CYFLE: Golygydd - Cylchgrawn Y Stamp
Mae cylchgrawn Y STAMP yn chwilio am olygydd newydd i ymuno â’r tîm Golygyddol.
Am ba fath o berson yr ydym ni’n chwilio?
Rydym yn chwilio am unigolyn* fydd yn medru cydweithio’n dda gyda’r golygyddion eraill, ond a fydd yn dod â rhywbeth newydd hefo nhw at y tîm.
Rhywun, felly, sydd â diddordeb mewn celf, theatr, llenyddiaeth neu faes celfyddydol arall y bydd Y Stamp yn elwa o’u harbenigedd. Yn benodol, rydym yn arbennig o awyddus i groesawu ceisiadau gan unigolion yn y byd celf, er mwyn ehangu ar y wedd hon o waith Y Stamp.
Mae amrywiaeth yn bwysig i’r Stamp. Hoffem felly annog ceisiadau gan bobl o gefndiroedd lleiafrifol neu sydd yn cael eu tan-gynrhychioli, boed hynny o ran cefndir diwyllianol ac ethnig, o ran rhywedd, cefndir dosbarth neu anabledd.
Mae sgiliau cyfrifiadurol, dylunio, neu brofiad o fusnes, cyfrifo neu’r gyfraith hefyd yn bethau gwerth eu hamlygu ar eich cais.
Does dim rhaid cael profiad blaenorol o weithio ar gylchgrawn. Dysgu wrth wneud wnaeth y Golygyddion presennol.
Beth ydy’r gwaith?
Mae’r gwaith yn cynnwys casglu deunydd, golygu a phrawf-ddarllen, hyrwyddo ar-lein ac ar lawr gwlad, trefnu digwyddiadau a chynnal y wefan. Un o swyddogaethau penodol y Golygydd newydd fydd gweithio fel Cydlynydd Cylchgrawn, rôl fydd yn sicrhau fod y rhifynnau print yn cael eu cydlynu a’u llywio trwy’r wasg mewn modd mor effeithlon â phosib.
Nid oes tâl am ymgymryd â’r gwaith hwn. Menter wirfoddol, weithredol yw’r Stamp, a chredwn nad oes yn rhaid wrth bres i wneud rhywbeth o werth bob tro (Ond mae ’na fisgedi yn y cyfarfodydd chwarterol, gan amlaf).
Felly, os ydych chi’n meddwl y gallech chi ymuno â’r criw, a chyfrannu at ddatblygiad Y Stamp, cysylltwch am sgwrs neu anfonwch CV a llythyr o ddiddordeb at golygyddion.ystamp@gmail.com erbyn hanner nos ar y 31 Rhagfyr 2018. Ond dim eiliad yn hwyrach, soz.
* unigolyn di-lol, meddai Llŷr Titus, ond mae lol yn ocê hefyd, rhan fwyaf o’r amser