Stori Fer: Aberth y Tafod - Morgan Owen

Chwythai dalennau crimp fel croen winwns o’r berfeddwlad o bryd i’w gilydd. Deuent ar wynt sych a chrasboeth a ddaethai dros y tiroedd llwm a gwag, ac ni wyddai neb eu tarddiad. Mynnai’r ofergoelus taw cenadwri wasgaredig rhyw broffwyd oeddent a aeth ar goll ar y paith, ac a daflai ddalennau ei lyfrau i’r awyr gan obeithio y cyrhaeddent eu nod yn y pen draw, sef calonnau briw y boblogaeth weddilliedig. Ond ni roes neb fawr o goel ar y ddamcaniaeth hon.

Diystyr yw’r gair ‘proffwyd’ bellach a ninnau wedi’n gwthio i ymyl yr anialwch gan y Don Fawr. Cofiaf fel y cadwasom ein dyletswydd yn ufudd yn wyneb pob ymosodiad arnom – hyd yn oed pan hanerwyd ein niferoedd mewn rhyfel cïaidd yn erbyn ysbeilwyr yr allfro – dim ond i don ddu fel mynydd muchudd godi o’r môr ryw fore o wanwyn a llyncu’r wlad mor bell â Thwyn Mwyalchod, lle’r ysgrifennaf y geiriau hyn. Nid oes neb ohonom ar ôl sy’n cofio’r Don Fawr, ond mae nerth y dŵr i’w ganfod yn y creithiau dyfnddu anferthol sy’n arwain i’r môr, er nad yw ein hofn yn caniatáu inni eu harchwilio. Dywed ambell un fod olion cerfluniau duwiau ysgyrnygllyd ymysg y rwbel.

O sefyll yn wynebu’r De, dyma a welir: o’n blaenau mae tir bradw a sgwriwyd gan lid y weilgi; y tu cefn i ni mae glaswellt crinwelw mor bell ag y mae’r dewrion yn mentro wrth chwilio tarddiad y dalennau tywyll. Nid o’r môr y dônt: ffin bywyd yw eithafbwynt y Don Fawr. Nid awn ar gyfyl y môr.

Mae beddfeini’r dewrion yn dangos terfyn ein chwilfrydedd wrth gyrchu’r berfeddwlad a tharddiad y dalennau: codwyd eu beddi lle y syrthiasant – neu o leiaf mor agos ag y gellid mynd at eu cyrff braen heb ddioddef yr un dynged. Ynfydrwydd a’u lladdodd. Wrth iddynt ddynesu at yr adfail cerrig cannaid yng nghanol y sychdir mawr, torasant eu gyddfau â’u cyllyll callestr, canys clywsant sisial iselais yn symud fel cysgod o boptu’r adfail. Credid – nid yn gwbl ddi-sail – taw dyna darddiad y proffwydoliaethau eres.

Penderfynais i, Tonri Morudd, gywain y dalennau a mynd at lygad y ffynnon fy hunan, cyn i’r Eildon Fawr y rhybuddia’r dalennau amdani fy nhraflyncu innau. Clywir grwgnach o grombil y ddaear weithiau wrth i’r Eildon Fawr fagu nerth bellbell yn nyfnderoedd du yr eigion. Ar y papur fel adenydd gwyfyn y mae ein hiachawdwriaeth.

Hynny a gefais, felly. Derbyn ewyllys y dalennau yw unig obaith y Gwellitwys, nyni’r bobl felltigedig sy’n byw yng nghysgod y Don. Fel y dywedais, ni wyddys pryd y dechreuodd y dalennau lesg-golomennu tuag atom, ond serch hynny, gallaf dystio i’w geirwiredd. Os nad wyf yn cablu, dyfynnaf o’r Gair:

“Ef biau’r Gair, yr hwn a rytha y tu ôl i’r llen. Ef a aeth ymaith i’r diffeithdir er mwyn canlyn gwreichionyn cyntaf amwyll; y lluchedigaeth gyfrwys yn y meddwl pan welir y llwch a’r gwynt a’r tes am y tro cyntaf; pan ddaw rhithyn o’r byd yn ymwybodol ohono ef ei hun.

“Ei feddwl Ef oedd yn ystwyrian. O wacter llwyr y dygwyd un a wêl ac a glyw. Pan welodd Ef ddiffeithed y maes, gadawodd ei gwt o galchfaen ddrylliedig i gyfarch y giwed ar y traethau pell.

“Cafodd nad oedd ond gwallgofddynion yn weddill, hwynt a drigant ymysg creigiau a fwriwyd gan y môr i berfedd gwlad. Gwrthodwyd Ef, a’i erlid ymaith.

“Ni ddeallodd y giwed mohono. Daliasant i siarad yr heniaith a dyfasai’n ddanadl ar eu gwefusau. Brifai pob gair pigog nes iddynt fethu â siarad gan mor chwyddedig eu tafodau. Tagwyd yr heniaith gan lwch gorffennol treuliedig wedi i’r giwed ymgaregu yn eu heneidiau o ddychryn rhag y Don Fawr.

“Aeth Ef drosom i’r anialwch a rhwygo ei Dafod – ein Tafod – o’i ben, a rhyddhau’r byd o afael yr heniaith a dyfasai’n ddanadl.

“Dygodd Ef gyfrolau gwymonllyd hallt-hollt i’r caregle a chyrchu drachefn y gwyngwt calchfaen yn y diffeithwch.

“Fel hyn y gwaeth Pesgyn Llenfaeth.”

Lloffais y wybodaeth hon o’r dalennau wedi llafur maith. Dyn a chanddo galon gallestr wyf, fel y disgwylid gan un sy’n trigo yn yr anialwch ar un llaw ac ym myd dellt y Don Fawr ar y llall. Ond wylais wrth ddarllen y Gair. Ailgyneuwyd ynof wreichionyn amwyll, fel i mi weld a chlywed. Dysgais sut mae llefaru’r heniaith newydd a garthwyd yn lân o’i llwch gan aberth y Tafod.
Ystyriais y dalennau a ddaeth i’m rhan yn arwydd taw fi oedd yr eneiniedig a âi â’r gwaith yn ei flaen. Euthum y tu hwnt i’r beddfeini ar y paith, a sefais gerbron y gwyngwt.

Y tu ôl i’r drws sigledig yr oedd llen goch a thân isel yn chweg hymian. Tynnais y llen. Gwelais Ef: penglog gegrwth, llygadrwth â chwibanogl yn ei cheg. O amgylch yr ystafell fechan roedd pentyrrau o ddalennau a rwygwyd o hen gyfrolau ac olion bysedd gwaedlyd ar nifer ohonynt. Sefais yno’n ddigon hir i weld bod pob awel yn ysigo’r cwt di-do ac yn hyrddio dyrnaid o ddalennau i’r peithdir di-derfyn.

Fi sy’n dwyn y draul bellach. O’m gwyngwt sigledig, heuaf ddalennau fy mythau i’r gwynt sych, oriog. Hanes a’m cyfiawnha.

Previous
Previous

Cerdyn Post Creadigol: ‘Mericia - Llyr Titus

Next
Next

Cerdd: Ai hyn yw’r Nadolig? - Gwen Saunders Jones