ARCHIF
~
ARCHIF ~
Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.
Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
POPETH / Adolygiadau / Amrywiol / Barddoniaeth / Cardiau Post Creadigol / Celf / Cyfweliadau / Rhestrau Darllen / Rhyddiaith Greadigol / Ysgrifau
CATEGORIAU ARBENNIG: MIS HANES LHDTC+ 2019 / MIS MUDO / GŴYL INSTAGERDDI 2019 / MIS BACH GWYRDD 2020
Wrth dy grefft: Brawddegau - Llŷr Gwyn Lewis
Dach chi’n gwybod amdani. Y math o frawddeg sydd gen i mewn golwg. Hon. Neu hon falla. Y math o frawddeg fachog, fer sy’n cythru’n uniongyrchol am y darllenydd. Heb ferf ar ei chyfyl weithia. Yn gweiddi. Yn hawlio sylw.
Wrth dy grefft: Trawsieithu fel rhan o’r broses greadigol - Sara Louise Wheeler
Dyma’r ail ddarn mewn cyfres o ysgrifau lle rhoddir cyfle i awduron, beirdd a dramodwyr ystyried elfennau o’u crefft gan rannu'r hyn y maent wedi ei ddysgu.
Wrth dy grefft: Drafftio Barddoniaeth - Grug Muse
Dyma’r darn cyntaf mewn cyfres o ysgrifau lle rhoddir cyfle i awduron, beirdd a dramodwyr ystyried elfennau o’u crefft gan rannu yr hyn y maent wedi ei ddysgu.