Adolygiad: Bydoedd Bach / Hwylio yn Erbyn Plastig - Oriel Plas Glyn y Weddw

Brawd a chwaer sydd yn hawlio muriau dau o brif arddangosfeydd Oriel Plas Glyn y Weddw dros dymor yr haf. Aeth adolygydd draw ar ran y Stamp.

Mae cerdded i mewn i 'stafell arddangosfa Rachel Porter ym Mhlas Glyn y Weddw, Llanbedrog, fel camu i mewn i nefoedd fach dawel ar ôl crwydro drwy arddangosfa'r haf sy'n serennu oddi ar waliau gweddill y Plas. Mae gosodiad y stafell yn braf i'r llygaid a chewch eich arwain yn naturiol o amgylch y waliau fesul un; o gasgliad o luniau bach sy'n canolbwyntio ar y nos heibio i flodau eithin, clychau'r gog, blodau menyn, rhedyn crin, gloÿnnod byw a phryfaid cop bach delicet, yr holl ffordd rownd at luniau bach bach sy'n eich tynnu mor bell i mewn nes bod eich trwyn jyst â chyffwrdd y gwydr. Rhyw 3cm ydy diamedr y darluniau bach yma, wedi eu fframio mewn mownt â thwll crwn fel petaech chi'n sbïo drwy chwyddwydr ar fyd microsgopig. Neu, fel dywedodd fy mrawd, fel tasech chi'n sbïo allan ar y byd drwy ddrws Hobbit. Byd natur ydy testun gwaith Rachel ac mae'n amlwg wrth fynd o amgylch y 'stafell ei bod yn hen law ar edrych yn fanwl ar fflora a ffawna ei hamgylchedd. Dyma un sy'n nabod ei maes. Mae hi wedi dal swyn a symudiad popeth mewn ffordd sy'n dangos profiad o fod allan ynghanol byd natur yn talu sylw i'r hyn sy'n digwydd yn y cloddiau a'r llystyfiant o'n cwmpas. Does dim rhyfedd darganfod felly, wrth darllen amdani yn y llyfryn bach, mai yn yr awyr agored y gwnaed y lluniau bron i gyd, a diddorol ydy darllen pwt o'r llyfr sgetsio amdani yn trio braslunio pryfetach sydd wrth gwrs yn symud drwy'r amser, o flodyn i flodyn, gan adael dim ond eiliadau ar y tro iddi roi rhywbeth ar bapur. Dyfrlliw ydy ei chyfrwng ac mae ambell i lun yn cynnwys cwyr hefyd, sy'n ymddwyn fel gwrthydd i'r dyfrlliw ac yn dod â gwead diddorol i'r gwaith. Bron nad ydy gwaith Rachel yn teimlo fel brasluniau yn hytrach na darnau gorffenedig ar brydiau; mae hoel pensil i'w weld yn aml ac mae nodiadau bach wedi eu cynnwys yng nghanol y gwaith. Ond yma mae ei chryfder hefyd; y breuder a'r ysgafnder sy'n cario'r darluniau yn fy marn i ac yn cyfleu byd natur yn ei elfen. Dyma artist meddylgar, sylwgar a medrus iawn.

Drws nesa i ystafell Rachel mae gwaith ei brawd, Ben Porter, a Mari Huws​. Rhaid i chi fynd drwy ystafell Ben i fynd at waith Rachel a dw i'n meddwl fod o'n symbolaidd iawn mod i wedi by-pasio'r ystafell yma i fynd i weld pethau Rachel gyntaf cyn dŵad yn ôl i edrych ar waith Ben. Ydan ni'n osgoi problemau plastig? Ydan ni'n cau'n llygaid ac yn mynd i edrych ar bethau deliach? Cyfres o ffotograffau sydd gan Ben gyda'r teitl Hwylio yn erbyn Plastig, yn dilyn taith i'r Arctig y llynedd. Ar un wal mae chwe llun sy'n dilyn taith potel blastig o law bod dynol i'r môr mawr. Bron nad ydy'r botel yn gymeriad ynddi hi ei hun, yn serennu ym mhob llun fel y corrach hwnnw yn ffilm Amelie sy'n mynd ar ei wyliau o gwmpas y byd ... ond yn llawer llai doniol. Ar y wal gyferbyn mae tri llun arall, un yn llun anghyfforddus o agos o berfedd aderyn. Mae'r lluniau o'r botel ei y ffordd i'r môr yn dangos yn boenus o amlwg pa mor gyfrifol dan ni am y cynnyrch dan ni'n ei brynu a'i ddefnyddio, a pha mor ddall ydan ni i be sy'n digwydd i botel blastig ar ôl i ni orffen hefo hi. Does dim ffordd gliriach o dangos hyn i ni na'r delweddau yma gan Ben.

Tra bod myfyrio dros waith Rachel yn eich cludo chi i fyd gwyrdd, melys, diniwed, mae gwaith Ben yn ysgytwad sobr i'r presennol. Nid celf i'w fwynhau mo'r arddangosfa hon ond delweddau i wneud i chi feddwl. Yn ôl y cyflwyniad ar y wal mae 35 miliwn o boteli plastig yn cael eu defnyddio pob dydd ym Mhrydain – 35 miliwn! Lle mae'r rhain i gyd yn mynd meddech chi? A pha ran dan ni'n ei chwarae yn hyn?

Ewch i weld gwaith Rachel a Ben, da chi – maen nhw'n werth i'w gweld. Ymgollwch eich hun ym myd natur Rachel ac wynebwch y gwir yn lluniau Ben, ac os dach chi fel fi yn teimlo'n ddigon anghysurus ar ôl cael eich sobri gan anferthedd problemau plastig y byd, wel – mae gynnoch chi weddill y Plas i'ch cadw chi'n brysur!

-----

Bydd Bydoedd Bach gan Rachel Porter a Hwylio yn Erbyn Plastig gan Ben Porter a Mari Huws yn parhau yn Oriel Plas Glyn y Weddw hyd ddiwedd Medi, ochr yn ochr ag arddangosfa fawreddog yr haf, sy'n cynnwys gwaith dros 100 o artistiaid Cymraeg a Chymreig.

Dymuna'r Stamp ddiolch i Oriel Plas Glyn y Weddw am roi caniatâd i ddefnyddio'r delweddau o'r arddangosfeydd a welir uchod.

Previous
Previous

Adolygiad: Y Lle Celf 2019

Next
Next

Ymateb: ‘Cilfachau’ - Morgan Owen