Stori fer: Atgofion Annelwig - Rhiannon Lloyd Williams
Peth rhyfedd ydy’r cof.
Ydych chi’n cael trafferth cofio pethau?
Cofiaf ddiwrnod fy mhriodas yn glir fel pe bai’r blynyddoedd heb fod o gwbl.
Ydych chi’n dibynnu ar hen luniau, yr hen wefan Facebook neu eich
hen declynnau ffôn symudol i gofio’r manylion yn well?
Ond mae wythnos ein mis mêl yn y Ganolfan Wyliau wedi pylu â phob diwrnod nes bod yr atgof yn ffug.
Wel, dim mwy.
Dim ond pamffled y Ganolfan sydd gen i fel memento o’r nosweithiau hwyr yng nghwmni cyplau priod eraill.
Mae gan y doctor Silvia Hardacre II
yr ateb a hynny am bris bychan iawn.
Mae rhychwantu’r ddwy ganrif wedi bod yn boen a hanner. Roedd pawb yn disgwyl pethau mawr ar ôl i’r awdurdodau a phobol fel Silvia Hardacre II addo byddai’r flwyddyn 3050 yn un i’w chofio ar ôl epidemig y firws Salwch Meddyliol. Ond does neb hyd yn oed yn gallu cofio ‘leni yn glir heb sôn am llynedd.
Gwnewch apwyntiad trwy eich sgrin blasma heddiw cyn i chi
ddifaru peidio. Llefydd yn prinhau. Peidiwch â chael eich gorfodi i
aros blynyddoedd nes y cewch dderbyn y driniaeth.
Cofiwch nawr. Cofiwch am byth.
Byw heddiw, byw am byth.
Diffoddais y sgrin blasma ar hyd wal gefn y gegin gan ymhyfrydu yn y distawrwydd llethol. Eiliadau prin yw distawrwydd llethol yn y ganrif hon.
Er nad wyf wedi cyrraedd fy hanner cant eto, rydw i’n dibynnu ar gof fy ffrind, Megan. Amgylchynir iris ei llygaid â chylch euraidd arallfydol fel taleb o’i ‘phris bychan iawn’. Does dim ffordd o ddianc rhagddo bellach. Mae’r hysbysebion ym mhobman; y Canolfannau Triniaeth SH2 yn codi bob yn ail stryd a meirwon y SM yn parhau i ymddangos.
Cofiwch gallwch hefyd wneud apwyntiad trwy eich
llawiadur trwy wasgu botwm y Ganolfan Triniaeth SH2.
Cofiwch nawr. Cofiwch am byth.
Byw heddiw, byw am byth.
Ochneidiais yn ddiamynedd cyn diffodd y cyfrifiadur micro sy’n rhan o’m llaw. Derbynia pawb y teclyn unwaith iddynt droi’n ddeunaw ar yr amod nad ydynt yn ei ddiffodd. Ond pwy sydd wir yn becso yn y byd trychinebus hwn? Mae pawb ar restr Angau y dyddiau hyn.
Does neb yn hoffi siarad am y meirwon. Gwasgarodd yr epidemig gan gyrraedd pedwar ban y byd. Amharwyd ar ymennydd pob un heblaw cenhedlaeth y 3000. Roedd y bobl hŷn i gyd yn troi’n wallgof cyn marw yn eu budreddi eu hunain gyda’u plant yn syllu’n gegrwth arnynt o’u mannau cuddio. Effeithiodd ar bawb yn wahanol. Rydw i’n deip deg allan o ddeg sy’n golygu ymhen blwyddyn byddaf yn cael fy ngalw’n wallgof, ond tan hynny mae’r salwch yn bwyta fy nghof fesul tamaid bob dydd. Erbyn heddiw mae’r teipiau hyd at chwech wedi marw, ond nawr mae yna iachâd. Ymhen hir bydd gan bawb stamp euraidd Silvia Hardacre II o amgylch eu hiris.
MissWelsh347 can you open the door please.
Ond mae yna rywbeth o’i le.
We know you’re in there. You’ve switched off your screen
and your hand computer which is against capital law.
Dydy Megan ddim wedi bod yr un peth ers ei hapwyntiad yn y Ganolfan Driniaeth SH2. Ydy, mae hi’n iach eto ac felly’n cofio popeth unwaith iddi gau ei llygaid am dair eiliad ond nid Megan yw hi unwaith i’w llygaid gau. Try’n byped i’r Uwch Reolwyr fel nifer o’r teipiau chwech eraill.
If you don’t open the door we’ll have to override the system
and use force. You will be detained for failing to co-operate.
Gwrthodaf dderbyn y driniaeth. All neb fy ngorfodi.
Do you understand?
Nac ydw. Dydw i ddim yn deall pam eich bod chi eisiau ein gwneud ni’n bypedau i chi. Nac yn deall beth sydd wir yn digwydd yn ystod yr eiliadau tyngedfennol hynny.
Maybe she doesn’t understand.
Does anyone have a translating app on their handcomp?
Bydd rhaid i mi rybuddio’r lleill cyn i bawb troi’n pypedau SH2 oherwydd ofn. Efallai nad ydy’n rhy hwyr i Megan hyd yn oed.
Dyma’r rhybudd olaf. Agorwch y drws. Ydych chi’n deall?
Ydw. Dewch amdanaf, rydw i’n barod i ymladd.