Adolygiad: Taith yr Aderyn - Alun Jones

Taith yr Aderyn - Alun Jones

Gomer - £9.99

Mae hon yn nofel sydd yn anodd i’w gosod mewn bocs bach taclus, a da hynny. Ydi hi’n nofel ffantasi? Mae rhai nodweddion yn awgrymu hynny, arallfyd, enwau anghyfarwydd, map ar y tudalennau blaen. Nofel antur? Nofel daith? Ond oes ots? Gwell efallai fyddai dweud ei bod yn nofel dda.

Dyma nofel sydd yn llwyddo yn anad dim i greu byd gwahanol sydd yn gwbl gredadwy, un sydd yn teimlo fel y medrwch chi afael ynddo fo. Byd gyda dylanwadau Sgandinafaidd o ran ei amgylchedd a’i enwau a braf ydi gweld nofel Gymraeg idiomatig hefo cymeriadau yn siarad Cymraeg am mai nofel yn yr iaith honno ydi hi yn hytrach na bod ganddyn nhw gysylltiad penodol hefo Cymru.

Mae’r un peth yn wir am y cymeriadu ac er nad oes yn rhaid darllen y nofel flaenorol Lliwiau’r Eira mae gweld rhai o’r cymeriadau cyfarwydd yn dychwelyd yn beth braf ac mae’n debyg y byddai rhywun ar ei ennill yn gyffredinol o ddarllen honno. Mae popeth, o’r ecoleg i’r strwythur cymdeithasol, at gymhelliant a chredoau’r cymeriadau yn taro’n driw ac mae hynny’n beth prin iawn.

Efallai y byddai ambell un yn cwyno nad ydi’r nofel hon yn cynnig bwyd llwy, a bod disgwyl i rywun ganolbwyntio wrth ei darllen hi. O’m rhan fy hun bu’n rhaid cadw Lliwiau’r Eira wrth law a phicio’n ôl bob hyn a hyn er mwyn cofio pwy oedd pwy a be di be, ond doeddwn i ddim yn gweld hynny’n fwrn, braf ydi cael nofel Gymraeg sydd yn drwchus ac yn mynnu sylw a mymryn o ymroddiad.

Dyma nofel wleidyddol hefyd i raddau, nid yn ystyr pleidiau a fotio a ballu ond yn hytrach bod yna syniadaeth gref am hawliau’r unigolyn a diffygion systemau a choel ac mae barn yr awdur, Alun Jones, yn eglur. Mae ei lais o yn eglur iawn ac efallai ei fod o’n rhy eglur ar brydiau o enau’r cymeriadau, eto’i gyd mae rhai o’r cymeriadau’n llafar eu barn ac efallai mai fy mai i ydi cymryd hynny am farn awdur.

Pleser mawr oedd ymgolli ym myd y nofel a dilyn hanes Gaut, cymeriad agos atoch chi wrth iddo ddilyn taith beryglus ar draws gwlad wedi ei chwalu gan ryfel, a’i fywyd fel un sydd yn gwrthod cael ei droi a’i chwydu gan y peiriant rhyfel. Dyma nofel sydd yn dangos hyllni pobol, a’u bryntni nhw ond hefyd ochr orau unigolion. Fel pob nofel dda mae ganddi rywbeth i’w ddweud am fyd y tu draw i’w thudalennau, prynwch hi, a llithrwch i ddyfnderoedd ei byd hi fel crair i Lyn Cysygredig.

Previous
Previous

Ymateb: Golau Byw - Manon Awst

Next
Next

Adolygiad: Forbidden Lives - Norena Shopland