Newyddion: Y Stamp X REIC - Dulyn
Braint i'r Stampwyr yw gallu cyhoeddi manylion digwyddiad yn Nulyn fydd yn cynnwys barddoniaeth yn Gymraeg, Gwyddeleg a Saesneg. Curedir y prosiect gan Y Stamp a REIC - noson ar gyfer barddoniaeth gair llafar a rap mewn Gwyddeleg - mewn cydweithrediad â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Bydd y noson farddoniaeth ar 9 Mawrth yn rhan o Wythnos Cymru Dulyn, ac yn cyd-ddigwydd â Diwrnod Rhyngwladol y Merched gyda'r bwriad o arddangos talent llenyddol menywod Cymraeg a Gwyddeleg sy’n cynhyrchu gwaith cyffrous mewn sawl iaith. Themâu ehangach Wythnos Cymru yn Nulyn yw diwylliant, iaith, amlieithrwydd, hunaniaeth ac adeiladu pontydd rhwng Iwerddon a Chymru.
Y tri bardd fydd yn teithio o Gymru i gymryd rhan yn yr wyl, fydd hefyd yn cynnwys gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio, yw Taylor Edmonds, Llio Maddocks a Siân Miriam.
Bardd a pherfformiwr o Gaerdydd yw Taylor Edmonds. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae BBC Sesh, Wales Arts Review, Butcher’s Dog, The Cheval Anthology a mwy. Enillodd un o Wobrau 2020 ‘Rising Stars’ Llenyddiaeth Cymru. Yn ogystal â hynny, mae Taylor yn gweithio gydag awduron BAME Where I’m Coming From trwy mic agored yng Nghymru.
Bardd ac awdur o Lan Ffestiniog yw Llio Maddocks sy’n ysgrifennu am y profiad o fod yn ferch yng Nghymru heddiw. Mae hi’n cyhoeddi ei cherddi ar ei chyfrif Instagram, yn ogystal ag yng nghylchgrawn Y Stamp a gyda Barddas. Hi yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer mis Chwefror 2020.
Wrth dyfu fyny yn Sir Fôn, roedd Siân Miriam wedi ei amgylchynu gan chwedlau cynhenid yr ynys. Ar ôl dychwelyd i’r ynys fel perfformiwr ac ymarferwr, mae’n datblygu steil traddodiadol o adrodd stori naill yn ochr â gair agored arbrofol a chân. Rhwng 2012-2015, astudiodd radd israddedig yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain – a graddio gyda BMus mewn Cerddoriaeth Boblogaidd yn 2015.
Y tri bardd sydd wedi eu dewis gan REIC yw Ciara Ní É, Dairena Ní Chinnéide a Sionainn Ní Ghréacháin.
Ciara Ní É yw’r Awdur Preswyl DCU 2020. Hi yw sylfaenydd REIC, sef noson gair llafar a mic agored sy’n cynnwys barddoniaeth, cerddoriaeth, adrodd straeon a rap. Perfformiwyd yn rhyngwladol yn Efrog Newydd, Llundain, Brwsel, Sweden, ac ar draws Iwerddon, mae hi hefyd yn llysgennad Canolfan Awduron Iwerddon.
Bardd dwyieithog yw Dairena Ní Chinnéide. Mae wedi cyhoeddi naw casgliad o farddoniaeth yn Wyddeleg. Deleted gan Salmon Poetry, a gyhoeddwyd yn ddiweddar yw ei chasgliad cyntaf yn Saesneg.
Mae Sionainn Ní Ghréacháin o Limerick, Iwerddon yn wreiddiol, ar hyn o bryd mae’n byw yn rhanbarth Vosges yn Ffrainc. Fe gwblhaodd gradd mewn Astudiaethau Cyfieithu Ffrangeg a Gwyddeleg yn ddiweddar o Brifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway, ac ar hyn o bryd mae’n dilyn ei rhaglen meistr mewn Astudiaethau Iaith Wyddeleg yno.
Gallwch archebu tocyn i noson Y Stamp x Reic yn Nulyn yma: https://tocyn.cymru/cy/event/74a2d055-e690-4a12-b004-4a50603437c3