Cyhoeddiad: Lansiad Rhifyn 4 Y Stamp

Wel, mi ddaeth hi’n bryd i lansio rhifyn print arall o’r Stamp. Dyma’r pedwerydd rhifyn llawn, ac unwaith eto, da ni’n falch iawn o’i gyflwyno fo i chi.

Fel yr ydan ni eisoes wedi ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, mi fydd y lansiad yn digwydd am 20:00 ar nos Iau y 29ain o Fawrth yn Y Llofft yn Nhafarn y Fic, Llithfaen gyda mynediad yn £3.00.

Ond pwy fydd yn cymryd rhan yn y lawnsiad mawreddog hwn, medda chi? Wel, mae hi’n bleser cael cyhoeddi mwy o fanylion …

Ein adloniant cerddorol am y noson fydd:

TAGARADR

Tagaradr ydi deuawd newydd blws-gwerin acwstig Sian Miriam a Caine Jones-Williams. Mi allwch chi wylio fidio diweddar gan y ddeuawd trwy ddilyn y ddolen yma:

https://www.facebook.com/tagaradr/videos/1998099657130088/

Mae’r Stamp eisoes yn gyfarwydd iawn â dawn Siân Miriam fel bardd ac aelod o Gywion Cranogwen – edrychwn ymlaen at gael ein swyno gan ei cherddoriaeth y tro yma!

Tagaradr

Rydan ni hefyd yn edrych ymlaen at gwmni MYRDDIN AP DAFYDD, prifardd, awdur, cyhoeddwr, bragwr cwrw … yn ogystal ag aelodau o GWMNI’R TEBOT (a recordiodd y ddrama radio ‘Pwdin Reis’ gan Mari Elen yn arbennig ar gyfer Y Stamp). Mi fydd yna ambell westai arall, hefyd.

Ond beth am y rhifyn newydd sgleiniog y byddwn ni’n ei ddathlu ar y noson?

Wel, mae Rhifyn 4 yn wledd. Mae’n cynnwys gwaith rhyddiaith newydd gan Mihangel MorganGareth Evans Jones a Holly Gierke; a cherddi gan Morwen Brosschot Iestyn Tyne yn ogystal â beirdd Cywion Cranogwen (Caryl Bryn, Beth Celyn, Manon Awst, Miriam Elin Jones, Siân Miriam Grug Muse).

Y wyddonwraig sy’n mentro i’r Labordy ar gyfer y rhifyn yma ydi Llio Maddocks, gyda Sam Jones yn rhoi cipolwg i ni ar waith T. Hudson Williams yn y golofn AilBobi Jones. Yn ail ran Cartrefi Cymru II, aiff y Stamp am dro i ardal Abertawe, a cheir trysorfa o fyfyrdodau gan Ceri Rhys Matthews wrth edrych i lawr ar y ddinas o ben Craig Trewyddfa.

Mae llu o adolygiadau o gynnyrch newydd yn y Gymraeg, a cheir sgwrs fanwl rhwng ein Llyr Titus ni a Becca Voelcker, arbenigydd mewn ffilmiau sydd yn cwblau PhD yn adran Ffilm ac Astudiaethau Gweledol Prifysgol Havard ar hyn o bryd.

Hyn i gyd yn ogystal â gwaith celf trawiadol gan Bethan Scorey a Lora Juckes Hughes, ac ymateb ysgrifenedig Mari Elen i waith Lora.

Ffiw! Rhifyn llawn dop felly – allwn ni ddim aros i’w rannu o efo chi.

Yn y cyfamser – cadwch y dyddiad yn rhydd, a pharatowch am noson werth chweil!

Previous
Previous

CYFLE: Golygydd - Cylchgrawn Y Stamp

Next
Next

Cyhoeddiad: Lansiad Rhifyn 1 Y STAMP