Newyddion: Gwobr Michael Marks i Morgan Owen

Pleser i'r Stamp yw datgan fod pamffled o stabal y Stamp wedi dod yn fuddugol mewn gwobr newydd i bamffledi barddoniaeth neithiwr.

moroedd/dŵr, pamffled cysyniadol o gerddi gan Morgan Owen, yw enillydd cyntaf categori newydd am farddoniaeth mewn ieithoedd Celtaidd yng Ngwobrau Barddoniaeth Michael Marks, a noddir gan y Michael Marks Charitable Trust.

Derbyniodd y bardd ei wobr mewn noson arbennig yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain, lle anrhydeddwyd awduron, cyhoeddwyr ac artistiaid sy’n ymwneud â chyhoeddi pamffledi barddoniaeth. Beirniaid y wobr Geltaidd oedd y Dafydd John Pritchard, David Wheatley ac Aonghas Pàdraig Caimbeul.

Yn sgil ei lwyddiant, bydd Morgan yn derbyn gwobr ariannol o £2,000 a chyfle i dreulio cyfnod fel bardd preswyl mewn digwyddiad yng Ngwlad Groeg.

Wrth ymateb, dywedodd mai ‘llawenydd deublyg’ oedd ennill y wobr. ‘Yn gyntaf’, meddai, ‘gwefr bur yw gweld fy ngwaith yn cael ei gydnabod yn y fath fodd. Mae’n dipyn o anrhydedd.’

‘Yn ail, rwy’n falch iawn bod gwasg annibynnol flaengar, sef Cyhoeddiadau’r Stamp, yn derbyn cydnabyddiaeth trwy’r wobr hon hefyd. Dyma goron ar gydweithio dedwydd iawn.’

Aeth ymlaen i ganmol y ffaith bod Gwobrau Michael Marks wedi sefydlu’r wobr hon yn benodol ar gyfer barddoniaeth yn yr ieithoedd Celtaidd.

‘Dyma gam arloesol a beiddgar, ac rwy’n falch bod ein llenyddiaeth ninnau yn cael ei hanrhydeddu fel hyn.’

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynorthwyo gyda threfniadau'r gystadleuaeth yma yng Nghymru, ac yn llongyfarch Morgan ar gipio'r wobr.

Gallwch glywed Morgan yn darllen o’r pamffled ar y noson wobrwyo isod:

-----

Mae’r pamffled gael ar lein o siop y Stamp, ac o siopau llyfrau ledled Cymru.

Previous
Previous

Newyddion: Y Stamp X REIC - Dulyn

Next
Next

Cyhoeddiad: Bedwen ar y lloer - Morgan Owen