Cerdd: Cadenza Cerddorfa’r Orsaf - Awen Fflur

(Wrth edrych ar y tyrfaoedd yng ngorsaf Grand Central yn Efrog Newydd, ddeuddydd cyn urddo’r Arlywydd newydd, Donald Trump.)

Maen nhw yma, yn eu miloedd,

a diben pendant i daith pob un

wrth heidio i gyfeiliant y trenau is law.

Clecian y sodlau,

Murmur olwynion ces,

Sisial newid mân mewn pocedi,

yw cân cerddorfa’r orsaf.

Dyn ar daith i’w waith;

cyfreithiwr, cyfrifydd neu feddyg,

mwy na thebyg.

Hen gwpwl,

â phrawf yr oesau yng yn glir yng nghadernid eu cyffyrddiad.

Cwpwl ifanc yn dadlau

â’u geiriau fel bwledi

ar garreg ateb waliau’r orsaf.

Yna, tawela gerddorfa’r orsaf wrth i’m llygaid lanio

arnynt hwy.

Nid tutti mohoni bellach

ond cadenza cymhleth

dwy ferch a dau arwydd.

‘Love not Hate’;

eu cri mewn paent amryliw,

ac un llaw yn dal arwydd, a’r naill yn cydio yn y llall yn dynn.

Datganiad gwleidyddol yw eu cusan bellach.

Yr aniddigrwydd i dderbyn

ei gasineb Ef a’i debyg

yn fasg rhyfel ar eu gwynebau,

ond â llygedyn o ofn yn newrder eu gwedd.

Collwn ddeigryn dros ddyfodiad y wal,

sy’n troi ein dynoliaeth yn

Nhw a Ni

Da a Drwg

Dyn a Dynes

Du a Gwyn

Er gwaetha’r arwyddion, y canu a’r crïo,

anorfod yw urddo’r gwenwyn i dŷ gwyna’r byd.

Gorymdeithiant i’r pellter, law yn llaw

wrth i gadenza’r orsaf ddod i ben

ac aildanio’r gerddorfa yn fy mhen,

A chywair leiaf yr America Newydd

yn gadael chwerder anniddig

ar dafodau’r sawl sy’n gwrthod tawelu.

Maen nhw yma, yn eu miloedd

a nodau’r gȃn yn boddi’r gwenwyn

yn ddyfn i gerrig yr orsaf.

Awen Fflur

#Barddoniaeth

Previous
Previous

Stori fer: Atgofion Annelwig - Rhiannon Lloyd Williams

Next
Next

Cerddi: ‘Dychlamiad’ a ‘Carn Llidi’ - Morgan Owen