Argraffiad newydd: Ystlum - Elen Ifan

Anaml y byddwn yn cael y fraint o gyhoeddi trydydd argraffiad un o gyfrolau Cyhoeddiadau’r Stamp, ond dyna fydd yn digwydd gydag Ystlum, y pamffled cyntaf o farddoniaeth Elen Ifan.

Fel gyda’r argraffiadau blaenorol, bydd y fersiwn newydd hwn yn dod gyda diwyg gwahanol - y palét a ddewiswyd y tro hwn yw ‘Cyfnos’. Bydd yn argraffiad cyfyngedig unwaith eto, a phob copi yn dod gyda chardiau post o waith Hannah Campbell a Shannon Haswell, dau artist y mae rhai o gerddi’r pamffled yn ymateb i’w gwaith.

Er mwyn clywed mwy am Ystlum, a chlywed y bardd yn darllen peth o’r gwaith, ewch draw i dudalen Podlediad Seiniau Stampus; yn y rhifyn diweddaraf, mae Elen yn sgwrsio gyda Mari Elen mewn recordiad o lansiad y casgliad yn siop lyfrau Palas Print, Caernarfon, fis Tachwedd 2022.

Gallwch ragarchebu eich copi heddiw o’n siop ar-lein.

Ystlum

Elen Ifan / Cyhoeddiadau’r Stamp 2022

argraffiad ‘Cyfnos’, gyda gwaith celf gan Shannon Haswell a Hannah Campbell

ISBN 978-1-8381989-5-4 / 36t. / £7.00

Previous
Previous

Newyddion: Silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru - Hydref 2023

Next
Next

Newyddion: Taith Lansio - Dysgu Nofio