Cerdd: Bae Onuku, Dydd Gŵyl Dewi 2019 - Elen Ifan

Mae Elen Ifan wrthi'n teithio'r byd ar hyn o bryd, ac fel sawl teithiwr arall gyrrodd gerdd draw at y Stamp. Mae hon yn ronynnau tywod a heli i gyd a dyma hi i chi ddarllenwyr annwyl, yr holl ffordd o Seland Newydd.

Bae Onuku, Dydd Gŵyl Dewi 2019

Cyrn carw o froc môr,

Llysywen o wymon fel lledr

a'i gwreiddiau yn grimp yn y gwres,

hanner asgwrn wedi’i dorri,

a chregyn lliwgar yn disgleirio’u glesni yn yr

haul.

Carn o gerrig gwastad

a chreiriau’r bae wedi’u gosod yn ofalus ar y

boncyff

i bawb eu gwerthfawrogi.

Ar flaenau ‘nhraed dwi’n dawnsio

at y man lle mae’r cerrig llwyd wedi’u paentio’n

ddu â’r dŵr,

a chreaduriaid tryloyw’n arnofio yn y tonnau.

Mae bwystfil yma hefyd: hen ddarn

rhydlyd o injan

yn tarfu ar natur y bae.

Anghofiwyd gan ddyn wedi’r dryllio,

ac mae’r creigiau’n araf gartrefu yn ei gorneli

Tra bo’r heli’n treulio’i gorff yn goch.

Previous
Previous

Ysgrif: Beth, ti'n bwyta - Bethan Sleep

Next
Next

Ysgrif: O dan yr awyron hyn - Sara Borda Green