Cerdd: Ai hyn yw’r Nadolig? - Gwen Saunders Jones
Cadw’r goeden a’i haddurniadau yn eu bocsys,
yna’r tinsel a’r trimins,
cadw’r wên a sodrwyd ar fy wyneb,
a’r hwyliau da y ffugiais o flaen y plant
am gyfnod didrugaredd o ddiddiwedd.
Tociwyd corneli ar y ffeithiau,
clymwyd rhuban ar ein teimladau,
ac yn ddistaw, ddistaw bach,
datgelwyd ein gwendidau,
a lapiwyd mor benderfynol o dynn efo’i gilydd
gyda’n tâp sello o gelwyddau.
Yna, ffrwydrasom.
Yn chwerwder yr holl alcohol a yfwyd,
poerasom gasineb a bryntni
at ein gilydd;
hen wirioneddau poenus a hyll wedi’u bragu dros y blynyddoedd.
A’n hangylion bychain ni sy’n eistedd yn gegrwth,
wedi’u dychryn yng nghyflwr truenus
mam a dad.
Chwincia’r goleuadau’n ddiniwed yn y ffenestr flaen,
gan dwyllo pawb ar y tu allan am dywyllwch ein dirywiad ni,
a’r ffaith ein bod ninnau, fel y bocsys sy’n dal y goeden a’i haddurniadau,
wedi dadfeilio a dod o’i gilydd.
Wedi holl firi ac annibendod y teganau a’r trimins a’r twrci,
daeth y diwrnod i ben, a ninnau gydag ef.