Celf: Machlud, Yr Enfys, a dathlu hunaniaeth - Gwen ap Robert
Fy enw i yw Gwen a dwi’n dod o Aberystwyth; cartref i wylanod hiwj a scenes machlud styning. Ar hyn o bryd dwi’n astudio’r gyfraith a gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn profi bywyd y ddinas fawr. Mae gwleidyddiaeth a chyfraith cymdeithasol wedi fy niddori i ers oedran ifanc, ar ôl i fi wylio cyfweliad gydag offeiriad a oedd yn gwrthwynebu cyfreithloni priodas hoyw ym Mhrydain. O’n i erioed ’di clywed oedolyn yn mynegi barn mor gryf ar y mater a fi’n cofio teimlo'n sick. Hwyrach ’mlaen, adeg TGAU, dewisais astudio celf fel un o 'mhynciau a ’nes i wneud yn siŵr mai codi ymwybyddiaeth am hawliau merched, y gymuned LGBT a lleiafrifoedd ethnig fyddai sail pob prosiect. Oedd ’y nghelf i’n cael ei arddangos yn ffeiriau’r ysgol ac roedd hynna’n neud i fi deimlo fy mod yn cyflawni rhywbeth, trwy godi ymwybyddiaeth mewn ffordd gynnil. Roedd o’n deimlad pwerus.
Roedd tyfu lan yn Aberystwyth yn grêt - tyfes i lan o gwmpas pobl agored a fi ’di bod yn #blessed. Ma’ tirlunie Aber yn hyfryd, fel ’nes i grybwyll am scenes machlud Aber. Oedd mam yn fy annog i baentio lliwie oren, pinc ac aur yr awyr, a ma’ gwylio unrhyw fachlud anhygoel nawr yn fy ysbrydoli i baentio.
Roedd tyfu lan mewn teulu mawr a oedd yn mwynhau ac yn pwysleisio pwysigrwydd y celfyddydau - boed yn ddawns, llenyddiaeth, cerddoriaeth neu gelf - yn ddylanwad mawr ar fy nghelf ac roedd gen i wastad rywun oedd yn fy ysbrydoli.
Yn gyffredinol caf fy nenu at gelf haniaethol - pan dwi’n ceisio darlunio gyda steil real dwi’n aml yn diflasu, gan fy mod i’n hoffi ceisio dehongli darlun a gweld ystyr o fewn y siapiau mwya’ haniaethol. Fi’n hoffi darlunio o’r cof, yn enwedig wynebau.
Mae’n ddiddorol gweld sut dwi’n cofio wynebau y bobl o nghwmpas, a sut dwi’n defnyddio cymysgedd o nodweddion wynebau fy hoff bobl.
Tan yn ddiweddar, o’n i’n hoff o ddelweddau grungey a blêr efo vibe tywyll iddyn nhw, yn enwedig wrth ddefnyddio haenau o dechnegau gwahanol. Ond erbyn hyn, dwi’n ymdrechu i gael darlun glân ac yn defnyddio dull un-linellog fel arfer.
Anaml iawn y byddaf yn gweld arddangosiad o gelf LGBT yn y Gymraeg sydd wir yn portreadu profiadau gwahanol y gymuned LGBTQ+. Mae’r ddelwedd o ‘Gymry traddodiadol’ yn awgrymu nad oes galw am gelf LGBTQ+. Falle bod ’na wirionedd i’r ddelwedd hon, a gaiff ei heffeithio gan ddiffyg arddangos celf LGBT yn y Gymraeg. Mae hyn wedi arwain at feddylfryd fod hawliau LGBTQ+ yn fater estron ac amherthnasol, ond dwi wir yn credu y gall hybu celf gan bobl LGBTQ+ ac am bobl LGBTQ+ newid hyn.
*** Gellir canfod celf Gwen ar instagram o dan yr enw @gwenapdwdls ***