Trafod: Arf ac Anrheg - Daf Prys

Mae Daf Prys, awdur, cynhyrchydd cynnwys, a chyd-lynydd gwefan Fideo Wyth, wedi mentro o’i gynefin yn Aberystwyth i Seattle i weithio ar brosiect sy’n datblygu gêmau fideo. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu gêm sy’n adlewyrchu diwylliant a hanes Cymru, ac ar ei daith, mae eisoes wedi dod ar draws sawl modd o beri penbleth i bennau’r Americanwr, ond o bell ffordd y gorau yw i geisio esbonio hanes ynysoedd Prydain…

‘So what you’re saying is, Wales is like another country?’

Mae Seattle yn lle hynod ddiddorol i fyw rhwng y wleidyddiaeth ffraeth a’r elfen technolegol – mae Bob Ferguson a erlynodd bolisi ‘Muslim Ban’ yn pin-up yma ac mae’r ddinas yn gartref i Amazon, Microsoft a Boeing. Wedi dweud hynny does dim llawer o wahaniaeth i fyw yng Ngymru, yn enwedig Ceredigion (ond am y sushi, sy’n benigamp yma). Mae’r syniadaeth yn radical, mae’r ardal yn fwrlwm o ddinasyddion bydol ac mae’n glawio yn ddibaid. Ond er bod bywyd o ddydd i ddydd yma’n hynod debyg, does dim cysyniad yma o ran beth yw Cymru.

Felly, pan wyt ti’n rhywun fel fi, sy’n ceisio perswadio cwmniau a sefydliadau fod o’n syniad da i ddatblygu gêm fideo sy’n dathlu hanes, mytholeg a thraddodiadau ni’r Cymry, gwelwch y mwdwl mindblowing sy’n dy ddisgwyl ar ôl pob un cyflwyniad.

Ac hefyd, pan wyt ti’n rhywun fel fi, sy’n delio efo pobl sy’n datblygu cynnyrch ag elfen ffantasiol gref, lledaenach fyth yw’r llygaid pan dwi’n esbonio fod y rhan helaeth o’r straeon ffantasiol y maent yn eu ‘nabod heddiw yn dod o’r Mabinogi. Felly ymhle ddaru ni golli ein treftadaeth diwyllianol ein hunain?

‘So when Arthur took the sword out from the stone?’

Gildas, y mynach o’r 6ed ganrif, oedd yn gwae ni’r Cymry am i ni bechu Duw *gymaint* fod o wedi digaloni efo ‘Prosiect Prydain’ ac felly wedi gadael i’r Saeson concro ein tiroedd i’r de a dwyrain. Mae’n rhaid ein bod ni wedi cario mlaen i gythruddo’r Boi Mowr gan i’r Saeson goncro popeth arall nad oedd wedi ei hoelio i lawr, gan gynnwys sawl un o’n straeon gorau, a throi Arthur yn fachan oedd yn mynd byti’r lle yn edrych am gwpan.

Rhan o fy ymdrechion yw i ailgydio yn ein straeon ac i’w strwythuro mewn modd sy’n gwneud nhw’n weledol fel pecyn llawn ac yn gysylltiedig efo ni’r Cymry. Rhaid i ni eu hailberchnogi eto a’i brandio efo’r ddraig goch. Drwy wneud hynny, mi allwn eu defnyddio yn yr un modd mae’r Gwyddel yn defnyddio St Patrick’s day, yr Eidalwr yn defnyddio bwyd, California yn defnyddio Hollywood, fel rhan o’n hunaniaeth. Delweddau cryf ydynt i daflegru allan i’r byd gan sefydlu delwedd all sefyll wrth ei hun. Ac yma yng Nghymru, cam bychan tuag at hynny yw The Year of the Legend™ ‘leni.

Felly poenus iawn, ynghanol gwneud cyflwyniad am stori’r Twrch Trwyth, oedd cael fy nhorri ar draws gan ŵr cafodd ei ysbrydoli i gymharu’r stori fawreddog honna am chaso mochyn i sôn am Wyddel gaeth bet efo’i gyfaill na fedrai fynd gwmpas Iwerddon gerfydd hitchhike efo rhewgell (a do, mae’n debyg iddo lwyddo).

‘It’s kinda like that right: a kooky adventure racing round an island?’

I fod yn deg mae o dipyn fel ‘kooky adventure’… ond beth oedd yn dorcalonus dro ar ôl tro fod pobl yn uniaethu efo’r Albanwyr, neu hyd yn oed y Saeson, fel storiwyr tra bod ni’r Cymry ar goll o’n maes ni’n hunain.

Wel, digon yw digon. Nawr yw’r amser i ni ailfeddianu ar ein hetifeddiaeth ac i osod ein hunain fel storiwyr y byd. Ymhle fyddai Lord of the Rings hebddo ni? Nunlle. Heb chwedl Lludd a Llefelys ni fydd Game of Thrones a gewch chi anghofio am bron pob un gêm fideo RPG ffantasiol.

‘Who’s this Simroo guy?’

Dwi am ddefnyddio diwydiant gêmau fideo i gyrraedd cynulleidfa newydd ac mae lle i bawb rhoi cynnig arni mewn pob maes. Cofiwch taw straeon yw ein treftadaeth, a ni yw’r prif storiwyr: dewisiwch un chwedl, ymarferwch a cherwch â honna efo chi rownd y byd a nôl fel ci ffyddlon. Fe geiff fod yn arf ac yn anrheg… bagsi stori Bendigeidfran!

Daf Prys

http://www.fideowyth.com | @dafprys

Previous
Previous

Cerdyn Post Creadigol: Lublin – Llŷr Titus

Next
Next

Cerdd: Y Stamp - Eurig Salisbury