Adolygiad: Saethu Cwningod

Roedd gan y diweddar artist aml-gyfrwng Mike Kelley derm, “negative joy,” i ddisgrifio’r dynfa sydd mor aml wrth graidd darnau o waith sy’n ymwneud â phynciau gwleidyddol heriol. Disgrifia’r berthynas anodd rhwng yr elfennau rydym fod i’w adnabod fel rhai Pwysig neu Bryfoclyd gyda’n awch i jyst ennyn pleser, i fwynhau; mae negative joy yn ffordd dda o roi enw i’r teimlad penodol (a phrin) ein bod yn medru gwneud y ddau. Byddai Kelley yn son am gelf C-fawr yn benodol, fel cyfrwng a ddiffinir yn erbyn rhai fel teledu neu, am wn i, cynhyrchiadau llwyfan. Ond mae’r cysyniad wedi bod yn troelli ar fy meddwl wrth i mi eistedd mewn theatr sawl tro yn y misoedd diwethaf, a gwylio darnau sy’n ymwneud â Phynciau mawr, gyda’n Heddiw, a sut daeth Hanes a ni yma.

Mae Saethu Cwningod / Shooting Rabbits (tybiaf fod y teitl yn well ar y ffurf dwy-ieithog), cynhyrchiad llwyfan gwreiddiol gan PowderHouse, cwmni newydd Chelsea Hillard a Jac Ifan Moore, yn un ohonynt, a dwi’n teimlo fod ategu term Kelley yn addas hefyd am fod hwn yn gynhyrchiad ag iddo ymagwedd aneglur, hanner-dealladwy i’w gymeriadau a’i themau sydd mewn ffordd yn fwy atgoffus o sffer celf weledol na theatr Gymreig arferol. Nid yw’n ddrama naratif yn union ond yn hytrach yn ddilyniant o olygfeydd sydd gan mwyaf yn fwy dibynnol ar waith symud na datblygiad cymeriad neu naratif traddodiadol. Ac mae’r rhain wedi eu gweu o gwmpas hanesion dynion o Gymru ac Iwerddon yn ymuno â’r ymgais gwrth-ffasgaidd rhyngwladol yn rhyfel cartref Sbaen. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys Cymraeg, Saesneg, Sbaeneg a Basgeg; ry’n ni’n symud o ’stafell clyweliad theatr heddiw, i dir neb yng Ngwlad y Basg, a phobman rhyngddynt; o 2019 i 1936 a phwy a wyr pa gyfnod arall.

Lluniau gan Jorge Lizalde

Mae hanesion Cymry a Gwyddelod yn y Brigadas Internacionales yn bennod o hanes sy’n orlawn o botensial i gael ei ystyried o’r newydd yn y ffurf ansefydlog hwn, ac yn yr amgylchedd wleidyddol rydym yn cerdded mewn i’r theatr ohoni (o sawl ongl), ac mewn rhai ffyrdd mae’r artistiaid tu ôl i’r sioe’n gwneud y mwyaf ohono. Heb os mae’r ymdriniaeth hon yn un llawn delweddau cofiadwy a deinamegs trawiadol. Ac mae’n synnu ac yn anesmwytho disgwyliadau ar fwy nag un adeg. Bob hyn a hyn mae’r cynhyrchiad yn teimlo fel ei fod ar fin wir treiddio mewn i’r hyn mae (neu gall) solidariaeth ei olygu; mae Saethu Cwningod ar ei orau pan mae’n gwneud cysylltiadau annisgwyl am amhosibilrwydd solidariaeth arwynebol. Mae’r cyffyrddiadau dychanol - am Gymry dosbarth-canol cyfoes a’n obsesiwn a gwneud cymhariaethau lliwgar am ein sefyllfa heddiw yn enwedig, ymysg pethau eraill - er mor sydyn maen nhw’n dod a mynd, yn uchafbwyntiau. Yn y moments hyn gwelaf rhywbeth fel requiem wirioneddol dreiddgar am yr hyn rydym yn ei drafod pan drafodwn ramantiaeth wleidyddol, a’i efaill cudd, anobaith. Gwelaf egin rywbeth newydd ar gyfer theatr gyfoes, a rhywbeth cyffrous.

Ond mae’r fersiwn hwnnw o Saethu Cwningod dwi’n gobeithio’i weld ar sgrin fy nychymyg yn anffodus yn gwrthod datgelu ei hun.

Pan sylweddola’r gwyliwr y blas anorfod gwaith-ar-waith sydd ar y cynhyrchiad, mae’n rhaid cyfaddef, daw’n haws gwerthfawrogi ei bleserau. Dyma lle dychwelaf at y syniad yma o negative joy, a tybiaf mai efallai’r lletchwithdod yngylch themâu gwleidyddol y sioe sy’n ei gwneud mor anodd gweld beth sy’n clymu’r oll at ei gilydd, beth yn union sydd yna i gadw’n synhwyrau deallusol yn effro wedi’r dilyniant cryf o olygfeydd cyflwyniadol.

Mae’n wir ’mod i wedi cael pleser mawr o rai o’r coreograffau o fewn Saethu Cwningod - er bod dim coreograffydd wedi ei enwi, dyma pan mae’r cynhyrchiad yn gwneud y mwyaf o synnwyr, yn union am fod y ffurf hwnnw, symud, gymaint llai dibynnol ar gael ei ddarllen mewn ffordd arferol. Ac mewn ffordd, mae rhywbeth refreshing am fodestrwydd y sioe - dwi ddim yn amau fod gan yr artistiaid tu ol iddo amcanion gonest a deallus. Pam ddim eistedd ’nol a gwerthfawrogi’r hyn sy’n digwydd o fy mlaen, dim ots pa mor llipa’r sail cyd-destunol? Yr ateb ydy bod y cynhyrchiad yn danglo cymaint o hanner-syniadau a gwrthdrawiadau cyffrous o’n blaenau, a byth yn gwneud llawer mwy na’u cyflwyno.

Dyma’r prif wahaniaeth, sylweddolais ychydig ddyddiau ar ol profi’r ddau ddarn, rhwng y sioe hon ac un gwyliais yn Chapter dwy noswaith ynghynt. Mae cynhyrchiad Taking Flight o peeling gan Kaite O’Reilly yn ddarn o waith ymosodol, sy’n gwneud hwyl am ben y syniad bod gofod y theatr yn ofod sâff i gynulleidfa. Fel Saethu Cwningod, mae’n cyflwyno’i hun fel gwaith sydd am y sefyllfa mewn rhyw ffordd, ac yn cynnig ei hun fel ymyrraeth yn y sgwrs o’i hamgylch.

Dilynwn ddeialog tair actores ag anableddau, wrth iddynt basio’r amser mewn corws epig Rhufeinig ar lwyfan theatr lwyd rywle ynghanol Lloegr. Wrth i’r olygfa ddatblygu, cawn bortread craff a dwfn o’r ffordd ry’n ni’n gweld, a pheidio a gweld, cyrff a bywydau mewnol pobol sy’n bodoli tu allan i rai normyddol ein cymdeithas gyfalafol. Ond cawn hefyd drafodaethau am lawer mwy, pynciau fel erthyliad a cholled a brad, i gyd yn lleisiau’r ffigyrau cymhleth o’n blaenau, lleisiau dydy’r rhan fwyaf ohonom gan amlaf ddim yn meddwl eu gosod o’n blaenau’n ddi-ffilter.

Roedd yna hyder, dewrder a steil i’r ffordd roedd peeling yn chwarae a’r tensiwn rhwng pryfocio a phleser, wnaeth wir amlygu ymdriniaeth hanner-ffordd Saethu Cwningod at ei bwnc, a’i ffurf. Roedd peeling yn datblygu, yn newid ffurf mewn cyfeiriadau peryglus a chyfoethog, heb fradychu’r hyn oedd yn ei yrru; yn ein gwahodd i feddwl am ei destun o’r newydd wrth sicrhau mai dim ond rhan o’r darlun ydoedd.

Mwynheais bravado - bron iddo fod yn goofiness - y moments yng nghynhyrchiad PowderHouse pan fyddai’n cymryd trobwynt sydyn, fel mewn golygfa tua’r diwedd lle gwelwn ddisgwrs gwleidyddol Cymru a Phrydain heddiw fel rhyw fath o bantomeim swreal gwaedlyd. Ar adegau fel hyn, dim ots pa mor gwrs, roedd yna awgrym o ryw ymdriniaeth ddyfnach o gymryd testun Rhyfel Cartref Sbaen at ffurf llwyfan yng Nghymru yn 2019.

Mae Saethu Cwningod yn galw’n ddiffuant am (ac mor agos a hyn at fod yn engraifft o) rywbeth dwi wastad yn chwilio amdano mewn celfyddyd newydd yng Nghymru: coflaid o gymlethdod, o’r ffaith fod chwilio am atebion cwrt i unrhyw beth yn broses anodd a hyll a di-ddiwedd. Ond mae’r ymdriniaeth niwlog yn ei atal rhag teimlo fel llawer mwy na braslun tuag at ddarn o waith cyfoethocach. Gwell braslun aneglur, mae’n siwr, na drama or-gyfarwydd arall sy’n bodoli er mwyn cysuro chwaethau hir-sefydledig.

Previous
Previous

Ysgrif: Y ddinas hir - Morgan Owen

Next
Next

Cyfweliad: Celf Mwydyn y Glust - Freya Dooley