ARCHIF
~
ARCHIF ~
Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.
Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
POPETH / Adolygiadau / Amrywiol / Barddoniaeth / Cardiau Post Creadigol / Celf / Cyfweliadau / Rhestrau Darllen / Rhyddiaith Greadigol / Ysgrifau
CATEGORIAU ARBENNIG: MIS HANES LHDTC+ 2019 / MIS MUDO / GŴYL INSTAGERDDI 2019 / MIS BACH GWYRDD 2020
Stori fer: Y Goeden - Eluned Winney
Maen nhw’n dweud bod ’na goeden yn yr hen goedwig lawr y lôn sydd ddwywaith yn lletach nag unrhyw goeden ’rwyt ti wedi ei gweld erioed. Maen nhw’n dweud ei bod mor hen â’r mynyddoedd.
Stori fer: Gweledigaeth Bedwyr - Dyfan Lewis
Daeth sŵn o'r gwyll. Un o'r synau hynny oedd yn ddigon i frawychu pan fo golau dydd ar fin pallu, a synau a sïon eraill wedi bod yn hel am fall yn y goedwig.
Stori fer: Dychmygwch - Ceinwen Jones
Dychmygwch ddrws yng nghanol cae. Cae eitha bach ydi o. Does na’m byd arall yn y cae.
Stori fer: Odd hwn yn shit idea... - Siôn Tomos Owen
Dwi di ishte 'ma digon o weithiau i wybod os ddeith rhywun drwy gatiau’r parc a gweld fi fan hyn ar y fainc 'ma, gallen nhw droi reit rownd a gadael cyn i mi hyd yn oed gweld nhw’n deidi.
Portread: Myrddin Jôs - Cenin Siôn Hughes
Wrth i fywyd fynd yn ei flaen yn ei ruthr beunyddiol, eisteddai Myrddin yn ei nefoedd bren o hanner awr wedi wyth y bore hyd nes troi tuag adref wrth i’r gwyll gau amdano.
Stori Fer: Y Gymwynas Olaf - Lliwen Glwys
Llithrodd Rowenna i siâp cartrefol sedd deithiwr yr hen Seat Ibiza glas a chlepian y drws tu ôl iddi’n dynn. Trodd ei hŵyr, Rhys, i edrych arni o sedd y gyrrwr â gwên gynnes.
Llên Meicro: Gaeafddydd yn Heolgerrig - Morgan Owen
Mae’r barrug yn gallu twyllo rhywun, a’i ystryw fwyaf yw dangos iti dy gamre yn fachgen, mor glir a phe baet yn dynn ar dy sathr dy hun ddeng mlynedd yn ôl. Ond mae’r dadlaith blynyddol yn chwyddo’r pellter o hyd.
Stori Fer: O'r Môr #1. DON'T DRINK SEA WATER - Mari Huws
Roedd y dingi oren yn arnofio ar wyneb y dŵr yn dawel. Dim tir, dim llong, dim aderyn. Dim i’w weld ond gwyneb tawel y dŵr, y tri corff o’i flaen a’r bag. Drwy gil ei lygaid edrychodd Qian ar linell syth y gorwel, llinell syth fel petai rhywun wedi ei thynnu gyda phren mesur. Y linell syth sy’n gwahanu’r môr a’r awyr. Awyr di gwmwl. Y ddau fod mawr, meddyliodd. Y môr a’r awyr. Anfarth.
Stori Fer: Y Gwydr - D. D. Owen
- Odw, rwy'n falch ohonyn nhw. Tair seren! S'dim llawer â chymaint – maen nhw'n arwydd fy mod i'n un o’r goreuon, neu ar y ffordd yno, er taw dim ond dwy sy'n aur. Mae un yn orfodol: os oes llif 'da chi, rhaid i chi ennill hon i dystio nad oes unrhyw beth ar eich llif sy'n groes i foesoldeb, teyrngarwch na wleidyddiaeth gywir ein Gweriniaeth. Eich bod chi'n gyfreithiol.
Stori Fer: Rhywbeth rhyfedd yn y dŵr - Seran Dolma
Mae 'nhad yn gwisgo mantell o fflamau, ac yn marchogaeth trwy'r awyr ar gefn teigr, ei lygaid yn poeri mellt a'i lais yn atseinio fel taranau o amgylch y clogwyni. Mae fy mam yn gorwedd yn wyrdd a chysglyd yn yr heulwen, ei chorff yn llyfn a llonydd, dŵr yn cronni yn ei phantiau ac yn anweddu o'i hysgwyddau.
Stori Fer: Mon Petit - Iestyn Tyne
Bob bore am unarddeg, byddai Kingsley Llywelyn yn paentio’r môr. Wedi deffro am wyth a hepian am hanner awr, byddai’n codi o ochr chwith y gwely, ac yn gwneud ei ffordd o’i amgylch i agor y llenni ar y dde. Gyda’r haul boreol yn tywallt trwy’r gwydr sengl, byddai, yn yr haf o leiaf, yn defnyddio’r golau naturiol hwnnw i eillio, wedi iddo gychwyn rhedeg bath iddo’i hun.
Stori Fer: Yncl Dennis - Iago ap Iago
Syrthiodd Dennis i’r llwyn, y deisen lemwn drisl yn malu’n friwsion yn ei law dew, binc. Rhyw dair llath i’r chwith, roedd Gwawr ei wraig ar y lawnt yn horisontal yn barod, synau bychain a diferiad o ddŵr pinc yn dod allan o’i chêg. Potel a hanner o wîn y tu fewn iddi. Ffrog feinweol a hollol anaddas i’r tywydd yn dal amdani’n ddewr.
Stori Fer: Aberth y Tafod - Morgan Owen
Chwythai dalennau crimp fel croen winwns o’r berfeddwlad o bryd i’w gilydd. Deuent ar wynt sych a chrasboeth a ddaethai dros y tiroedd llwm a gwag, ac ni wyddai neb eu tarddiad. Mynnai’r ofergoelus taw cenadwri wasgaredig rhyw broffwyd oeddent a aeth ar goll ar y paith, ac a daflai ddalennau ei lyfrau i’r awyr gan obeithio y cyrhaeddent eu nod yn y pen draw, sef calonnau briw y boblogaeth weddilliedig. Ond ni roes neb fawr o goel ar y ddamcaniaeth hon.
Stori Fer: Torri Gwallt ar Fore Mawr – Dewi Alter
Edrychais ar y newyddion yn syth pan ddihunais. Arhosais i fyny’n hwyr er y bûm yn benderfynol o beidio. Mae rhywbeth am etholiadau sy’n fy nghyffroi. Honna nifer bod lleiafrifoedd yn llawer mwy effro’n wleidyddol, wn i ddim os yw’n wir ai peidio. Arhosais ar ddihun tan tua 2 o’r gloch, hanner wedi 2, efallai, yn gwylio. Yn gaeth i’r sgrin wrth i ganlyniadau ddiferu’n araf i mewn.
Stori Ffantasi: Y Brawd a’r Chwaer – Elidir Jones [Rhan 3]
Deffrodd ar ei draed mewn gardd. Yr ardd brydferthaf iddo ei gweld erioed. Patshyn bach o dir yn arnofio yng nghanol awyr las, heb gwmwl yn agos ato. Yn y canol, roedd coeden anferth yn ymestyn tua’r nef, ei brigau trwchus llwyd yn gwthio i bob cyfeiriad, dail hir o wyrdd dwfn yn glynu’n styfnig wrthyn nhw. Cofiodd bod coeden debyg wedi tyfu y tu allan i Norkov pan oedd o’n blentyn. Roedden nhw wedi ei thorri i lawr flynyddoedd yn ôl.
Stori Ffantasi: Y Brawd a’r Chwaer – Elidir Jones [Rhan 2]
Pwysodd Timofei yn ôl yn erbyn y wal. Bu rhaid iddo gyfadde nad oedd o erioed wedi clywed am yr un o’r duwiau roedd Sonda wedi eu crybwyll. Un duw’r gwynt oedd yn wybyddus iddo fo – Gwern, Arglwydd y Dymestl. Pan roedd o’n paratoi i adael Norkov, roedd y si ar led bod teml fawr yn cael ei chysegru yn ei enw rywle yn Undeb y Borthoriaid. Penderfynodd nad oedd hi’n syniad da crybwyll ei enw yng nghlyw Sonda.
Stori Ffantasi: Y Brawd a’r Chwaer – Elidir Jones [Rhan 1]
Doedd y mynachdy ddim ar unrhyw fap. Doedd y rhan fwyaf o bobl yr ardal ddim yn gwybod ei fod yn bodoli o gwbl. Wedi ei leoli yn nhir gwyllt ac anwar y Cneubarth, ac ymhell, hyd yn oed, o ganolfannau tlawd a rhyfelgar y wlad honno, yng nghanol anialwch dienw, ei wyntoedd tywod yn boddi unrhyw lwybrau’n ddigon buan.
Llun a llên: Prifddinas – Efa Lois
Mynwent o atgofion oedd y ddinas. Yng nghysgodion ei beddfeini, llochesai ambell awgrym fod gobaith wedi trigo yn y lle hwn rywdro. Credodd addewidion y cwmnïau mawr – mi fyddai hi’n arbennig. Mi fydden nhw’n ei gwareiddio hi, drwy wydr a dur, nes ei bod hi fel pobman arall.
Stori fer: Atgofion Annelwig - Rhiannon Lloyd Williams
Peth rhyfedd ydy’r cof.
Ydych chi’n cael trafferth cofio pethau?
Cofiaf ddiwrnod fy mhriodas yn glir fel pe bai’r blynyddoedd heb fod o gwbl.
Stori fer: Safbwynt - Ifan Tomos Jenkins
Tarodd Harri nodyn arall, ac un arall. Roedd e’n drefnus, yn graff, yn grefftus. Fe oedd yn rheoli’r ystafell. Neb arall. Rheoli’r anadlu a’r sŵn. Rheoli’r cymdeithasu. Rheoli’r emosiwn. Adeiladai’r nodau ar ben ei gilydd nes eu bod yn un wal gref o gysur. Gosodai’r nodau yn ofalus yn y mannau a oedd yn ecsbloetio’u rhinweddau orau. Defnyddiai’r nodau cedyrn i gefnogi’r rhai bregus, tra’i fod yn ofalus i beidio â’u gorlwytho. Torrodd a gweithiodd wrth rai o’r nodau fel petaen nhw’n emau gwerthfawr er mwyn i’r golau fownsio’n chwareus o’u cwmpas, cyn dianc er mwyn i’r byd gael eu gweld yn eu holl gogoniant. Nodiodd ei ben, dim gormod, ac roedd hynny’n ddigon; ymunodd pawb yn y canu.