Adolygiad: Forbidden Lives - Norena Shopland

Forbidden Lives: Lesbian, Gay, Bisexual and Transgender Stories from Wales - Norena Shopland

Seren - £12.99

Mae llawer ohonom efallai’n ymwybodol o wahanol bobl LHDT yn hanes Cymru. Cranogwen, Ladies of Llangollen a Henry Paget 5ed Ardalydd Môn. Ond mae Forbidden Lives yn adrodd straeon nifer mawr o bobl sydd wedi cael effaith ar y ffordd mae pobl yn gweld pobl LHDT yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r storïau cyntaf yn llwyddo’n effeithiol i ddarlunio unigolion sydd wedi herio’r norm, sydd wedi herio beth yw hi i fod yn ddyn neu ddynes yn eu cyfnod heb ystyried sut i’w labelu. Dim ond adrodd pwy ydyn nhw a pham eu bod mor nodweddiadol. Gan amlaf, menywod yn gwisgo fel dynion yn llwyddiannus er mwyn gallu dianc eu bywydau neu weithio mewn diwydiannau ‘gwrywaidd’ sydd yn cael sylw. Dyma beth mae’r llyfr yn ei wneud orau, rhoi llais i’r bywydau cuddiedig yma gan ddathlu pwy ydyn nhw heb gymryd unrhyw beth yn ganiataol amdanynt.

Er hyn, roedd y llyfr yn cymryd yn ganiataol weithiau bod y darllenydd yn ymwybodol o rai unigolion trwy grybwyll enwau yng nghanol stori gan gymhlethu pethau. Roedd rhai o’r storïau hefyd yn neidio yn gyflym iawn gyda’r ysgrifennu’n gymhleth gan olygu bod rhaid i mi ailddarllen darnau yn aml. Roedd hyn ond yn wir am rhai o’r storïau fodd bynnag felly efallai bod yr awdur wedi blino braidd wrth ysgrifennu'r rhain. Roedd y storïau eu hunain yn gymysgedd da o ran hanes pell ac agos, pobl sy’n herio syniadau heteronormalaidd, rhywioldeb a rhywedd, a phobl sydd wedi dim ond trio byw eu bywydau’n dawel a hapus neu ymgyrchu’n frwd dros hawliau. Storïau sydd angen cael eu lleisio a’u clywed fel nad oes pobl yn gorfod dioddef yr un caledi, a bod pobl LHDT, fel fi, yn gallu gwerthfawrogi’r hawliau sydd gyda ni’n barod, er bod dal gwaith i’w wneud.

Previous
Previous

Adolygiad: Taith yr Aderyn - Alun Jones

Next
Next

Stori Fer: Y Gwydr - D. D. Owen