Lois Medi
Daw Lois Medi yn wreiddiol o Benrhosgarnedd, Bangor, ond mae’i theulu bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon. Mae’n 22 oed ac ar fin graddio mewn Anthropoleg Gymdeithasol o’r LSE felly nid yw’n syndod fod ganddi ddiddordeb brwd mewn pobl a’u gwahanol ffyrdd o wneud synnwyr o’r byd; diddordeb sy’n ymestyn i’w gwaith llenyddol.
Bu’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd y Garnedd, Bangor, ac yno yr enillodd ei chadair eisteddfodol gyntaf. I’w rhan hefyd daeth coron eisteddfod Ysgol Tryfan a chadair eisteddfod Ysgol Uwchradd David Hughes, Porthaethwy. Enillodd sawl gwobr yn adrannau llenyddol eisteddfodau’r Urdd, gan gynnwys dod yn drydydd am y Fedal Ddrama yn 2022. Y 2023, dyfarnwyd iddi Dlws D. Gwyn Evans gan Barddas, am y gerdd orau gan feirdd rhwng 16 a 25 oed.
Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, gyda’i cherdd ‘Gwrthryfela’, a gyhoeddwyd fel pamffled gan Gyhoeddiadau’r Stamp.