Newyddion: Twm Ebbsworth - golygydd gwadd Ffosfforws 6

Hyfrydwch yw rhannu mai golygydd gwadd chweched rhifyn Ffosfforws, ein cyfnodolyn barddoniaeth gyfoes, yw’r bardd a’r llenor Twm Ebbsworth.

Twm oedd enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd a Choron yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 2022 ac enillydd Cadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn 2019. Yn wreiddiol o Lanwnnen ger Llambed, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae llawer o waith Twm yn myfyrio ar yr amrywiol resymau y bydd ieuenctig gwledig yn dewis gadael bro eu mebyd. Yn aml, gwna hyn gydag arddull ddychanol, a hiwmor tywyll.

Am olygu Ffosfforws, dywedodd Twm ei fod “eisiau creu casgliad sy’n adlewyrchu’r sbectrwm eang o deimladau mae geiriau’n medru eu hennyn ynom ni. Mae ‘na groeso mawr i’r llon a’r lleddf, a gorau oll os oes modd plethu’r ddau mewn un darn.”

Fe fydd galwad agored am gerddi ar gyfer rhifyn nesaf Ffosfforws yn fyw ar y wefan hon o ddydd Llun nesaf, 19 Awst. Cadwch lygad yma, a chofiwch fod holl rifynnau blaenorol y gyfrol ar gael o’n Siop fel ffeiliau digidol i’w lawrlwytho.

Previous
Previous

Galwad agored: Ffosfforws 6

Next
Next

Newyddion: Gŵyl Arall 2024