Galwad Agored: Ffosfforws 5

Mae’r alwad agored hon bellach wedi cau, a chyhoeddir pumed rhifyn Ffosfforws ym mis Mai 2024.

Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn gwahodd beirdd i anfon eu cerddi er ystyriaeth i’w cyhoeddi yn rhifyn gwanwyn 2024 cyfnodolyn Ffosfforws. Mae’r cyhoeddiad hwn yn agored i gerddi o bob math ac ar unrhyw thema. Rydym yn croesawu’r caeth a’r rhydd, y traddodiadol a’r arbrofol; rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn gwaith sy’n gwthio’r ffiniau o ran thema, ffurf ac arddull, a gwaith gan feirdd o gefndiroedd sydd wedi’u lleiafrifo. 

Darllenwch y gofynion cyflwyno yn ofalus cyn anfon eich gwaith at cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com, gan nodi FFOSFFORWS 5 fel pwnc. Gallwch hefyd anfon eich cerddi trwy’r post i 9 Heol Elinor, Caernarfon, LL55 1PG, erbyn y dyddiad cau.

Golygydd gwadd: Miriam Elin Jones

Golygyddion cynorthwyol: Grug Muse & Iestyn Tyne

Dyddiad cau: HANNER NOS, DYDD LLUN 15 IONAWR 2024


GOFYNION

*Sylwer yn arbennig yr amod newydd sy’n wahanol i alwadau blaenorol Ffosfforws, ac wedi’i nodi mewn print trwm isod.

  • Gofynnir i chi gyflwyno hyd at 3 cerdd unigol neu un dilyniant o hyd at 3 cerdd. Ni fyddwn yn dewis mwy nag un gerdd gan un bardd oni bai am gyhoeddi dilyniannau.

  • Nid oes cyfyngiad ar hyd cerddi unigol.

  • Dylai’r cerddi fod yn waith gwreiddiol y sawl sy’n eu cyflwyno, ac ni ddylent fod wedi eu cyhoeddi mewn mannau eraill eisoes.

  • Yn wahanol i alwadau blaenorol, ac oherwydd ymarferoldeb argraffu cerddi gweledol (e.e. cerddi torrydd neu ffoto-haiku) trwy ddull risograff, cerddi testun yn unig y byddwn yn eu derbyn ar gyfer Ffosfforws y tro hwn. Cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn.

  • Caiff y cerddi eu dewis gan y golygydd gwadd, gyda chefnogaeth y ddau olygydd cynorthwyol; bydd y broses o ddethol yn cael ei gynnal heb i’r golygydd gwadd weld enwau’r beirdd, er mwyn sicrhau diduedd-dra. 

  • Bydd penderfyniad y golygyddion yn derfynol, ac ni fyddwn yn cynnig sylwadau yn ddiofyn ar gerddi a wrthodir. 

  • Gofynnir i chi gyflwyno cerddi yn eu ffurf terfynol; ni fyddwn yn disgwyl i chi ailddrafftio gwaith a ddewisir, ond gallwn gynnig awgrymiadau gramadegol. Byddwn yn darparu proflen i chi ei gwirio cyn argraffu.

  • Byddwn yn cynnig cydnabyddiaeth o £15 am bob cerdd neu ddilyniant a gyhoeddir yn Ffosfforws. Byddwch yn derbyn manylion anfonebu yn dilyn ein penderfyniad.

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Sgriptiau Stampus 03 – Elgan Rhys yn cyhoeddi WOOF

Next
Next

Newyddion: Miriam Elin Jones - golygydd gwadd Ffosfforws 5