Tegwen Bruce-Deans
Mae Tegwen Bruce-Deans yn byw ym Mangor, er iddi gael ei geni yn Llundain a’i magu yng nghefnwlad Maesyfed. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir
Gaerfyrddin 2023, a chyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Gwawrio (Cyhoeddiadau Barddas), ychydig wythnosau yn ddiweddarach. Y flwyddyn ganlynol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Maldwyn 2024, enillodd y Goron - yr ail yn unig i fod wedi ennill dwy brif wobr lenyddol yr Urdd. Ynghyd â’i gwaith fel cynhyrchydd i BBC Radio Cymru, mae Tegwen hefyd yn un o gydlynwyr casgleb greadigol Kathod ac yn rhan o gynllun Pencerdd Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2024-25.