Cerdd: Y Stamp - Eurig Salisbury

Cyfansoddwyd cywydd arbennig 'Y Stamp' gan Eurig Salisbury yn arbennig ar gyfer lansiad ein rhifyn print cyntaf, yn Nhafarn y Cwps, Aberystwyth, 23/3/17. Cafodd y gerdd groeso brwd gan fynychwyr y noson, a dyma gyfle i chi wylio ac ei darllen hi yma am y tro cyntaf.

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=mr_hKj0J5Rw&w=560&h=315]

Ers saith mlynedd bu cleddyf

Angau ar gylchgronau’n gryf,

Troi miloedd yn bunnoedd bach,

Torri grantiau rhy grintach,

Ac yn fisol didolir

Rhyw un teitl i’w roi’n y tir …

Ond daw sŵn, ac mae’n dwysáu,

I grynu dan gylchgronau,

Dan esgidiau’n ysgydwad,

Yn towlu’r wledd, ratlo’r wlad,

Sŵn clamp o STAMP nos a dydd,

Cic i’r ŵyl, cracio’r welydd.

Os marw’r hen elw i ni,

Yma ar lein mae’r aileni,

Felly rho, gyfaill, le rhydd

I’r wefan yn dy grefydd,

Rho dy lein i’r dalennau,

Rho stori i ni ei mwynhau,

Rho dy stamp direidus di

Dy hun ar y dadeni.

Eurig Salisbury

http://www.eurig.cymru

#Barddoniaeth

Previous
Previous

Trafod: Arf ac Anrheg - Daf Prys

Next
Next

Ysgrif: Llefydd Symudol - Morgan Owen