Carwyn Eckley

Yn enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd yn 2021, daw Carwyn Eckley o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Dros yr Aber, sydd wedi ennill y gystadleuaeth deirgwaith, ac ef oedd enillydd Tlws Coffa Dic Jones am gywydd gorau’r gyfres yn 2022. Mae’n newyddiadurwr wrth ei waith bob dydd, ac yn gweithio ar Cymraeg ITV ers tair blynedd: Y Byd ar Bedwar ac Y Byd yn ei Le. Mae’n aml yn gweithio ar straeon sy’n dangos elfen o anghyfiawnder ym mywydau pob dydd pobl yng Nghymru. Roedd hyn yn thema ganolog i’w awdl fuddugol yn 2021, oedd yn troi’r chwyddwydr at y lefelau enbyd o dlodi plant sy’n dal i fodoli yng Nghymru heddiw. Ar wahân i sgwennu, mae ganddo hefyd ddiddordeb mawr mewn pêldroed a dilyn y tîm cenedlaethol. Mae’n ei weld yn ddifyr iawn sut mae'r tîm wedi trawsnewid perthynas llawer o Gymry gyda'u hunaniaeth gyda'r Gymraeg yn ganolbwynt i'r hyn sy'n bwysig iddynt.

Previous
Previous

Aled Lewis Evans

Next
Next

Martha Ifan