Newyddion: Ailargraffu ‘Ystlum’

Gorchwyl braf yw rhannu fod Ystlum, y casgliad cyhoeddedig cyntaf o farddoniaeth gan Elen Ifan, yn y broses o gael ei ailargraffu, lai na mis ers y dyddiad cyhoeddi gwreiddiol.

Ar gyfer yr argraffiad newydd, bydd palét lliwiau’r clawr yn newid eto, y tro hwn i ‘Mwyara’, sy’n gyfeiriad at gerdd o’r un enw sy’n agor y gyfrol.

Mae nifer cyfyngedig o gloriau Hydref a Gwanwyn (gweler isod) yn dal i fod gennym, a bydd rhain ar gael i’w prynu yn lansiad gogleddol y pamffled yn Palas Print, Caernarfon, nos Wener yma. Gallwch ddod o hyd i fanylion y lansiad trwy glicio fan hyn.

Gallwch archebu’r argraffiad newydd o Ystlum heddiw trwy glicio yma. Bydd y fersiwn newydd ar gael yn ystod wythnos 21 Tachwedd.

 

Ystlum

Elen Ifan / Cyhoeddiadau’r Stamp 2022

argraffiad dau glawr, gyda gwaith celf gan Shannon Haswell a Hannah Campbell

ISBN 978-1-8381989-5-4 / 36t. / £7.00

Previous
Previous

Newyddion: digideiddio Addunedau

Next
Next

Newyddion: Silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru - Hydref 2022