ARCHIF

~

ARCHIF ~

Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.

Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com

Stori Fer: O'r Môr #1. DON'T DRINK SEA WATER - Mari Huws
Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp

Stori Fer: O'r Môr #1. DON'T DRINK SEA WATER - Mari Huws

Roedd y dingi oren yn arnofio ar wyneb y dŵr yn dawel. Dim tir, dim llong, dim aderyn. Dim i’w weld ond gwyneb tawel y dŵr, y tri corff o’i flaen a’r bag. Drwy gil ei lygaid edrychodd Qian ar linell syth y gorwel, llinell syth fel petai rhywun wedi ei thynnu gyda phren mesur. Y linell syth sy’n gwahanu’r môr a’r awyr. Awyr di gwmwl. Y ddau fod mawr, meddyliodd. Y môr a’r awyr. Anfarth.

Read More
Stori Fer: Y Gwydr - D. D. Owen
Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp

Stori Fer: Y Gwydr - D. D. Owen

- Odw, rwy'n falch ohonyn nhw. Tair seren! S'dim llawer â chymaint – maen nhw'n arwydd fy mod i'n un o’r goreuon, neu ar y ffordd yno, er taw dim ond dwy sy'n aur. Mae un yn orfodol: os oes llif 'da chi, rhaid i chi ennill hon i dystio nad oes unrhyw beth ar eich llif sy'n groes i foesoldeb, teyrngarwch na wleidyddiaeth gywir ein Gweriniaeth. Eich bod chi'n gyfreithiol.

Read More
Stori Fer: Mon Petit - Iestyn Tyne
Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp

Stori Fer: Mon Petit - Iestyn Tyne

Bob bore am unarddeg, byddai Kingsley Llywelyn yn paentio’r môr. Wedi deffro am wyth a hepian am hanner awr, byddai’n codi o ochr chwith y gwely, ac yn gwneud ei ffordd o’i amgylch i agor y llenni ar y dde. Gyda’r haul boreol yn tywallt trwy’r gwydr sengl, byddai, yn yr haf o leiaf, yn defnyddio’r golau naturiol hwnnw i eillio, wedi iddo gychwyn rhedeg bath iddo’i hun.

Read More
Stori Fer: Yncl Dennis - Iago ap Iago
Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp

Stori Fer: Yncl Dennis - Iago ap Iago

Syrthiodd Dennis i’r llwyn, y deisen lemwn drisl yn malu’n friwsion yn ei law dew, binc. Rhyw dair llath i’r chwith, roedd Gwawr ei wraig ar y lawnt yn horisontal yn barod, synau bychain a diferiad o ddŵr pinc yn dod allan o’i chêg. Potel a hanner o wîn y tu fewn iddi. Ffrog feinweol a hollol anaddas i’r tywydd yn dal amdani’n ddewr.

Read More
Stori Fer: Aberth y Tafod - Morgan Owen
Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp

Stori Fer: Aberth y Tafod - Morgan Owen

Chwythai dalennau crimp fel croen winwns o’r berfeddwlad o bryd i’w gilydd. Deuent ar wynt sych a chrasboeth a ddaethai dros y tiroedd llwm a gwag, ac ni wyddai neb eu tarddiad. Mynnai’r ofergoelus taw cenadwri wasgaredig rhyw broffwyd oeddent a aeth ar goll ar y paith, ac a daflai ddalennau ei lyfrau i’r awyr gan obeithio y cyrhaeddent eu nod yn y pen draw, sef calonnau briw y boblogaeth weddilliedig. Ond ni roes neb fawr o goel ar y ddamcaniaeth hon.

Read More
Stori Fer: Torri Gwallt ar Fore Mawr – Dewi Alter
Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp

Stori Fer: Torri Gwallt ar Fore Mawr – Dewi Alter

Edrychais ar y newyddion yn syth pan ddihunais. Arhosais i fyny’n hwyr er y bûm yn benderfynol o beidio. Mae rhywbeth am etholiadau sy’n fy nghyffroi. Honna nifer bod lleiafrifoedd yn llawer mwy effro’n wleidyddol, wn i ddim os yw’n wir ai peidio. Arhosais ar ddihun tan tua 2 o’r gloch, hanner wedi 2, efallai, yn gwylio. Yn gaeth i’r sgrin wrth i ganlyniadau ddiferu’n araf i mewn.

Read More
Stori Ffantasi: Y Brawd a’r Chwaer – Elidir Jones [Rhan 3]
Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp

Stori Ffantasi: Y Brawd a’r Chwaer – Elidir Jones [Rhan 3]

Deffrodd ar ei draed mewn gardd. Yr ardd brydferthaf iddo ei gweld erioed. Patshyn bach o dir yn arnofio yng nghanol awyr las, heb gwmwl yn agos ato. Yn y canol, roedd coeden anferth yn ymestyn tua’r nef, ei brigau trwchus llwyd yn gwthio i bob cyfeiriad, dail hir o wyrdd dwfn yn glynu’n styfnig wrthyn nhw. Cofiodd bod coeden debyg wedi tyfu y tu allan i Norkov pan oedd o’n blentyn. Roedden nhw wedi ei thorri i lawr flynyddoedd yn ôl.

Read More
Stori Ffantasi: Y Brawd a’r Chwaer – Elidir Jones [Rhan 2]
Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp

Stori Ffantasi: Y Brawd a’r Chwaer – Elidir Jones [Rhan 2]

Pwysodd Timofei yn ôl yn erbyn y wal. Bu rhaid iddo gyfadde nad oedd o erioed wedi clywed am yr un o’r duwiau roedd Sonda wedi eu crybwyll. Un duw’r gwynt oedd yn wybyddus iddo fo – Gwern, Arglwydd y Dymestl. Pan roedd o’n paratoi i adael Norkov, roedd y si ar led bod teml fawr yn cael ei chysegru yn ei enw rywle yn Undeb y Borthoriaid. Penderfynodd nad oedd hi’n syniad da crybwyll ei enw yng nghlyw Sonda.

Read More
Stori fer: Safbwynt - Ifan Tomos Jenkins
Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp Rhyddiaith Greadigol Cyhoeddiadau'r Stamp

Stori fer: Safbwynt - Ifan Tomos Jenkins

Tarodd Harri nodyn arall, ac un arall. Roedd e’n drefnus, yn graff, yn grefftus. Fe oedd yn rheoli’r ystafell. Neb arall. Rheoli’r anadlu a’r sŵn. Rheoli’r cymdeithasu. Rheoli’r emosiwn. Adeiladai’r nodau ar ben ei gilydd nes eu bod yn un wal gref o gysur. Gosodai’r nodau yn ofalus yn y mannau a oedd yn ecsbloetio’u rhinweddau orau. Defnyddiai’r nodau cedyrn i gefnogi’r rhai bregus, tra’i fod yn ofalus i beidio â’u gorlwytho. Torrodd a gweithiodd wrth rai o’r nodau fel petaen nhw’n emau gwerthfawr er mwyn i’r golau fownsio’n chwareus o’u cwmpas, cyn dianc er mwyn i’r byd gael eu gweld yn eu holl gogoniant. Nodiodd ei ben, dim gormod, ac roedd hynny’n ddigon; ymunodd pawb yn y canu.

Read More