ARCHIF
~
ARCHIF ~
Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.
Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
POPETH / Adolygiadau / Amrywiol / Barddoniaeth / Cardiau Post Creadigol / Celf / Cyfweliadau / Rhestrau Darllen / Rhyddiaith Greadigol / Ysgrifau
CATEGORIAU ARBENNIG: MIS HANES LHDTC+ 2019 / MIS MUDO / GŴYL INSTAGERDDI 2019 / MIS BACH GWYRDD 2020

Celf: Catrin Menai
Dwi ddim yn sgwennu'n naturiol yn y Gymraeg ond yn mwynhau cyfuno geiriau - mewn ffordd mae'n fwy rhydd i fi achos mae'r sŵn yn dod o flaen yr ystyr.

Celf: Cydfodoli - Manon Dafydd
Dyma ymateb yr artist Manon Dafydd, trwy gyfrwng cyfres o dorluniau papur, i'r mis bach gwyrdd.

Ymateb: Arddangosfa Empower Me! - Sara Treble-Parry
Mae arddangosfa Empower Me! yn archwilio cymysgedd cyffrous o syniadau yn ymwneud â benyweidd-dra, o ffotograffiaeth i baentiadau, o frodwaith i serameg.

Cyfweliad: Celf Mwydyn y Glust - Freya Dooley
Mae’n ymwneud â stori Echo o Fytholeg Groegaidd, wedi’i blethu gyda straeon eraill am fenywod mewn diwylliant cyfoes sydd hefyd wedi colli eu lleisiau, boed yn llythrennol neu’n ffigurol. Yn y prif ofod, mae yna gomisiwn ffilm newydd o’r enw ‘The Host’, gosodiad ffilm tair sianel, a phrint mawr o wm cnoi.

Celf: Aralledd yn y Gymru wledig - Heledd Williams
Dyma gasgliad o luniau nes i ar ôl bod yn darllen am hanes y teulu ar ochor fy nhad i o Nant Peris, a hanes y brwydro caled dros y dosbarth gweithiol yr oedd y diwydiant chwarelyddol wedi ei feithrin. Bu farw taid o Silicosis yn ei 70au.

Celf: Machlud, Yr Enfys, a dathlu hunaniaeth - Gwen ap Robert
Mae gwleidyddiaeth a chyfraith cymdeithasol wedi fy niddori i ers oedran ifanc, ar ôl i fi wylio cyfweliad gydag offeiriad a oedd yn gwrthwynebu cyfreithloni priodas hoyw ym Mhrydain. O’n i erioed ’di clywed oedolyn yn mynegi barn mor gryf ar y mater a fi’n cofio teimlo'n sick.

bob dydd, bob dydd, darluniaf _______ bob dydd - Esyllt Lewis
Dwi wedi neud bron i 400 darlun fel rhan o brosiect @darlun_y_dydd bellach. Sain siŵr iawn pam.

Cerdd: ffoto-haiku - John Rowlands a Morgan Alun

Ymateb: Golau Byw - Manon Awst
Wel, a'r steddfod bellach yn ddim byd mwy na atgof, dyma gyfle i edrych yn ôl ar yr wythnos a’i hadladd. Yn ystod yr wythnos, gofynodd Y Stamp i ambell berson daro golwg ar gynnyrch ac arddangosfeydd yr eisteddfod, ac adrodd yn ôl i ni yn fama yn Stamp HQ. Y cyntaf i wneud hynny ydi Manon Awst, a fu i stondin ‘Gwyddoniaeth y Môr’ Prifysgol Caerdydd yn y Babell Wyddoniaeth ar ein rhan.

Celf: Du a Gwyn - Aur Bleddyn
"Ma 'na ddarn yn y stori'n sôn am amser bath yn nhŷ nain, felly lluniais y ferch yn y bath 'ym mreichia du' ... fel 'se popeth yn iawn yn y bath, mae hi'n anghofio am realiti felly mae hi'n gwynebu i ffwrdd o'r du. Gwelir fod y 'du'n cael ei sugno ... mewn i 'ngwythienna', a'r unig liw ydy'r 'blew yn sythu fatha cae o wenith melyn' ar ei choesau".

Cerdd a Chelf: Ysgyfarnog - Morwen Brosschot & Kim Atkinson
Daeth yr eira’n / ddirybudd / a disgynnodd / fesul pluen / wynias, wen / drwy’r dydd.

Ffotograffiaeth a Cherddi: Gwobr Bensaerniaeth - James Morris a Grug Muse
Eleni eto comisiynwyd bardd a ffotograffydd i ddehongli’r adeiladau a enwebwyd ar gyfer gwobr Bensaernïaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn. Roedd pedwar adeilad yn y ras eleni- Ysgol Bae Baglan, Ysgol Uwchradd y Rhyl, adeilad CUBRIC yng Nghaerdydd, a Silver House ar benrhyn Gwyr. Ysgol Bae Baglan oedd yn fuddugol, ond cafodd y ffotograffydd James Morris a’r bardd Grug Muse y pleser o ymweld a’r pedwar. Mewn cydweithrediad a’r Lle Celf felly, dyma rannu ffrwyth eu llafur.

Llun a llên: Prifddinas – Efa Lois
Mynwent o atgofion oedd y ddinas. Yng nghysgodion ei beddfeini, llochesai ambell awgrym fod gobaith wedi trigo yn y lle hwn rywdro. Credodd addewidion y cwmnïau mawr – mi fyddai hi’n arbennig. Mi fydden nhw’n ei gwareiddio hi, drwy wydr a dur, nes ei bod hi fel pobman arall.

Cyfweliad a Chelf: Cryf fel llew - Bethan Mai
Mae Bethan Mai bethan-maiyn arlunydd, yn actores, yn gantores, yn ddawnswraig ac yn ffeminist. Cawsom sgwrs gyda hi ynglyn a’i chredoau, ei phrofiad yn Women’s March Caerdydd ac am waith sydd ganddi ar y gweill.