Cerdyn Post Creadigol: Lublin – Llŷr Titus
Glaniodd cerdyn post creadigol arall ym mlwch post byncer y Stamp yn ddiweddar. Ein Llŷr Titus ni ein hunain oedd yn ysgrifennu o Lublin yng Ngwlad Pwyl…
Fe es i ac Arddun, fy nghariad, draw i Wlad Pwyl, i Lublin am chydig ddyddia. Mae hi’n ddinas braf, heb lawn fynd yn dwristaidd eto ond gyda digon i dwrist weld fel yr hen dref sydd y tu ôl i Brama Krakowska, y tai bob lliw, yr hen dwneli o dan y strydoedd, bwrdd hefo ellyllon wedi’i llosgi iddo fo. A thafarn sydd yn fwy ar y tu fewn nac ar y tu allan lle cafodd bardd o Gymru KO yn toilets a hefyd llefydd lle mae’r perogiau’n werth chweil.
Rhywbeth arall sydd yn Lublin (os ewch chi ar y býs y ffordd iawn ac nid i’r lle cadw bysus fel wnaethon ni) ydi gwersyll Manjanek, un o wersyllau lladd y Natsiaid. Chafodd rheiny fawr o gyfle i guddio’r dystiolaeth yno ac felly mae pethau fel oedden nhw bron. Mi gewch weld y poptai, y sgidiau a’r siambrau nwy, y tyllau bwledi a’r esgyrn nad oedd wedi llosgi’i gyd.
Fe oedd hi’n anodd meddwl bod oleaif 80,000 wedi’u lladd yn rhywle lle’r oeddwn i’n sefyll, anoddach os rwbath oedd y ffaith fod o mor effeithlon. Fe oedd rhywun, yn rhywle, wedi eistedd i lawr hefo papur a phensal ac wedi trefnu pob dim, wedi meddwl ‘gawn ni ddefnyddio’r gwres o losgi’r cyrff yn y poptai i g’nesu dŵr’ a ‘mi fydd lludw’r cyrff yn gwneud gwrtaith da i erddi’r SS’.
Mater bach oedd lladd cymaint hefyd, i rai roedd o’n hwyl. Mai’n anodd meddwl sut y medar pobol fod felly a sut y dechreuodd o, fesul dipyn ydi’r atab i hynny debyg a mae o’n nes na fyddai rhywun yn feddwl.
Un peth oedd yn fy nharo fi am Lublin oedd bod amsar yn toddi i’w gilydd yno- yr hen dai, adfeilion a thai newydd drws nesa i’w gilydd a gwahanol betha o wahanol gyfnodau yn cyffwrdd. Mi oedd Majdanek ynghanol tai hefyd a phobol wrthi yn eu tai gwydr a ballu tra’r oeddan ni’n sefyll wrth y ffosydd lladd.
Lawrlwythwch gerdyn post creadigol Llŷr trwy glicio ar y ddolen ganlynol: Cerdyn Post Creadigol Lublin Llyr