Alys Hedd Jones
[2024] Daw Alys Hedd Jones o Gaerdydd. Mae’n 17 oed ac yn byw gyda’i rhieni a’i chwaer fach, Mabli. Mae ar hyn o bryd yn astudio Llenyddiaeth, Drama, Cymdeithaseg a Ffrangeg fel pynciau Lefel A yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern. O oedran ifanc iawn, bu ganddi ddiddordeb mawr ym myd theatr a cherddoriaeth ac mae wrth ei bodd yn ysgrifennu, yn actio, yn canu a chyfansoddi caneuon; gwêl y pethau hyn fel cyfleoedd i ddianc i fydoedd eraill.
Enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2024 gyda’r ddrama fer ‘Amserlen’, a gyhoeddwyd fel pamffled gan Gyhoeddiadau’r Stamp.