Newyddion: Miriam Elin Jones - golygydd gwadd Ffosfforws 5

Rydym yn falch o gyhoeddi mai golygydd gwadd pumed rhifyn Ffosfforws (Gwanwyn 2024) yw Miriam Elin Jones. Bydd Miriam yn enw cyfarwydd iawn i ddarllenwyr Y Stamp (anhunedd i’w lwch) fel un o sylfaenwyr y cylchgrawn, a’i gyd-olygydd rhwng 2016 a 2018.

Mae Miriam Elin Jones yn llenor ac yn Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, gyda’i hymchwil yn edrych yn benodol ar ffuglen wyddonol y Gymraeg. Daw o Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol, ond mae hi’n byw erbyn hyn ym Mro Morgannwg gyda’i gŵr, Eliot.

Wrth feddwl am yr hyn y bydd hi’n chwilio amdano fel golygydd, dywedodd Miriam fod ‘gan eiriau’r pŵer i ysgogi teimladau dyfnion, ac rwy’n ysu i ddarllen cerddi sy’n fy nghyffwrdd, yn fy herio i feddwl yn ehangach, yn fy nhynnu i fydoedd sy’n tynnu sylw at fy ngwendidau fy hun.’

Fel un o’r stampwyr gwreiddiol, mae’n ‘awyddus i weld yr ysbryd herfeiddiol yna fu’n rhan o sefydlu Cyhoeddiadau’r Stamp, ac yn awyddus i glywed lleisiau amgen a lleisiau newydd sy’n berwi â rhywbeth i’w ddweud.’

Fel yr arfer, byddwn yn derbyn gwaith er ystyriaeth y golygydd gwadd trwy alwad agored dros gyfnod o fis, gan agor y ffenestr gyflwyno ar ddydd Gwener 15 Rhagfyr. Cadwch lygad yma ar y wefan ac ar ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o fanylion a’r gofynion cyflwyno.

Cofiwch fod ambell gopi print o rai o ôl-rifynnau Ffosfforws yn dal i fod ar gael o’n Siop, a bod modd prynu copi digidol o bob rhifyn i’w lawrlwytho hefyd. Mae’n syniad da i chi ymgyfarwyddo â fformat a naws y cyfnodolyn cyn mynd ati i gyflwyno, os yn bosib.

Previous
Previous

Galwad Agored: Ffosfforws 5

Next
Next

Newyddion: Silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru - Hydref 2023