Aled Lewis Evans
Ganed Aled Lewis Evans ym Machynlleth ym 1961. Fe’i magwyd yn Llandudno, Y Bermo a Wrecsam oherwydd natur grwydrol swydd ei dad fel postfeistr. Mynychodd Ysgol Uwchradd Morgan Llwyd, Wrecsam, ac aeth ymlaen i Brifysgol Cymru Bangor i astudio’r Gymraeg a Saesneg. Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o gerddi gyda Chyhoeddiadau Barddas ym 1989, ac yn 2019 derbyniodd wobr y Fedwen Lyfrau am gyfraniad oes i fyd cyhoeddi llyfrau Cymraeg. Yn dilyn cyfnodau fel darlledwr, athro uwchradd a thiwtor Cymraeg i Oedolion, daeth yn weinidog ar Gapel y Groes ac Ebeneser yn Wrecsam a Chapel Cymraeg Caer.