Newyddion: Silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru - Hydref 2022
Rydym yn falch iawn o weld merch y llyn (2021) gan Grug Muse, enillydd categori barddoniaeth gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2022, ar silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru Hydref 2022.
Mae’r silff lyfrau yn ddetholiad blynyddol o lyfrau a argymhellir gan y Gyfnewidfa ar gyfer cyfieithu dramor. Yn gwmni i merch y llyn mae 11 o gyfrolau amrywiol eraill a gyhoeddwyd yn y flwyddyn a fu, gan gynnwys Pridd gan Llyr Titus, un o sylfaenwyr Cyhoeddiadau’r Stamp, a Welsh (Plural), y gyfrol o ysgrifau ar ddyfodol Cymru y bu Grug Muse ac Iestyn Tyne yn ei chyd-olygu gyda Darren Chetty a Hanan Issa.
Yn y 'bargeinio rhwng meddalwch a chadernid' y mae cerddi ail gyfrol Grug Muse, y bardd ac ysgrifwr o Ddyffryn Nantlle, yn digwydd; yn y cyrff o ddwr sy'n ddihangfa ac yn fygythiad yn un gwynt. Mae haenau daeareg yn datgelu haenau'r hunan, mewn gwaith sy'n dangos fod y ffin rhwng poen a phleser, rhwng y cignoeth a'r synhwyrus, mewn gwirionedd yn denau iawn. Wrth dafoli’r casgliad yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, dywedodd Gwion Hallam:
Ro’n i wedi gwirioni ar hon o’r darlleniad cynta’, a o’n i angen ei darllen hi eto, ac eto, ac eto […] mae ‘na gyfuniad bendigedig yma o’r traddodiadol — sut mae’n defnyddio chwedloniaeth a hanesion, a straeon tylwyth teg ein diwylliant ni — ond hefyd gweledigaeth hynod o fodern […] mae’n bersonol, mae’n amserol, ac yn hynod o ffresh.
Gallwch ddysgu mwy am yr holl gyfrolau sydd wedi’u cynnwys yn awgrymiadau’r Gyfnewidfa trwy glicio yma. Mae merch y llyn ar gael o’ch siopau stampus lleol ac o siop y wefan hon.