Cyfweliad: Celf Mwydyn y Glust - Freya Dooley
“Breuddwydiais unwaith am baraseit yn ceisio dianc o’m corff."
Des i i adnabod yr artist ifanc o Gloucester, Freya Dooley, y llynedd. Hi oedd yn fy nysgu mewn dosbarth nos paentio ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Roedd hi’n arwain y dosbarth mewn modd addfwyn, gyda’r pwyslais ar sicrhau ein bod ni’n mwynhau, a doedd hi ddim yn or-hoff o drafod ei gwaith ei hun – yn hytrach yn awyddus i ganolbwyntio ar ein datblygiad ni. Felly pan welais bod ganddi sioe unigol yn Chapter ar y gweill, chwilfrydedd a chyffro oedd ar fy meddwl wrth ystyried y cyfle i gael mewnwelediad i feddwl y tiwtor.
Mae ei sioe ‘The song settles inside of the body it borrows’ yn cynnwys dau waith ffilm, yn ogystal â phrint enfawr o wm cnoi yng ngaleri Chapter. WM CNOI. Ond mae’r celf yn ymestyn y tu hwnt i ofod y galeri. Os fyddwch chi wedi bod yn Chapter yn ddiweddar, byddwch wedi gweld neu glywed gwaith Freya heb hyd yn oed orfod mynd i mewn i ofod yr arddangosfa. Hi sy’n gyfrifol am y gwaith celf sydd i’w weld ar waliau’r caffi bar ar hyn o bryd, ac mae’r gerddoriaeth sydd i’w glywed wrth i chi giniawa a sylwi ar actorion Pobl y Cwm o’ch cwmpas, hefyd wedi cael ei lywio gan sioe Freya. Mae’r sawl sy’n gweithio yn y caffi bar wedi dewis rhestr o ganeuon sydd wedi glynu yn eu hymwybyddiaeth hwythau, i gyd-fynd gyda naratif sioe Freya. Dyma waith sy’n treiddio i bob rhan o ymwybyddiaeth y gynulleidfa.
Wrth feddwl am thema’r wefan y mis hwn, ‘Mudo’, mae sioe Freya yn Chapter yn dod i’r meddwl am sawl rheswm. Esi i gwrdd â hi am lemonêd ar ddiwrnod amheus o boeth ym mis Ebrill i drafod y gwaith.
I unrhyw un sydd heb weld y sioe, alli di ddisgrifio’r gofod?
Freya: Mae’r sioe yn cynnwys dwy ran, mewn ffordd. Yn y stafell gyntaf mae ffilm o’r enw Speakable Things, a grëais ar gyfer y Rhaglen Litmus yn Oriel Davies y llynedd. Mae’n ymwneud â stori Echo o Fytholeg Groegaidd, wedi’i blethu gyda straeon eraill am fenywod mewn diwylliant cyfoes sydd hefyd wedi colli eu lleisiau, boed yn llythrennol neu’n ffigurol. Yn y prif ofod, mae yna gomisiwn ffilm newydd o’r enw ‘The Host’, gosodiad ffilm tair sianel, a phrint mawr o wm cnoi.
Gwyliais ‘The Host’ ar brynhawn Dydd Mawrth. Dyma waith ffilm sy’n defnyddio stori fer gan Mark Twain, ‘A Literary Nightmare’ fel sylfaen i’r gwaith. Yn y stori fer, mae cân wedi mynd yn sownd ym mhen unigolyn, a’r unig ffordd iddo atal hyn yw drwy basio’r gân ymlaen i bobl eraill. Mae Freya wedi creu darn sy’n llwythog â nerfusrwydd. Mae ymdeimlad o anniddigrwydd dioddefwr yr ‘earworm’ yn treiddio trwy’r darn, yn anesmwytho’r gwyliwr. Yn wir, teimlais rywbeth yn cael ei drosglwyddo i mi wrth brofi’r darn, roedd tensiwn seiniau a delweddau’r darn yn mudo i’m corff a’m ymwybyddiaeth innau. Fodd bynnag, clywir llais Freya ei hunan hefyd fel troslais awdurdodol, yn llonyddu’r gwyliwr ac yn ein harwain drwy’r darn, yn ogystal â llais actores fel arwres y darn. Mae’r cyfuniad hwn o anniddigrwydd a llyfnder a deimlir gan y gwyliwr yn creu profiad meddwol bron. Am 45 munud rydych yn pendilio rhwng ymlacio ac eisiau ffoi o’r 3 sgrin sy’n dangos gwahanol bytiau o ffilm, sy’n ddryswch ac eto’n creu collage o naratif pendant. Mae’n waith pytiog, sy’n cynnal eich diddordeb, gan nad oes wybod beth y byddwch yn ei brofi nesaf. Fel llif yr ymwybod, daw pob math o gyfeiriadau a syniadau ger ein bron. Mae’r trosleisiau’n farddonol, yn bersawrus yng ngofod cyfyng y galeri. Unwaith y byddwch yn dechrau teimlo eich bod yn gwneud synnwyr o rhythm y darn, daw clip o Gary Barlow i’ch taflu drachefn...
Freya: Rwy’n teimlo fel... Mae fy ngwaith rywsut yn adlewyrchu’r ffordd yr wyf yn siarad, yn yr ystyr fod popeth bach dros y lle i gyd!... Breuddwydiais unwaith am baraseit yn ceisio dianc o’m corff. Roeddwn i’n awyddus i archwilio’r syniad o sut rydym yn trosglwyddo syniadau, ei fod yn gallu bod yn heintys. Ac yn stori Mark Twain, nid yw’r arwr yn gallu gwneud unrhyw beth arall gan bod y gân yma’n llenwi ei feddwl. Mae tipyn o fy ngwaith yn ymwneud â gorbryder neu stadau meddyliol o orbryder, felly roeddwn i’n meddwl am fod yn westeiwr i rywbeth nad ydych yn medru ei reoli. Mae llinynnau eraill yn y naratif yn ymwneud â pharasitiaid, caneuon pop sy’n glynu wrth eich ymwybyddiaeth, gan ystyried ‘earworm’ fel rhywbeth llythrennol iawn. Dwi’n archwilio yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn westeiwr i rywbeth nad yw’n cael ei groesawu.
O’n i’n dwli ar y ffaith bod rhywbeth hynod gysurlon am ‘The Host’ ond mae hefyd yn anesmwytho’n fawr ar yr un pryd. Roedd y cyferbyniad rhwng y ddau deimlad hyn yn fy annog i barhau i wylio ac i ganolbwyntio fy holl sylw arno, y tensiwn.
Ie, dwi’n hoffi’r tensiwn rhwng yr hyn sy’n gyfforddus a beth sy’n anghyfforddus, y cyfarwydd a’r anghyfarwydd. Mae’r trac sain yn eich tynnu i mewn i rhythm penodol ond yna bydd rhywbeth arall yn eich tynnu chi allan ohono. Mae’r naratifau yn y ddwy ffilm yn eitha trwm, mae gen i ddiddordeb mewn ystyried sut y dalier ein sylw, sut rydych chi’n gosod pethau ynghyd sy’n ymddangos yn wasgaredig ond yn y pen draw, maen nhw’n cydblethu gyda’i gilydd neu’n gysylltiedig gyda’i gilydd.
Wrth brofi ‘The Host’ mae’r gwyliwr yn gallu symud rhwng tair sgrîn sy’n creu naratif anesmwythol, ynghyd ag edrych ar y gwm cnoi ar y wal. Rydym felly fel gwylwyr yn teimlo rywsut ein bod mewn rheolaeth o’r profiad gwylio.
Roedd hynny’n rhywbeth arall oedd yn bwysig, meddwl am sut oeddwn i’n gallu darnio’r naratif yn llythrennol. Mae’r sgriniau ar yr ochr yng nghornel eich llygad ar bob adeg, sy’n eich pryfocio yn yr un modd ac y byddai’r gân yn ei wneud. Agosatrwydd gyda ’chydig bach o ofod i anadlu.
Rwyt ti’n cynnal digwyddiadau i gyd-fynd gyda’r arddangosfa hon, alli di sôn rhywfaint am rheiny?
Bydd yna sesiwn wrando a gynhelir gan Synaptic Island, grŵp o ferched a phobl di-ddeuaidd sy’n DJ’s yn Llundain. Maent yn cynnal sesiynau dec agored yn Corsica Studios, clwb nos yn Llundain, i helpu menywod a phobl di-ddeuaidd i ddysgu sut i fod yn DJ, sy’n ofod sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion yn bennaf. Rhan o’r hyn y maen nhw’n ei wneud yw’r Sesiynau Gwrando hyn, lle y ceir thema a cewch eich gwahodd i ddod â thrac ar y thema honno, ac mae pawb yn gwrando arni. Mae’n swnio’n reit ddof! Ond gan ei fod yn ofod ar gyfer menywod, menywod trans a phobl di-ddeuaidd yn unig, mae’n brofiad agos-atoch, hyfryd. Mae gallu eistedd a gwrando ar bobl eraill, heb unrhyw beth gweledol yn hoelio’ch sylw, yn werthfawr. Ac mae’n fodd o agor maes sy’n teimlo’n wrywaidd iawn.
Roedd rhywbeth eitha tebyg yn Clwb Ifor Bach, i ddweud y gwir. Mae diffyg o ran merched yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg felly fe wnaeth merch sy’n gweithio yn Clwb, Elan Evans, ddechre’r peth yma o’r enw Merched yn Gwneud Miwsig, sy’n ofod i ferched i drafod, arbrofi gyda syniadau ac offerynnau cerddorol. Esi i’r un llynedd yng Nghaerdydd, roedd rhywbeth arbennig amdano – cymryd meddiant o’r offerynnau hyn a dweud rhywbeth gwahanol gyda nhw drwy ddefnyddio llais merch. A chyfle i bobl siarad yn agored am eu celf mewn gofod saff. Mae gwaith Synaptic Island yn swnio’n debyg i hwn!
O gwych, nai edrych mewn i hwnna. Mae’n bwysig.... Byddai hefyd yn cynnal grŵp darllen. Un o’r awduron y byddwn yn ystyried yw Shirley Jackson, awdur arswyd. Dwi’n hoff o’i straeon byrion, sydd fel arfer wedi’i hysgrifennu o safbwynt prif gymeriad benywaidd. Mae’r arswyd yn yr hyn a all ddigwydd, neu’r hyn sydd heb ddigwydd, yn hytrach na beth sy’n digwydd mewn gwirionedd. Ac ansicrwydd am yr hyn sy’n wir neu wedi ei ddychmygu. Roedd ei gwaith hi’n ddylanwadol ar ‘The Host’. Ysgrifennu yw pwynt cychwynnol fy ngwaith, a’r sain. Mae’r delweddau’n dod yn hwyrach.
Mae testun – ac ysgrifennu testun – yn amlwg yn bwysig i ti. Mae’n gwneud synnwyr felly dy fod yn rhan o Yellow Back Books, alli di sôn rhywfaint am y prosiect hynny?
Ymunais â Yellow Back Books yr haf diwethaf. Yr ysgogiad ar gyfer ei sefydlu yn y lle cyntaf oedd y ffaith nad oes gofod ar gyfer llyfrau artistiaid yng Nghymru, neu oleiaf yng Nghaerdydd. Mae llwyth o artistiaid sy’n ysgrifennu yng Nghymru, felly mae’n blatfform ar gyfer pobl sy’n ysgrifennu am gelf a llyfrau celf. Lledaenu deunydd ond hefyd rhoi mynediad i bobl at y llyfrau hyn. Yellow Back oedd yr enw ar gyfer nofelau rhad a oedd yn cael eu cyhoeddi ym Mhrydain yn ail hanner y 19eg ganrif. Felly yr ethos yw gallu creu gofod democrataidd ar gyfer rhannu gwaith celf, mae’r rhan fwyaf o’r llyfrau hyn yn costio dim mwy na £10 neu £15. Gan ei fod yn brosiect di-nawdd, rydym yn ceisio meddwl am ffyrdd o fod yn hunan-gynhaliol. Gwnaethom gynnal preswylfa yn arcade/camfa y llynedd, ond nid oes gennym ofod parhaol. Rydym yn ystyried beth yw Yellow Back Books, a phwy y mae’n gwasanaethu. Mae cymuned ddifyr o bobl sy’n ymddiddori mewn ysgrifennu am gelf yn dechrau datblygu.
Roeddwn i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o dy wersi paentio y llynedd. Wyt ti’n teimlo bod dysgu yn dylanwadu ar dy waith celf personol?
Dwi’n gweld bod popeth yn gysylltiedig mewn gwirionedd, mae’n ffordd o edrych ar y byd. Dwi’n dwli dysgu’r dosbarthiadau hynny. Mae’n helpu achos dwi’n gallu siarad yn weledol gyda phobl ac mae’n fy helpu i feddwl am bethau y tu hwnt i fy ymchwil personol.
Diolch Freya. Roeddwn i eisiau eistedd yno drwy’r dydd yn profi’r darn, a gadael iddo fy meddiannu a fy ymlacio drachefn. Oes gen ti bethau ar y gweill ynghanol yr holl brysurdeb?
Dwi’n gwneud perfformiad yn Tŷ Pawb yn Wrecsam, ar ddechrau Mis Mehefin. Dwi’n edrych mlaen at fynd yno, mae’n ymddangos fel gofod cymunedol. A byddaf yn gwneud rhywbeth yn g39 ym mis Gorffennaf. Ond dwi’n treulio’r amser yma yn adlewyrchu ar y gwaith. Dwi’n edrych ymlaen i wneud stwff newydd. Gyda ysgrifennu a delwedd symudol dwi’n gallu creu rhywbeth nad yw’n llonydd sy’n gallu dweud nifer o bethau ar un waith. Dwi’n dwli creu gofodau i bobl, i ddod mewn i amgylchedd, i fynd i rywle arall. Mae delweddau’n gwneud llawer heb orfod esbonio llawer, ac maen nhw hefyd yn creu awyrgylch a naratif, a’r holl bethau sy’n gysylltiedig â hynny.
Mae ‘The Song Settles Inside of The Body it Borrows’ ymlaen yng ngaleri Chapter tan Mai 26. Ewch a gadewch i’r dwylo a’r gerddoriaeth yn y caffi bar eich tywys i lif ymwybod pytiog, synhwyrus yr arddangosfa. Delweddau a seiniau sy’n gwneud llawer heb orfod esbonio llawer.