Newyddion: Taith Lansio - Dysgu Nofio

Bydd Iestyn Tyne ar daith ym mis Tachwedd wrth iddo hyrwyddo ei gyfrolau newydd; Dysgu Nofio trwy Gyhoeddiadau’r Stamp, ac Unspecified Spaces, y gyfrol o gyfieithiadau o gerddi Stafelloedd Amhenodol a gyhoeddir gan Broken Sleep Books.

Bydd y daith yn ymweld â Chaernarfon, Caerdydd, Felinfach ac Anelog, gyda nifer o feirdd a llenorion amlwg eraill yn cymryd rhan. Gellir dod o hyd i union fanylion pob digwyddiad wrth iddynt ymddangos ar ein tudalen Digwyddiadau.

Diolchir yn gynnes i Palas Print, Dyddiau Du, Menter Gymunedol Dyffryn Aeron a Phlas Carmel am eu cefnogaeth.

Previous
Previous

Argraffiad newydd: Ystlum - Elen Ifan

Next
Next

Cyhoeddiad: Dysgu Nofio - Iestyn Tyne