Adolygiad: Anweledig - Aled Jones Williams

Ffion Dafis fel Glenda yn Anweledig

Dyma fi eto yn hwyr i ddrama ac angen neud y walk of shame lan y grisie i fy sêt wrth deimlo llygaid PAWB yn y theatr yn edrych arna i. Fel arfer, os mai cynulleidfa drama Gymraeg yw hi, dim ond ambell bâr o lygaid sy'n edrych arnat ti, ond na, roedd prif theatr y Sherman yn llawn gyda phawb yn eu seddi yn barod i weld Anweledig fel cyfanwaith terfynol. Ond er bod y theatr lawn yn achos embaras i mi, do'n i ddim wedi synnu gweld pob set wedi mynd. Mae theatr lawn ar gyfer perfformiadau Cwmni Theatr Frân Wen yn olygfa gyfarwydd i mi yng Nghaerdydd. Roeddwn i wrth fy modd â sut aeth cwmni theatr y Frân Wen ati i farchnata'r sioe, boed trwy ffotograffau ysgytwol o Ffion Dafis, yn bosteri enfawr o gwmpas strydoedd Caerdydd neu yn uwchlwytho fideos ar gyfryngau cymdeithasol yn dilyn y broses o greu'r ddrama.

Ar ddechrau'r sioe roedd wal wen anferth wedi'i osod fel cefndir i'r perfformiad gyda Ffion Dafis (Glenda) yn gorwedd ar y llawr. Roedd y pwnc dan sylw, sef iselder, yn un trwm iawn, ac rwy'n falch bod y cwmni wedi rhoi cyfle i'r sgript bwerus yma ddod i olau dydd. Teimlais i'r cyfnod o flaen y wal lusgo'n ofnadwy ar rhai adegau gan nad oedd newid yn naratif, emosiynau'r sgript na'r set. Rhaid dweud nad o'n i'n hoff o'r rhaffau oedd o gwmpas traed Glenda. Ro'n i'n credu bod y rhaffau oedd wedi'u siapio fel rhaffau crogi braidd yn naff a predictable. Wrth i Ffion Dafis newid cymeriad o Beryl i Huw i Glenda, roedd y newidiadau cymeriad yn hollol naturiol ac yn llifo'n wych. Un uchafbwynt i mi oedd symudiadau corfforol ac osgo Glenda wrth iddi rowlio nôl ac ymlaen yn ei gwely yn ail-adrodd yr hyn oedd ar ei meddwl. Er ei bod yn pwyso ar gefn y wal wen, ro'n i'n gweld Glenda yn glir yn ei gwely mewn stad amrwd, ddiniwed a chignoeth wrth iddi ymladd trwy eu meddyliau tywyll. Er nad o'n i'n hoff o siâp y rhaffau, roedd y symudiadau wrth iddi suddo i mewn i'r môr yn ddirdynnol. Roedd y tensiwn a'r egni yn ei chorff yn wych yn y rhan yma. Wrth ddeall mai Eddie Ladd oedd yn gyfrifol am y perfformiadau corfforol, nid yw'n syndod bod y rhannau corfforol yma wedi sefyll allan imi. Unwaith i'r wal wen godi, datgelwyd dwy sgrîn anferth a sawl blodyn orchid ar y llawr. Ar ôl i'r wal godi, roeddech chi'n gweld y pwysau'n codi oddi ar ysgwyddau Glenda. Nid oedd hi'n hollol well, ond roedd hi'n gwella. Wrth beidio cael y wal yno, roedd hyn yn dangos bod newid a gwellhad i'w weld yn nyfodol Glenda ac yn cynnig gobaith i'r gynulleidfa. Ni welais lawer o arwyddocâd a phwrpas i'r orchids ar hyd y llawr, ac roedd y fideos o Ddinas Dinlle yn neis, ond eto doedden nhw ddim yn gyffrous iawn nac yn llwyddo i atgyfnerthu a chyfoethogi'r sgript. Roedd y sgript yn dda, ac rwy'n credu bod y ddrama yn un bwysig iawn i Gymru a thu hwnt oherwydd ei fod yn trafod mewn manylder y daith o ddioddef a gwella o salwch meddwl. Er na fu i mi erioed ddioddef o salwch meddwl i'r un eithafion â Glenda, ro'n i'n gweld fy hun, fy ffrindiau a fy nheulu mewn agweddau o'i chymeriad. Roedd hynny'n beth ysgytwol oherwydd bod pawb yn ei ffordd ei hun yn gallu dioddef salwch meddwl. Mae'n ddrama addysgiadol sy'n dysgu aelodau o'r gymdeithas sut i helpu a siarad gyda dioddefwr. Er hyn, ar ôl trafod y ddrama gyda ffrindiau, cytunon ni fod rhai agweddau o'r sgript braidd yn dated. Un o'r enghreifftiau hynny yw bod Glenda yn mynd i 'Dimbach', yn hytrach na rhywle fel Hergest neu Llandoc. Roedden ni'n gweld y jôc 'pobl methu dweud Dimbach' yn perthyn i genhedlaeth lle nad oedd salwch meddwl yn cael ei drafod o gwbl. Ond erbyn hyn, mae pobl yn gallu dweud eu bod yn derbyn triniaeth am iechyd meddwl yn fwy agored. Roedden ni'n teimlo fel bod yr agwedd a'r jôcs yma'n perthyn i adeg Un Nos Ola o Leuadaidd a gafodd ei ysgrifennu bron i hanner cant o flynyddoedd yn ôl.

Dysgais sut y gall gwella fod yn waeth na bod yn sâl a pha mor anodd yw'r broses o wella. Disgrifwyd ar ddiwedd y ddrama sut fyddai Glenda weithiau yn gorffen ei diwrnod am 2:15, ac roedd hyn bron yn 'top tip on how to deal with depression'. Er ei fod e'n gynnil iawn, roedd e'n weithred y gallwn ni i gyd ei chofio wrth brofi diwrnod gwael. Felly ro'n i'n falch imi weld y sioe, gan i mi ddysgu llawer am y cymhlethdodau a’r haenau sydd i salwch meddwl. Er fod rhai agweddau o'r sgript braidd yn dated a hirwyntog, roedd y sgript yn addysgiadol ac yn ymdreiddio'n ddwfn i feddwl cymeriad diddorol a chymhleth. Gallai'r cyfarwyddo fod yn fwy sionc, er mwyn dod â mwy o elfennau diddorol i'r perfformiad. Byddai mwy o ddychymyg a chreadigrwydd wrth fynd ati i lunio'r set a'r goleuo wedi helpu lleddfu ar drymder y thema dan sylw hefyd. Ond gwelwyd perfformiad dirdynnol ac ysgytwol ar lwyfan y Sherman y noson honno, diolch i Ffion Dafis.

-----

Cyhoeddir pob adolygiad o gynnyrch newydd Cymraeg neu Gymreig yn Y Stamp yn ddienw.

Previous
Previous

Rhestr Ddarllen: Pump o Insta-feirdd - Iestyn Tyne

Next
Next

Cerdd: Gêm – Matthew Tucker