Ysgrif: ‘Atgof’ Dedalus - Iestyn Tyne

Edward Prosser Rhys (Llun J.A.J.)

Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, gosodwyd y seiliau i fath newydd o farddoniaeth yn y Gymraeg wrth i bryddest ‘Y Ddinas’ gan T H Parry-Williams gael ei choroni. Crwydrai’r gerdd honno i diriogaethau nas tramwywyd arnynt gan feirdd Cymraeg cyn hynny; ymysg pethau eraill, fe ddangosai dosturi tuag at hunanleiddiaid, ac fe drafodai themâu ‘anfoesol’ fel puteindra yn gwbl agored. Roedd moderniaeth ‘Y Ddinas’ a chyndynrwydd y telynegwr-feirniad Eifion Wyn i’w choroni yn gynrychioliad perffaith o densiwn rhwng dau fudiad celfyddydol wrth i'r naill gychwyn ar y gwaith o ddisodli’r llall.

Cyd-darai dyfodiad y llenyddiaeth newydd, realaidd hon – a oedd eisoes wedi cyrraedd bydoedd llenyddol eraill Ewrop – â thwf yn y diddordeb yng nghyfrin bethau’r meddwl dynol; yn deillio’n benodol o syniadau Freud ynghylch seicdreiddiad (psychoanalysis). Roedd athroniaeth Freud yn archwilio dylanwad seicolegol y cyfnod ffurfiannol ar feddwl yr unigolyn; ac yn damcaniaethu fod yr isymwybod a digwyddiadau plentyndod a glaslencyndod yn effeithio’n fwy o lawer ar rinweddau a datblygiad person nac yr hoffai rhai ei feddwl; yn enwedig beirniaid Eisteddfodol piwritanaidd! Bellach, fe dderbynnir fod seicdreiddiad ymhell o fod yn ddadansoddiad perffaith, a hawdd yw i’r beirniad llenyddol wirioni ar geisio canfod cysyniadau Freudaidd y tu hwnt i bob cornel. Ond nid oes owns o amheuaeth nad oedd Edward Prosser Rhys, bardd 23 oed o fro’r Mynydd Bach yng Nghanolbarth Ceredigion, yn gwbl ymwybodol o’r syniadau newydd a fodolai ar y pryd nac iddo weld ei gyfle i archwilio’r syniadau hynny ei hun pan gynigiwyd Coron Eisteddfod Genedlaethol Pontypŵl 1924 ar y testun ‘Atgof’ [1].

James Joyce, D H Lawrence ac A E Housman oedd dylanwadau llenyddol mawr Prosser o oedran cynnar – ac yn ddigamsyniol fe welir fod stamp y tri hyn ar y bryddest a gyfansoddodd maes o law; moderniaeth avant-garde James Joyce yn porthi’r strwythur llif ymwybod-aidd; rhamant pesimistaidd a dryswch ieuenctid Housman a’i Shropshire Lad yn yr arddull a’r cyfrwng; ac ysfa Lawrence i fynd dan groen greddfau rhywiol ac iechyd meddwl ei gymeriad yn sail thematig y cyfan. Nid trwy hap y dewisodd Prosser Rhys 'Dedalus' yn ffugenw i’w ddodi wrth gwt ei bryddest; Stephen Dedalus yw prif gymeriad A Portrait of the Artist as a Young Man Joyce (ac mae’n ymddangos eto yn ei Ulysses), ac mae yntau’n chwiliwr wrth reddf – fel yr oedd y Dedalus gwreiddiol a grëodd adennydd o blu a chŵyr iddo’i hun a’i fab Icarws cyn yr ehediad trychinebus hwnnw o dyrrau Creta.

Roedd Prosser yn aelod o genhedlaeth newydd o feirdd a ddysgodd eu crefft yng nghysgod rhyfel byd. Rhyngddynt, gellir dweud i Cynan, Prosser Rhys a Charadog Prichard lwyddo i chwyldroi cwrs hanesyddol y bryddest yn ystod y 1920au. Roedd y drindod hon yn gyfrifol am ennill chwech o goronau’r ddegawd – Cynan ym 1921 (‘Mab y Bwthyn’) a 1923 (‘Yr Ynys Unig’); Prosser ym 1924; a Charadog dair blynedd o’r bron ym 1927 (‘Y Briodas’), 1928 (‘Penyd’) a 1929 (‘Y Gân Ni Chanwyd’). Llwyddodd y rhain i ddwyn math newydd o ganu i fri Eisteddfodol nad oedd eto wedi cydio ar lawr gwlad. Dewisodd Cynan, fel cyn-filwr, bortreadu meysydd cad y Rhyfel Mawr fel ag yr oeddent; daethai a bywyd dinesig, cerddoriaeth jazz a’r sinema o fewn y ffrâm, a chanu amdanynt mewn modd a argyhoeddai. Penderfynodd Caradog Prichard ddefnyddio salwch meddwl ei fam a’i charchariad yn ysbyty meddwl Dinbych fel sail i archwiliadau seicolegol dwfn i natur salwch meddwl a hunanladdiad. Dewisodd y beirdd hyn hefyd dynnu’r llen o ragrith oddi ar y portread o fywyd priodasol dedwydd a oedd yn gysegredig gan eu rhagflaenwyr.

Pan safodd Prosser Rhys ym mhafiliwn prifwyl Awst un pnawn ym 1924, derbyniodd fonllefau gwresog y dorf enfawr a oedd wedi ymgasglu yno i glywed yr Athro W J Gruffydd yn traddodi’r feirnadaeth, yn y gobaith y byddai teilyngdod. Ond buan y trodd y bonllefau hynny yn wawd, yn enllib, ac yn ddim llai nac erledigaeth bersonol yn erbyn y bardd ifanc arobryn; a hynny am fod y gerdd oedd newydd dderbyn sêl bendith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn cynnwys pethau y tybid eu bod yn aflan, yn beryglus, ac – yn waeth na’r cyfan – yn anghymreig.

Fy mwriad yn yr ysgrif hon, a minnau eisoes wedi ei rhoi yn ei chyd-destun llenyddol a hanesyddol, yw tywys y darllennydd drwy’r bryddest, a manylu ar frwydrau mewnol ei phrif gymeriad.

*

Y soned a ddewisodd Prosser Rhys fel mesur i’w bryddest. Mae’r cylch o saith ar hugain ohonynt yn ffurfio cerdd gymharol fer o ystyried terfynau’r gystadleuaeth; 378 o linellau mewn cystadleuaeth â’i gofynion yn caniatau hyd at 800. O ran ei strwythur, mae’n ymrannu yn bedwar caniad; a phob caniad yn canolbwyntio ar atgof a sbardunir gan arogl penodol. O fewn y caniadau hyn, ceir dwy naratif sy’n cydredeg. Ceir y dynol a’r realaidd – sef hynt y ‘llanc ifanc synhwyrus’ sy’n brif gymeriad i’r gerdd, wrth iddo frwydro trwy ddryswch y greddfau rhywiol sy’n ei dynnu yma ac acw heb iddo eu deall; ac yna – yn lestr i gynnal y brif stori – llais y ‘Rhywun’ nas enwir. Mae ugain o sonedau yn adrodd yr hanes, a saith ohonynt yn gyfrwng i’r llais dirgel a ddefnyddir i rannu’r caniadau.

Yn y dilyniant o saith nofel sy’n ffurfio À la recherche du temps perdu gan Marcel Proust – y nofelau a gyflwynodd gyntaf y syniad o ysgrifennu trwy lif yr ymwybod a fabwysiadwyd mor llwyddiannus gan Joyce ac eraill – cacen madeleine wedi ei throchi mewn te sydd yn gyrru’r awdur ar ei drywydd ei hun. Ennyd Proustaidd y ‘llanc synhwyrus’ yn ‘Atgof’ yw clywed aroglau mwg mawn:


Mwg mawn! Aroglau hwnnw, dyn a ŵyr,

Drwy’r ffroen a gerdda i’m synhwyrau’n glau,

Oni’m meddiennir i gan Atgo’n llwyr

A’m dwyn i’r cartref gwyn rhwng perthi cau.

Digwydd hyn bedair gwaith yn y bryddest. Mae’r mwg mawn yn esgor ar atgof o gartref sy’n ymddangos yn ddedwydd a chroesawgar ar yr olwg gyntaf, ond buan y chwelir y ddelwedd honno pan sylweddolir fod tad yr adroddwr yn ‘peri sôn amdano hyd y fro’ ac yn cynnal perthynas y tu allan i’w briodas â’r fam. Mae’r mab yn berwi o aniddigrwydd sy’n ymylu ar genfigen wrth weld harddwch ei fam yn gwywo:

Ni wybydd gystudd o gyn drymed pwys

 cholli nerth ei Rhyw a’i harddwch gwedd,

A’r gŵr a’i treuliodd eto a’i waed yn dwym,

A dim ond Arfer oer i’w cadw yn rhwym.

Ceir cadarnhad yma fod cysyniadau Oedipaidd Freud yn hysbys i’r bardd – yr awgrym yw fod y mab yn ffieiddio fod y tad yn cael byw tra bod y fam yn ‘wylo a chynddeiriogi yn ei thro’.

Yr ail arogl a gyflwynir i’r darllenydd yw arogl pridd, sy’n atgoffa’r bardd iddo orwedd ar lan llyn a charu â merch yr awgrymir ei fod yn ffrind iddi ers yn blentyn. Mae’r disgrifiadau o’r weithred o garu â Mair yn feddwol-orfoleddus:

Nesheais ati hi, a’i gwasgu’n dynn,

A’i hanner-annog i ddibristod llwyr.

Llenwais ei llygaid du â mwynder maith;

Cusenais â gwefusau gwancus, llawn;

Teimlais ei ffurf hudolus lawer gwaith;

Gyrrais ei gwaed ar gerdded cyflym iawn.

O funud dwym i funud fe ddaeth tro

Penllanw gorchfygol Rhyw, ac ildio’n dau ...

Nesheais, llenwais, cusenais, teimlais, gyrrais – mae’r cyfan yn carlamu; yn foliant digyfaddawd a diamheuol i Ryw. Mae rhywbeth yn ogleisiol mewn dychmygu aeliau’r beirdd-bregethwyr o feirniaid, Gwili a Chrwys, yn diflannu i’r entrychion wrth ddarllen y llinellau hyn.

Ond eto, daw dadrith i gymylu’r cyfan; ac yn yr un ennyd ag uchafbwynt y pleser, fe dry’r cyfan yn ddim mwy nag ‘atgof hyll’. Mae popeth yn colli ei sglein, a’r cwpl ifanc yn cerdded adref yn fud; y weithred a gyflawnwyd ac nas dileir yn faich trwm ar eu hysgwyddau. Mae’r bardd yn diawlio’r greddfau cudd a’u gyrrodd ynghyd ac a ddygodd ddiniweitrwydd eu nawmlwydd oddi arnynt.

Deisyfai’r weithred cyn ei chyflawni; ei ymateb i chwalfa’r cartref yw derbyn Rhyw yn ei holl ogoniant; ‘Mynnaf y merched gwympaf imi’n brae / A feddwo fy synhwyrau oll fel gwin’. Awydd fwystfilaidd, gyntefig a bortreadir. Wedi’r weithred, ar y llaw arall, ei ddeisyfiad yw na byddai Rhyw yn bod o gwbl. Adduneda erbyn y trydydd caniad y bydd yn ymroi i gyfeillgarwch dilychwin cwbl Blatonaidd; gwasgu i lawr ar ei reddfau rhywiol a’u diddymu.

Arogl gwair toredig ar lawr ar ddydd o haf sy’n dod â’r trydydd atgof iddo, sef atgof ‘adeg Cyfeillgarwch’. Yng nghwmni ‘llanc gwalltfelyn, rhadlon’, llwydda i’w gael ei hun i gredu nad yw Rhyw yn ei ormesu rhagor. Ond pan ânt i gysgu’r noson honno, dan gredu eu bod wedi ymlid y cof am Ryw ‘o gêl gilfachau eu Meddyliau i gyd’, maent yn deffro rywbryd yn ystod y nos

A’n cael ein hunain yn cofleidio’n dynn;

A Rhyw yn ein gorthrymu; a’i fwynhau;

Y gwpled hon sydd wedi anfarwoli’r gerdd a pheri’r mwyaf o drafod amdani – a hynny am ei bod yn portreadu rhyw rhwng dau ddyn yn gwbl agored, lle nad oes unrhyw amheuaeth o’i ystyr. Mae’n anodd amgyffred mawredd y weithred o’i chynnwys yn y bryddest heddiw; nid yn unig y portreadir yma’r weithred, ond addefir i’r weithred honno gael ei mwynhau – mae’r peth yn digwydd yn reddfol a naturiol wrth i’r ddau orwedd i gysgu.

Daw’r atgof olaf ato wrth glywed aroglau gwymon, ac fe’i cludir yn ôl i ‘draethell braf’ lle mae ‘haul yr haf / Yn rhoi esmwythyd mwyn i donnau’r lli’. Cofia weld criw o ferched mewn dillad gwyn, a ‘sylwi ar un o ri’r rhianedd gwyn / Yn sylwi arnaf i ...’ – ac mae ei gwên yn gyrru’r loes a deimlai gynt ymaith. Mae’n penderfynu peidio torri gair â hi, gan ei charu’n bur ac anghnawdol – ‘digon oedd ei gweled i’m boddhau’, meddai. Ai hon fydd ei ddihangfa rhag melltith Rhyw? Wel, nace, siŵr iawn. Mae gweld y ferch a’i chyfeillion yn cerdded o’r dŵr ar ôl bod yn nofio yn cyffroi’r hyn sy’n ‘dirgel-gronni’ ynddo, ac fe freuddwydia’r noson honno iddo ‘gael pleser wrth halogi ’nghariad fud’.

A dyna’r llanc eto yn methu gwrthsefyll grym yr atyniad rhywiol. Hyd y gwn i, nid oes yr un llenor Cymreig arall o hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif yn cyfeirio at fastyrbetio neu freuddwydio gwlyb yn eu gwaith ag eithrio Dylan Thomas yn y gerdd ‘My hero bares his nerves’. Ymdebygu’r broses o ysgrifennu i fastyrbetio wnaiff Dylan yn y gerdd honno; mae ysgrifennu a mastyrbetio yn cynnig dihangfa i fyd na all fod – ond fe all hynny yn ei dro wneud absenoldeb yr hyn na all fod yn faich trymach fyth. A dyna sy’n digwydd yn achos Prosser hefyd – aiff yn ei ôl i’r traeth drannoeth, ond mae’r hyn a wnaeth yn ormod iddo; ac wrth sylwi fod ‘euogrwydd hefyd yn ei llygaid hi’ y mae’n dod i sylweddoli nad oes dianc.

Yr hyn sy’n peri dryswch dro ar ôl tro wrth ddod at y bryddest hon yw natur geryddgar y llais a glywir yn y sonedau italeiddiedig hynny sy’n dolennu’r caniadau. Dyma gerdd newydd a beiddgar yn ei hoes – does dim amheuaeth o ran hynny. Pam felly cynnwys y Rhywun yma sydd yn rhybuddio fesul caniad yn erbyn y canlyniadau o ymgolli mewn pleserau rhywiol? Credaf fod John Rowlands yn agos ati:

Yr argraff a geir erbyn hyn … yw fod y penillion italeiddiedig yno’n gerrig milltir haearnaidd i lesteirio’r nwydau yr ymdrinnir â hwy yng nghorff y gerdd … y sonedau italeiddiedig fel ychwanegiadau goramlwg i foddio’r moesolwyr ymysg beirniaid 1924 ... [2]

Mae’n deg damcan na fyddai Prosser wedi gadael Pontypŵl â’r goron am ei ben onibai iddo gynnwys y sonedau sydd wedi eu hitaleiddio. Rhain sy’n cadw’r gerdd rhag troi yn loddest llwyr yn ôl safonau’r oes; yn eu ceryddu maent yn rhoi trwydded i’r disgrifiadau mwy risqué a geir mewn mannau eraill. Felly hefyd y dyfyniad o ragymadrodd Endymion, Keats, sydd wrth frig y bryddest:

The imagination of a boy is healthy, and the mature imagination of a man is healthy; but there is a space of life between in which the soul is in a ferment, the character undecided, the way of life uncertain, the ambition thick-sighted …

Mae yma sawl ymgais i gyfreithloni’r hyn a ddisgrifia, ac mae’n bosib fod yr ymatal hwn wedi llesteirio rhywfaint ar yr union gerdd y byddai Prosser wedi dymuno ei hysgrifennu.

Ond fe ysgrifennodd Prosser Rhys gerdd fawr a phwysig ar ryw a rhywioldeb, yn ddiau. Cafodd y bryddest ei beirniadu’n hallt a’i henllibio i raddau a fyddai wedi brifo i’r byw, a hawdd yw dod i gasgliad arwynebol mai hynny fu’n gyfrifol am y ffaith iddo dewi fel bardd wedi ‘Atgof’; dim ond llond dwrn o gerddi o’i eiddo o’r cyfnod rhwng 1924 a’i farwolaeth annhymig ym 1945 sy’n bod, er bod y rheiny oll yn dangos cryfder mynegiant a chywreinder crefft.

Yn ei gofiant cynhwysfawr i Prosser Rhys, daw Rhisiart Hincks i dri chasgliad; yn gyntaf, mai rhyw lun ar gatharsis oedd ‘Atgof’, a bod y bardd wedi hynny yn teimlo iddo ddweud yr hyn yr oedd ganddo i’w ddweud; yn ail, fod y gerdd wedi llwyddo fel ‘ymosodiad ar gulni a rhagrith y gymdeithas a adwaenai’[3] – wedi llwyddo i gyflwyno syniadau newydd a oedd eisoes yn boblogaidd mewn llenyddiaeth ryngwladol i fyd cyfyng yr Eisteddfod; ac yn drydydd, yn syml iawn, mai ymdaflu i’w waith ym myd newyddiaduraeth a chyhoeddi llyfrau a wnaeth yn y blynyddoedd wedi 1924, ac felly bod ganddo lai o amser i ymhel â barddoni. Roedd hefyd yn bur wael ei iechyd am gyfnodau hir yn ystod ei oes fer; a diau fod hyn hefyd wedi ei rwystro rhag cyfansoddi.

Fe awgrymodd mewn llythyrau at gyfeillion fod ganddo gerdd fawr arall ar rywioldeb y bwriadai ei chyfansoddi; ond os gwir hynny, ni flagurodd y syniad yn waith cyhoeddedig. Roedd ysgrifennu ‘Atgof’ fel agor tap ar yr holl rwystredigaethau a ddeilliai o’r cyfnod o ansefydlogrwydd emosiynol a brofodd wrth ymgodymu â’i rywioldeb, ac mae rhywun yn cael y teimlad y bu hynny o fudd mawr iddo. ‘It was weighing on my soul’ meddai am y gerdd yn y Daily Courier, ychydig wedi eisteddfod Pontypŵl. Y teimlad felly yw mai achos o ‘sgrifennu rhag mygu’, chwedl Kate Roberts, oedd hi gydag ‘Atgof’, ac nad oedd yr un angen am ysgrifennu cathartig yno i’w sbarduno wedi hynny.

Os nad esgorodd ‘Atgof’ ar ganon mawr o lenyddiaeth hoyw yn y Gymraeg ar unwaith, fe agorodd gil y drws, ac fel y crybwyllwyd ar gychwyn yr ysgrif hon, roedd yn rhan o gyfnod o ddadeni yn ystod y 1920au a sicrhaodd fod barddoniaeth Gymraeg yn tyfu’n fwy agored ac eangfrydig o ran ei themâu a’i harddulliau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, bu ond y dim i Gwynfor Dafydd ennill y Goron am gyfres o gerddi yn portreadu profiadau gŵr ifanc wrth iddo ddod ‘mas’ yn hoyw; bellach, nid oes angen esgusodi na chyfreithloni, ac fe ddychmygaf y byddai Prosser yn falch iawn o wybod hynny.

-----

[1] Roedd dewis o destunau i gystadleuwyr y Goron ym Mhontypŵl – gofynnwyd am bryddest ‘heb fod dros 800 llinell, ar un o’r testunau canlynol: “Atgof,” “Dafydd ap Gwilym,” a “Marchog yr Awyr.”’ ‘Atgof’ fu’r testun mwyaf llwyddiannus. Roedd ‘Marchog yr Awyr’, yn ôl pob tebyg, wedi profi’n destun echrydus o sâl.

[2] John Rowlands, Ysgrifau Beirniadol XVI, Gwasg Gee, 1990, tud. 149

[3] Rhisiart Hincks, E. Prosser Rhys 1901-45, Gwasg Gomer 1980, tud. 109

Nodyn: Ers rhoi'r ysgrif hon at ei gilydd, mae blog Queer Welsh Stories wedi cyhoeddi ‘Atgof’ yn ei chyfanrwydd ar lein. Gallwch ddarllen y bryddest trwy glicio yma.

Previous
Previous

Cerdd: Mas ar y Maes - Caryl Bryn

Next
Next

Celf: Machlud, Yr Enfys, a dathlu hunaniaeth - Gwen ap Robert