - Enillydd Categori Barddoniaeth #LlYF22

merch y llyn gan Grug Muse trwy Gyhoeddiadau’r Stamp yw enillydd categori barddoniaeth gwobrau Llyfr y Flwyddyn Cymru 2022.

Yn y 'bargeinio rhwng meddalwch a chadernid' y mae cerddi ail gyfrol Grug Muse yn digwydd; yn y cyrff o ddwr sy'n ddihangfa ac yn fygythiad yn un gwynt. Mae haenau daeareg yn datgelu haenau'r hunan, mewn gwaith sy'n dangos fod y ffin rhwng poen a phleser, rhwng y cignoeth a'r synhwyrus, mewn gwirionedd yn denau iawn.

Wrth drafod cyfrolau’r rhestr fer ar raglen Stiwdio yn ol ym mis Mehefin eleni, dywedodd Gwion Hallam, aelod o’r panel beirniaid, am merch y llyn:

Ro’n i wedi gwirioni ar hon o’r darlleniad cynta’, ond o’n i angen ei darllen hi eto, ac eto, ac eto … mae ’na gyfuniad bendigedig yma o’r traddodiadol – sut mae’n defnyddio chwedloniaeth a hanesion, a straeon tylwyth teg ein diwylliant ni – ond hefyd gweledigaeth hynod o fodern … mae’n bersonol, mae’n amserol, ac yn hynod o ffresh.

Mae Grug yn fardd, ac ysgrifwr o Ddyffryn Nantlle. Mae'n un o sylfaenwyr a golygyddion cylchgrawn Y Stamp ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod, gyda Cyhoeddiadau Barddas yn 2017. Mae’n un o olygyddion Welsh [Plural], cyfrol o ysgrifau am ddyfodol Cymru.

Hefyd ar y rhestr fer eleni roedd Stafelloedd Amhenodol gan Iestyn Tyne (Cyhoeddiadau’r Stamp) a Cawod Lwch gan Rhys Iorwerth (Gwasg Carreg Gwalch).

merch y llyn

Grug Muse / Cyhoeddiadau’r Stamp 2021

ISBN 978-1-8381989-2-3 / 72t. / £8.00

Ffotograff y clawr: Cain Muse

Previous
Previous

Newyddion: Llinos Anwyl - golygydd gwadd Ffosfforws 3

Next
Next

Newyddion: Steddfod y Stampwyr