Galwad agored: Ffosfforws 6
NODER: Mae’r alwad agored hon bellach wedi cau. Bydd Ffosfforws: Rhifyn 6 - Hydref-Gaeaf 2024 yn ymddangos ar ddiwedd y flwyddyn dan olygyddiaeth Twm Ebbsworth.
Mae Cyhoeddiadau’r Stamp unwaith eto’n falch o wahodd beirdd i anfon eu cerddi er ystyriaeth i’w cyhoeddi yn rhifyn Hydref-Gaeaf 2024 cyfnodolyn Ffosfforws. Mae’r cyhoeddiad hwn yn agored i gerddi o bob math ac ar unrhyw thema. Rydym yn croesawu’r caeth a’r rhydd, y traddodiadol a’r avant garde; rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn gwaith sy’n arbrofol o ran thema, ffurf ac arddull, a gwaith gan feirdd o gefndiroedd sydd wedi’u lleiafrifo.
Darllenwch y gofynion cyflwyno yn ofalus cyn anfon eich gwaith at cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com, gan nodi FFOSFFORWS 6 fel pwnc. Gallwch hefyd anfon eich cerddi trwy’r post i Bron Llewelyn, Waunfawr, Caernarfon, LL55 4SD erbyn y dyddiad cau.
Golygydd gwadd: Twm Ebbsworth
Golygyddion cynorthwyol: Grug Muse & Iestyn Tyne
Dyddiad cau: HANNER NOS, DYDD SUL 15 MEDI 2024
GOFYNION
Gofynnir i chi gyflwyno hyd at 3 cerdd unigol neu un dilyniant o hyd at 3 cerdd. Ni fyddwn yn dewis mwy nag un gerdd gan un bardd oni bai am gyhoeddi dilyniannau.
Nid oes cyfyngiad ar hyd cerddi unigol. Cedwir yr hawl, fodd bynnag, i’r golygyddion gynnig detholiad i’w gyhoeddi yn achos cerddi hir.
Dylai’r cerddi fod yn waith gwreiddiol y sawl sy’n eu cyflwyno, ac ni ddylent fod wedi eu cyhoeddi mewn mannau eraill eisoes.
Oherwydd ymarferoldeb argraffu cerddi gweledol (e.e. cerddi collage neu ffoto-haiku) trwy ddull risograff, cerddi testun yn unig y byddwn yn eu derbyn ar gyfer Ffosfforws y tro hwn. Cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn.
Caiff y cerddi eu dewis gan y golygydd gwadd, gyda chefnogaeth y ddau olygydd cynorthwyol; bydd y broses o ddethol yn cael ei gynnal heb i’r golygydd gwadd weld enwau’r beirdd, er mwyn sicrhau diduedd-dra.
Bydd penderfyniad y golygyddion yn derfynol, ac ni fyddwn yn cynnig sylwadau yn ddiofyn ar gerddi a wrthodir.
Gofynnir i chi gyflwyno cerddi yn eu ffurf terfynol; ni fyddwn yn disgwyl i chi ailddrafftio gwaith a ddewisir, ond gallwn gynnig awgrymiadau gramadegol. Byddwn yn darparu proflen i chi ei gwirio cyn argraffu.
Byddwn yn cynnig cydnabyddiaeth o £15 am bob cerdd neu ddilyniant a gyhoeddir yn Ffosfforws. Byddwch yn derbyn manylion ar gyfer hyn yn dilyn ein penderfyniad.