Cerddi: ‘Dychlamiad’ a ‘Carn Llidi’ - Morgan Owen
Dychlamiad
Darllen yr oeddwn yng nghlydwch fy
stafell pan ddychlamodd golau'r bylb
yn ddisymwth. Am ryw encyd
anfeidrol o fychan bu tywyllwch.
Amrantiad, yn wir, ond taniodd fy
nychymyg er ei fyrred. Ni allwn beidio
a meddwl wedyn am dywyllwch y nos,
a sut rydym, yn groes i arfaeth y
bydysawd, yn ei gadw draw gyda'n
goleuadau. Yng nghwt y sylweddoliad
hwn, ailgyneuwyd ynof ryw barchus
ofn tuag at y nos wrth ystyried sut
mae'n ein hamgylchynu ni a'n
hynysoedd o lacharedd. Nid oes ond
rhaid i'r goleuni ballu unwaith er
mwyn teimlo'r duwch yn gwasgu
amdanat, yn stelcian fel blaidd o
amgylch y ty.
Carn Llidi
Cyfrwng gweledigaethau newydd
oedd y garn oesol.
Darllenais o’i chopa
gylchdro’r feidr yn denu’r
blynyddoedd i’r dechreuad
yn ddi-baid; cronnant ar
odre’r henle lle’r ânt
ar dramp ar hyd y pentir:
y môr yw eu gwahanfur.
Dychwelant yn y man
i droed y garn i’w
hanfon eto ar eu taith.
Bûm innau uwch ben y tir
yn caffael aflun y môr
lle cyll y cylchdro ei afael.
Ymdroi amlgyfair y môr
a gipiodd hanesion o’u rhigol:
daeth â minnau at y garn
i sylweddoli’r siwrneiau
gleision a deilio’r pererindodau.
Yno y bûm: fy nhraed ar dir
chwedlau a’m meddwl
wedi ei ryddhau o afael
y cylchdro, ar sathr y tonnau.
Morgan Owen
@morgowen - bardd Prosiect Rhithganfyddiad Blog Rhithganfyddiad | @ProsiectRhith