Cerdyn Post Creadigol: Berlin - Miriam Elin Jones

‘Aeth Aled fy nghariad a finnau ar wyliau byr i Berlin jyst cyn Nadolig, gyda’r bwriad o ymweld â marchnadoedd Nadolig niferus y ddinas. Ar ddiwedd ein diwrnod cyfan cyntaf yno, gyrrwyd lorri yn fwriadol i ganol un o’r marchnadoedd hynny, gan ladd deuddeg o bobol. Diolch byth, roeddwn ni’n dau yn ddigon pell oddi yno, ond cafodd effaith arnom wrth dreulio’r tridiau nesaf yn crwydro’r ddinas.

Wrth weld olion wal Berlin a gweld lle bu llywodraeth Hitler, roedd y digwyddiad hwnnw wedi dangos eto fyth y tensiynau gwleidyddol sy’n britho’r cyfnod diweddar hwn. Gwelwn bobol anaddas ac eithafol yn cyrraedd safleoedd o awdurdod ac mae pobol ddiniwed yn dioddef ar draul gweithredoedd terfysgol.

Lluniais dair cerdd yn ymateb i fy mhrofiadau yno – un a ysgrifennais cyn y digwyddiad, wrth weld palas hynafol yn cael ei ail-greu, a’r ddwy arall wedi’r drychineb; y cyntaf yn ymateb i weld yr Holocaust Memorial a’r ail yn diolch i ffawd (rwy’n gredwr mawr yn hwnnw) am fy ngalluogi i gyrraedd adref yn saff i ddathlu’r Nadolig.’

Lawrlwythwch y cerdyn post yma:

cerdyn-post-creadigol-berlin

Previous
Previous

Cerdd: Kalamari - Caryl Bryn

Next
Next

Stori fer: Safbwynt - Ifan Tomos Jenkins