Stori Fer: Mon Petit - Iestyn Tyne

Vilhelm Hammershøi, Interior with the Artist's Easel, 1910

Bob bore am unarddeg, byddai Kingsley Llywelyn yn paentio’r môr.

Wedi deffro am wyth a hepian am hanner awr, byddai’n codi o ochr chwith y gwely, ac yn gwneud ei ffordd o’i amgylch i agor y llenni ar y dde. Gyda’r haul boreol yn tywallt trwy’r gwydr sengl, byddai, yn yr haf o leiaf, yn defnyddio’r golau naturiol hwnnw i eillio, wedi iddo gychwyn rhedeg bath iddo’i hun. Eilliai wrth i’r bath lenwi ac yna amserai ei hun; ugain munud yn y bath yn unig. Roedd yn dod o’r bath am chwarter awr wedi naw yn ddi-ffael. I’r eiliad, sychai ei hun o flaen y drych. Wedi taenu gŵn sidan llaes am ei gorff, rhoi sliperi am ei draed, a chynnau sigarét iddo’i hun, byddai’n mynd drwodd i’r gegin i ferwi wy.

Roedd yn berffeithydd wrth gymysgu paent olew a thyrpant, ac roedd yn berffeithydd wrth ferwi wy. Hoffai ei wy yn feddalach na meddal. Mae’r rhan fwyaf ohonom, wrth ferwi wy yn feddal, yn dod â’r dŵr i ferwi’n araf cyn gosod yr wy i fewn am rhyw funud. Tynnwn y sosban oddi ar y gwres wedyn, a gadael yr wyau yn y dŵr am ryw chwe munud cyn eu bwyta. Cyfatebai hyn i ddeugain eiliad a phedwar munud i Kingsley. Defnyddiai amserydd bychan ar ffurf dau hanner afal i wneud yn siŵr o hynny.

Yn ystod y pedwar munud, byddai’n torri un tafell o fara yn stribedi union eu maint, gan hepgor y crystiau yn gyfan gwbl, a’u gosod yn un rhes ar ymyl ei blât. Yn ddefodol, trosglwyddai’r wy i’w gwpan ac yna, gan adael ei bryd bwyd ar y bwrdd, âi at y drws i godi’r papur boreol o’r mat, a’i ysgwyd ar agor i ddarllen y prif benawdau.

Roedd o wedi byw ym mhresenoldeb y papurau boreol erioed. Cofiai ei dad fel y cymeriad di-wyneb tragwyddol y tu ôl i’r Times wrth fyrddau brecwast ei blentyndod. Roedd y tudalennau hynny yn fwy diddorol i’r tad na’r siom o hogyn gwelw o’i flaen a lwyai farmalêd yn ara deg o’r potyn i’r tost. Yno, roedd rwbel Wal Berlin a nwyon Chernobyl; roedd gwaed John Lennon (a ‘haeddai farw’, meddai’r tad), ac ar dudalennau blaen y papur y dysgodd y Kingsley ifanc am ffrwydrad y Challenger, am Thatcher a Rubik’s Cubes, ac am sychder mawr ’88.

Hoffai bopeth am y profiad o agor papur glân a chrimp – clec yr aer wrth droi’r dudalen; yr un anadliad cyntaf llawn inc newydd.

Am ddeg, roedd gan Kingsley awr cyn cychwyn paentio. Yn ystod yr awr honno, byddai’n cymryd sigarét arall, ac yn darllen. Roedd ganddo gasgliad helaeth o nofelau am lofruddiaethau; doedd dim llawer o lyfrau eraill yn y fflat, ar wahân i ambell horwth gyfeiriol drwchus ar gerfluniau Groegaidd a phethau felly; ffosilau’n perthyn i’r cyfnod pell a rhyfedd dros ben hwnnw o fod yn fyfyriwr celf.

Efallai mai’r ffaith nad oedd o’n hoff o bobl oedd y rheswm ei fod o’n hoff o ddarllen am lofruddiaethau. Wedi dweud hynny, efallai mai dadansoddi’n ormodol fyddai peth felly.

Roedd y fflat ar ffurf L, gyda’r gegin a’r drws ‘ffrynt’ ar fraich yr L a ymestynnai i gefn yr adeilad. Roedd coes yr L yn hawlio tu blaen yr adeilad, sef y mur a wynebai’r môr. Un o’r ddwy ystafell yma oedd ystafell wely Kingsley, a’r llall oedd ei stiwdio. Am tua deg munud i unarddeg, ymlwybrai tua’r stiwdio honno; ystafell hir, isel ond un llawn golau. Roedd y ffenest fawr yn y blaen yn cynnig golygfa drawiadol ond digon generig o’r cyfarfyddiad rhwng traeth a thon. Byddai’r ffrâm ac arno gynfas wag, hufennog yn aros amdano yn y gornel wrth gefn yr ystafell, wedi ei osod yn barod y noson flaenorol ar ôl gorffen paentio llun y diwrnod hwnnw.

Traeth gwag oedd ym mhob llun a baentiodd Kingsley ers blynyddoedd. Gwyddai’r modd y codai’r gwynt y tywod yn dwyni bychan; gwyddai am anadliad llanw a thrai; gwyddai leoliad pob asen o graig oedd weithiau yn y golwg, weithiau ddim. Ac os deuai pobl ar gyfyl ei draeth – ac fe wnaent hynny’n aml, er dirfawr ofid iddo – byddai’n eu hanwybyddu’n llwyr. Traethau gwag oedd ei arbenigedd. Nid yw hyn i ddweud – a phrysuraf i ychwanegu hyn – nad oedd Kingsley Llewelyn yn medru tynnu lluniau pobl – onid oedd wedi derbyn ei wersi life drawing gan Charlène Chastáin yn y coleg celf, a fodelai i’w dosbarthiadau ei hun, ac a wasgodd y Kingsley iau at ei bronnau un prynhawn wedi sesiwn o luniadu? ‘Now, mon petit, you are an artist,’ meddai, gan ei glymu at îsl a’i ffwcio.

Na, nid mater o fethu lluniadu pobl oedd hi yn achos Kingsley, ond anhoffedd cryf tuag atyn nhw.

Heddiw, roedd hi’n boeth, ac roedd mwy o bobl nag arfer ar y traeth. Plant bach yn rhawio tywod ar gestyll; tadau’n rhawio boliau cwrw i wisgoedd tyn. Teidiau a neiniau’n dosbarthu eu bloneg yn ofalus ar dyweli ac yn rhwbio eli i’w crwyn ei gilydd. Mamau’n ymgodymu yn y frwydr dragwyddol honno rhwng brechdan a thraeth. Roedd Kingsley’n casáu’r cyfan. O’i wylfan uchel, ffieiddiai at y ffordd yr aflonyddent arno â’u heidio parhaus. Hanner gobeithiai y byddai cryfder yr haul yn sychu’r torheulwyr ymlusgaidd yn grimp, fel pricyll.

Aeth ati ar y diwrnod hwn fel pob diwrnod i gymysgu’r paent olew yn dew. Wedi bodloni ar ei liwiau sylfaenol, gosododd y paled o’r neilltu, a chroesi’r ystafell fel y gwnaeth filwaith i wylio’r traeth. Eisteddodd yn ei gadair wiail a thynnu blwch bychan ato.

Oherwydd y creithio ar ei brif wythiennau, rhaid oedd bod yn greadigol wrth chwistrellu. Bellach, roedd ei freichiau yn un llanast cnotiog. Heddiw, â llaw grynedig, tarodd y nodwydd i gesail ei forddwyd ac ebychu wrth i’r boen sydyn gydio. Gosododd y syrínj ar ymyl y silff ffenest a suddo i’r gadair. O rywle, cofiodd wyneb Chastáin â’i gwefusau cochion. ‘Now, mon petit, you are an addict,’ meddai.

Eto, â’i lygaid, teithiodd hyd a lled y traeth. Rŵan, roedd popeth fymryn yn gliriach – pob ymyl rhyw ychydig yn fwy miniog. Diflannodd sŵn y môr a’r lleisiau wrth i’r artist ganoli popeth ar yr olygfa o’i flaen. Ni flinai fyth o fwa’r traeth, meddyliodd; y siâp gosgeiddig hwnnw oedd fel hem o edafedd aur am liain y dŵr. Ni flinai o’r modd y deuai’r tir i fyny’n bigyn cyn disgyn yn glogwyn. Ni flinai fyth o’r ffin anorchfygol hon – maes cad y grymoedd mwyaf ar wyneb y ddaear.

Eisteddodd Kingsley yno am chwarter awr dda, yn ôl ei arfer, cyn symud o gwbl. Defnyddiai’r cof dros y llygad wrth baentio, a thros amser rhoddodd fin ellyn ar y cof hwnnw. Gweld, cofio, cofnodi. Y golau, ôl yr elfennau yn y tywod, uchder y llanw, y cymylau, y tonnau, y cysgodion.

Mon petit … you must paint with your mind, see with your hands, hear with your eyes … now you see with your eyes, you paint with your hands, hear with your ears … it is boring. Fucking boring. But I love you …’

Roedd ei ffrâm baentio yng nghefn yr ystafell am yr union reswm hwnnw; gallai baentio yno heb weld ei destun o flaen ei lygaid. Gwynebai’r wal, a gwrthod y demtasiwn honno i droi i fwrw ail olwg ar union donfedd y cymylau a hwyliai o’r de orllewin. Aeth yno ar y diwrnod hwn yr un fath, a threulio pum munud yn syllu ar y cynfas gwag.

Pan aeth ati, plastrodd yn gyntaf gôt o liw glas pastel – cymysgedd o wyn titaniwm a glas azur. Glas yr awyr. Fesul haen, âi’r lliwiau’n dywyllach, yn gobalt, yn fioled a phiws, ac o’r llanast ymddangosiadol daeth y tir a’r môr yn amlycach, a’r tonnau’n fywiocach.

‘This way you paint … it is so you and so not you. You have your way, your obsessions, your routine. When you paint, you are wild, mon petit.’

Aeth yn syth o’r ystafell wedi gorffen, gan daflu ei offer o’r neilltu. Â’i ben yn cychwyn curo, baglodd tua’r gwely a chysgu’r pnawn.

*

Deffrodd â blas chŵd yn ei geg. Trwy’r pnawn hwyr, bu’n golchi lliain y gwely ac yn glanhau’r carped. Penderfynodd glirio’r gegin ac aildrefnu’r nofelau yn ôl natur y llofruddiaethau ynddynt. Sychodd y lliain, a’i roi ar y gwely yn ei ôl. Hwyliodd swper iddo’i hun am chwech. Clywodd y cymydog dienw, diwyneb yn mynd heibio am saith. Clywodd y rhosod yn ei law.

Roedd hi’n hanner awr wedi saith erbyn iddo fynd drwodd i’r stiwdio i symud cynfas heddiw a rhoi un yfory yn ei le. Heb olau’r dydd yn ei llenwi, doedd yr ystafell fach ddim mor groesawgar, rhywsut. Caeodd y llenni ac aeth draw at y llun newydd.

Oedd, roedd y llun yma fel llun ddoe a phob llun arall. Roedd yn forlun meistrolgar; y môr yn fyw, fel anifail, a’r traeth fel gewin o aur am y bae. Llwyddodd i ddal llif tawel y bryniau yn y pellter a brwtaliaeth pensaernïol y clogwyni agos. Ac ar y traeth, yn y dŵr bas, fel yr oedd hi pob dydd, roedd y ferch honno na wyddai ddim amdani; y môr â’i fysedd yng ngwaelodion ei sgert wrth iddi agor ei llygaid yn llydan a syllu’n wag tua’r gorwel.

Gosododd gynfas newydd, wen ar y ffrâm. Torrodd y llall yn ddau dros ei ben-glin a’i roi wrth y drws hefo’r lleill. Yfory, byddai’n paentio’r môr, a dim byd arall. Oherwydd yn anad dim, roedd yn gas gan Kingsley Llywelyn bobl.

——

Daw'r stori yma o'r casgliad a ddaeth yn drydydd am Goron Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd eleni, dan y ffugenw PRY AR Y WAL.

Previous
Previous

Cerdyn Post Creadigol: Nepal - Anna George

Next
Next

Cerdd: Bannau - Lowri Havard