Ymateb: ‘Cilfachau’ - Morgan Owen
Yn y diweddara o'r gyfres o erthyglau yn ymateb i'r eisteddfod yn Llanrwst eleni, dyma Morgan Owen yn trafod cerddi'r goron, y casgliad 'Cilfachau' gan Guto Dafydd.
O’r gerdd gyntaf un, mae’r casgliad hwn yn mapio daearyddiaeth rwystredig, wrthnysig, a’r tir ei hun fel petai’n caethiwo’r traethydd yn fwriadol; ac ar ben hynny, ymddengys fod rhyw ffawd ddiwrthdro yn ei lywio tua’r dibyn. Yn wyneb yr amgylchedd ymosodol hwn, ni ellir ymleoli bellach yn ôl yr hen dirnodau a’r chwedlau sy’n gysylltiedig â nhw, ac mae ymateb y traethydd yn amrywio rhwng ildio i ddifaterwch a mynnu ffoi. Yn ‘Llwybr Arfordir Llŷn’, cawn fod ‘gwynt o bob cyfeiriad yn brathu’ mewn ‘bro sy’n bell allan o ffasiwn’ lle nad oes ‘neb yn siarad sens’. Rhag ymgilfachu felly, rhaid ‘camu dros y ffens / a rhoi un troed o flaen y llall’, a dyna osod patrwm arall a fydd yn brigo trwy gydol y casgliad: trosgynnu a thresmasu ffiniau, hyd yn oed os taw rhyw chwilfrydig-ystyried yn unig yw penllanw hynny.
Yn arwyddocaol, ‘ar ben draw lôn ben-gaead’ y mae dechrau’r daith honno. Erys rhyw amwysedd o hyd p’un ai gweithred ewyllysgar neu gyflwr di-osgoi yw’r amgáu daearyddol hwn, ac mae pwysau enbyd y cyfrifoldeb dros ymateb iddo yn ymwau trwy’r cerddi oll. Ar ymylon sicrwydd y cyflawnir y weithred o ‘[r]oi un troed o flaen y llall’: erbyn i’r daith ddechrau, ‘mae’r lleuad yn wyn yn yr awyr olau, laith’ a nesâd y nos yn niwlo’r gwrthgyferbyniadau llwm gan gynnig rhyw encilfa lle gellir delfrydu, anwybyddu, neu freuddwydio heb fod golau dydd yn dangos pethau fel y maent mewn gwirionedd. Fan hyn, ceir islais cynnil Under Milk Wood-aidd, bron, yn arbennig wedi’r sôn am y ‘boncyrs a’r byddar yn bigitan â’r dall’ yng nghysgod y gwyll. Mae’n werth cofio yn y cyswllt hwn taw syniad gwreiddiol Dylan Thomas ar gyfer Under Milk Wood oedd cyfleu tref a ffensiwyd rhag gweddill y byd am fod y trigolion wedi gwallgofi.
Erbyn yr ail gerdd, ‘Ynys Gachu, Trefor’, dwyseir yr ymdeimlad carcharol, ac nid yn unig am taw ynys sydd dan sylw. Dyma lle mae’r gymhariaeth â sefyllfa wleidyddol-gymdeithasol bröydd Cymraeg eu hiaith Llŷn yn dechrau brigo i’r wyneb, o bosib. Gellid yn hawdd weld y ‘garreg hon’ sy’n ‘edrych yn wyn o bell, / fel petai’n eithriad balch o farmor’ fel y wedd geidwadol, or-amddiffynnol ar y gymdeithas Gymraeg ei hun. Yn ôl y modd hwn o ymagweddu at ddiwylliant Cymraeg, mae’n gerfluniol glasurol, hynafol, a dyrchafedig neilltuol. Heidia ei amddiffynwyr ati megis adar y môr ‘i fwydo’u cywion, i grawcian, / ac i stompio’n warchodol’ heb amgyffred na phoeni am y sylfaen gyffredin sy’n ei gynnal, ac yn wir, ei alluogi; ac i estyn y driniaeth drosiadol hon, y ‘cwbl sy’n gwneud y garreg yn wyn / yw eu baw eu hunain’. Dichon fod y gwynder hwn – rhith-burdeb o bell nad yw ond tom wrth agosáu – yn plethu â delwedd y lleuad yn y gerdd ddiwethaf: chwelir y rhamantiaeth a gysylltir â lleuadau llên gan y noson laith, anghysurus. Yn y casgliad hwn, nid oes canllawiau sicr; pydrodd pob cysur hawdd; pydrodd pob hanfod.
Yn ‘Carreg Llam’, y gerdd nesaf, awn o’r ynys gyfyngus i ymyl y dibyn. Yma, rydym yn ôl mewn byd methedig, erthyl. Cyfres o gwestiynau yw’r gerdd hon, gan ddechrau, ‘Cyn i’r deyrnas syrthio... beth oedd y graig?’. Fel yn y gerdd ddiwethaf, cyflëir rhyw drothwy a groeswyd, a’r dadrith dilynol – yr ‘ysfa i beidio â byw’ – yn un na ellir ei fwrw heibio, unwaith iddo ddod i’r amlwg: colled ffydd derfynol, fel petai. Dyfnheir yr awgrym hwn gan linell gyntaf yr ail bennill: ‘Cyn i’r goron lithro...’. Anodd yw peidio â chanfod islais crefyddol yn y fan hon, o leiaf o safbwynt delweddol. Mae’r dadrith hwn yn gyfystyr ag alltudiaeth o ryw baradwys (ffôl?); alltudiaeth o ryw fyd cyn-gwympol lle nad oedd y marw a’r pydru a’r dioddef wedi amlygu eu hunain eto. Ond unwaith y gadewir y cyflwr naïf hwnnw o anwybodaeth hapus, ymddengys y gyn-baradwys yn gyfyng, a’i cheinder yn dwyll. Gwelir bod iddi ffiniau o hyd. Erbyn y pennill olaf, holir ‘wnaeth rhywun erioed feddwl ei bod hi’n hardd’ – cyn y cwymp? Y gwybod di-droi’n-ôl yw’r loes.
Er bod y pwyslais delweddol ar dir a daearyddiaeth yn parhau trwy gydol y gerdd hon, mae’r ‘bro’ a gyflwynwyd yn y gerdd gyntaf eisoes wedi crebachu’n ‘ynys’ sydd wedi crebachu’n ‘graig’, a’r byd fel petai’n bygwth diflannu. Amhosib yw peidio â chysylltu hyn â chrebachiad daearyddol y Gymraeg yn Llŷn, er bod rhywbeth gor-syml am y dehongliad hwnnw. Mae’r ergyd yn deillio o’r amheuaeth, y cwestiwn crafog olaf a’r cyfaddefiad ymhlyg bod cyfrifoldeb personol ynghlwm wrth y twyll, ac taw cefndir felly yw’r tir anhrugarog i’r traethydd a’i gymdeithas daflunio arno eu gofidio a’u gwamalu. Neu o bosib rywbeth mwy sinistr: eu diffyg ewyllys i fod.
Nid ydym yn canfod ehangder gofodol yn y gerdd nesaf, ‘Eglwys Beuno, Pistyll’, chwaith: rhwng waliau eglwys y mae ei hergyd, mewn gofod cysegredig ac hanfodol arwahanol. Rhyw rag-ymadroddi a wnaiff y rhan fwyaf o’r gerdd, ac nid awn yn uniongyrchol i’r eglwys. Fel yn y gerdd ddiwethaf, cyflwynir cyfres o is-gymalau, a rhaid aros am y brif gymal. Ond cyflwyna’r is-gymalau hynny gipolwg ar ryw ryddid nas cafwyd hyd at y pwynt hwn. ‘Am mai’n anaml y bydd pererinion / yn dewis y llwybr union, / am fod troedio’r tywyrch rhwng y garn a’r genlli’n / bwysicach na chyrraedd Enlli’. Yn wahanol i’r lôn ben-gaead a’r daith unffordd ar hyd-ddi, osgoir ymgilfachu, ac yn hytrach nag oedi uwch wyneb serth y garn, cerddir rhyngddi a’r môr, heb ffoli ar yr ynys (Enlli) – ni waeth pa mor sanctaidd a symbolaidd gyfoethog y bo. Yn y tir canol di-lwybr, nid oes ffin y gellir ufuddhau iddi. Cemir yn ôl ymhellach ac ymagor i’r ‘ywen a llawryf a gwenith a grug’ sydd ‘mor sanctaidd ag adnod ac emyn cryg’. Os yw’r gerdd flaenorol yn amneidio tuag at gyflyrau parhaol, deddfol hyd yn oed, ymddatod a wnânt fan hyn – er nad yn gyfan gwbl, am fod y prif-gymal a wnaiff synnwyr o’r gosodiadau hyn eto i ddod.
Am y tro, fodd bynnag, caiff hanfod ac ystyr eu hallanoli, a rhoir ffydd yn y gofod amgylchynol: yn y fro. Rhyw ymarallu yw hwn, a dirprwyo cyfrifoldeb i’r tir; ymroir iddo ac ymgolli ynddo, fel bod poen y cyfrifoldeb llethol dros gynnal yr ymwybyddiaeth o ddirywiad yn cilio. Ond mae’r dadrith yn dychwelyd, am fod y tir yn erydu a’r gatiau’n rhydu: ‘am nad oes gwahaniaeth rhwng ffydd a hunan-dwyll’. Mae’r pydredd a’r cyfnewidioldeb eisoes wedi treiddio i’r tir, a daw’r ddaearyddiaeth oriog a chosbol i’r amlwg unwaith eto. Dibenna’r gerdd yng ‘nghangell gul’ yr eglwys. Gwrth-hanfodol yw y gerdd hon: ‘er bod pawb yn gwybod nad yw Duw’n bodoli / mae hyn yn teimlo fel addoli’. Fel yn achos yr ynys gachu, dadlennir yma hunan-dwyll credu yn arbenigrwydd rhyw le oherwydd ei hanfod tybiedig.
Yn ‘Porthor’ ‘Mae symud yn llonydd’ ... ‘Ond dydy llonydd ddim yn bod’. Mae gofod yn ddiystyr bellach, am nad oes cyfeirbwyntiau dilys sy’n galluogi i rywun ymleoli, ac o’r herwydd, nid yw pellter yn bod. Aeth popeth yn unffurf a gwag, heb y profiadau sy’n cynysgaeddu gofod ag ymdeimlad o amser. O’r herwydd, anodd iawn ydyw i’r traethydd ymglywed â’r ‘chwedl’ deuluol a gyflwynir ‘am y traeth yr oedd ei dywod, / trwy hudoliaeth yn canu’. Dim ond trwy ‘anghofio am y sôn am sŵn, / ac ailddechrau cerdded yn gyffredin’ y daw rhyw lun ar y chwedl i’r amlwg, wrth i’r ‘gronynnau griddfan’. Tipyn o wahaniaeth sydd rhwng ‘canu’ a ‘griddfan’, fodd bynnag. Unwaith yn rhagor, nid oes modd lleddfu ar y dadrith, ac ni ellir llochesu ym mythau plentyndod, hyd yn oed. ‘Gyda’r gwichian, dyma hiraeth am ... y mwydro sy’n troi’n draddodiadau, / y celwydd sy’n troi’n chwedlau’n y cof’. Collodd hanes ei ddyfnder, sef y dyfnder y gellir consurio chwedlau ohono; crebachodd y byd yn wastatedd oriog: traeth gwyntog lle na fydd olion traed yn aros hir cyn cael eu chwythu ymaith, ac ni ellir olrhain ynddo y teithiau (a’r teithwyr) hynny sy’n gwneud synnwyr o’r presennol.
Ymddangosiadol amlwg yw ergyd ‘Porth Meudwy’, ar yr olwg gyntaf, gyda delwedd ganolog y winllan a’r gwinllannwr yn wahoddiad i gymariaethau â’r rhan gyfarwydd honno o Buchedd Garmon Saunders Lewis, ynghyd â’r sôn am beidio â mewnforio ond ‘plannu’n annibynnol, / meithrin ein grawnwin ein hunain’ ac ‘eplesu’r sudd yn win cynhenid’. Ond datblygir ynddi y thema waelodol, gyfarwydd yr amheuaeth a’r gwamalu eto i gyd: ‘Gosododd ei ddôl â gofal gŵr / a ddarllenodd lyfrau am y pwnc ... cyn plannu’r prennau / mewn pridd nad oedd eisiau gwybod’. Defnyddir y rhan honno o Buchedd Garmon, ‘Gwinllan a roddwyd i’m gofal...’ fel datganiad ffydd, bron, mewn disgyrsiau cenedlaetholgar traddodiadol (rhamantaidd, hyd yn oed), ond mae grym y geiriau cyfarwydd hynny, fel arweiniad llyfrau’r gwinllannwr, wedi pallu. Mae’r geiriau’n wag. Mewn cymdeithas sy’n breinio awdurdod testunau dethol, boed yn ganon llenyddol neu Feibl, tipyn o ddiymadferthedd yw hwn. Fel yn y gerdd ddiwethaf, ni ellir credu yn y chwedl ddethol bellach, am fod y dadrith sy’n llethu’r traethydd yn wal ddiadlam.
Ar y darlleniad cyntaf, nid oedd ‘Tŷ yn Rhiw’ yn taro cystal tant. Rhy amlwg oedd ei hergyd (‘ti’n gwybod yn iawn fod ‘na oresgyniad / ond sgen ti’m syniad, wastad, / lle’n union mae o’; ‘mae’r mewnlifiad yn cuddiad / mewn pobl neis’). Ond mae’r pendroni ynghylch y ‘gelyn’ ystrydebol yn paratoi’r ffordd at y pennill olaf sy’n ein tynnu’n nôl at y llinyn sy’n cydio’r casgliad at ei gilydd. Sonnir yma am y ‘darfod’ sydd mor llechwraidd â ‘Custard Creams, Malted Milk a Nice / yn meddalu mewn tuniau bisgets / yn nhai neiniau achos nad oes neb / yn galw ryw lawer, bellach’. Mae min llymach o lawer ar y ‘darfod’ pan fo cyfrifoldeb personol ynghlwm wrtho, boed yn ganlyniad i ddiffyg gweithredu, esgeulustra, neu ddiffyg ewyllys; pan nad oes modd dadlwytho’r cyfan yn daclus ar rywbeth, neu rywrai, allanol.
Golygfa gythryblus a gawn yn ‘Cytiau rhyfel, Porth Neigwl’, a gweddillion oes arall yn glynu’n styfnig wrth y presennol: ‘Rŵan, a’u diben ar ben, / maen nhw’n gwrthod pydru’. Yr ateb a gynigir i hyn yw bod amser yntau , am taw ‘[b]ro yw hon yr oedd amser yn digwydd iddi’. Yn yr un modd â rhai o’r cerddi eraill, yr unig beth sy’n bod yw’r presennol arwynebol a llesg, heb ddyfnder hanes. O’r herwydd, nid oes modd gwneud synnwyr o’r dirwedd hon; ni ellir ei darllen. Nid y cytiau rhyfel sydd wir dan sylw yma; mae’r fro oll yn ‘gwrthod pydru’, er gwaethaf y dirywiad amlwg – o safbwynt y traethydd. Erys o hyd i aflonyddu ar gydwybod y sawl sy’n weddill. Yn hyn o beth, mae’r fro gyfan yn ddrychiolaeth. Hynny yw, mae’r cyd-destun gofodol yn parhau, ond nid y profiad a wnaeth y gofod – y fro – yn lle y gellir ei nabod yn ôl ‘chwedlau’, ac felly iaith y chwedlau hynny, yn yr achos hwn. Nid yw’n hollol fyw, ond nid yw wedi marw yn gyfan gwbl chwaith.
Af nawr i’r gerdd olaf. Wedi trafod y modd y bu i rym geiriau a’u hawdurdod ballu yn y cerddi diwethaf, cawn ymateb o ryw fath yn y gerdd hon. Chwilia’r traethydd ar Google am adnod mae’n ei led-gofio wrth loddesta mewn tafarn, sef ‘Bwytewch a byddwch lawen / canys yfory byddwch farw’, ond mae’n darganfod nad yw’n bodoli. Rhyddhad iddo yw hyn, ac aiff i ymsynio: ‘beth os mai drwy erlid y gorwel / yr holl ffordd adre, gan alw / mewn tafarn wen ar waelod y stryd, / a bwyta / a bod lawen / y mae / byw?’. Yn y diffyg ystyr, cyfansodda ei destun ei hun, rhyw ddeddf amgen, os mynner. Datganiad dirfodol ydyw: byw fel rhywbeth gweithredol, a rhywbeth symudol, o gymharu â’r modd y bu’r traethydd yn degan i ffawd ac i ddaearyddiaeth elyniaethus o grebachlyd yn y cerddi eraill. Yma, mynegir rhyddid rhag hynny yn llythrennol trwy gyfrwng symudedd, ac ehangder gofodol, sef trwy ‘droedio’r tir hallt / o draeth i draeth’ ac ‘erlid y gorwel’. Ond ni chawn ddiweddglo taclus a therfynol, am fod yr un amheuaeth yn llechu yn y cwestiwn hwn: ai cymod yw hwn, ac ymdaflu i fywyd heb boeni; neu ai ildiad yw, ac anwybyddu’r hen gnofeydd cydwybod, am taw ofer yw’r cyfan?
Yn y casgliad hwn, mae oriogrwydd y tir yn diriaethu gwewyr dirfodol, ac mae’r ymateb i’r ymgilfachu a achosir gan y ddaearyddiaeth ymosodol – ynghyd âr awgrym bod y tir yn fyw, ac yn gweithredu yn ôl ewyllys dialgar – yn gosod cwestiwn sylfaenol i’r traethydd: i ba raddau yr wyf yn gyfrifol am hyn?