Stori fer: Safbwynt - Ifan Tomos Jenkins

Tarodd Harri nodyn arall, ac un arall. Roedd e’n drefnus, yn graff, yn grefftus. Fe oedd yn rheoli’r ystafell. Neb arall. Rheoli’r anadlu a’r sŵn. Rheoli’r cymdeithasu. Rheoli’r emosiwn. Adeiladai’r nodau ar ben ei gilydd nes eu bod yn un wal gref o gysur. Gosodai’r nodau yn ofalus yn y mannau a oedd yn ecsbloetio’u rhinweddau orau. Defnyddiai’r nodau cedyrn i gefnogi’r rhai bregus, tra’i fod yn ofalus i beidio â’u gorlwytho. Torrodd a gweithiodd wrth rai o’r nodau fel petaen nhw’n emau gwerthfawr er mwyn i’r golau fownsio’n chwareus o’u cwmpas, cyn dianc er mwyn i’r byd gael eu gweld yn eu holl gogoniant. Nodiodd ei ben, dim gormod, ac roedd hynny’n ddigon; ymunodd pawb yn y canu.

Dyma oedd y syrpreis traddodiadol, blynyddol. Byddai pawb yn eistedd o amgylch y tân a phob un ohonynt wedi hen dderbyn na fyddai breuddwydion Bing Crosby’n cael eu gwireddu am flwyddyn arall, wel, nid yng Nghymru beth bynnag. Byddai’r plant yn pwdu am fod mam wedi eu trwytho mai amser i’r teulu oedd Nadolig ac felly roedd rhaid iddyn nhw ‘gymdeithasu’ gyda’r oedolion. Ac erbyn hyn byddai’r oedolion hynny wedi eu hudo gan y bwyd i stâd a oedd yn ymylu ar gwsg. Yna, bob blwyddyn yn ddieithriad, byddai Wncwl Harri yn straffaglu i godi cyn dechrau canu’r piano. Byddai neb byth yn gofyn iddo fe wneud, ond ni allai ef oddef i’r cyfle fynd heibio ac amddifadu’r gynulleidfa o’i berfformiad.

O fewn rhyw ddeg munud byddai pawb yn ymuno wedi iddynt goncro’r embaras o fwynhau canu. Byddai dad yn rhyw geisio dilyn llinell y tenor, ond, gan amlaf, byddai’n boddi ac yn gorfod suddo lawr i nodau’r bas. Roedd y canu’n frith o leisiau, amrywiol eu safon, a oedd yn gyfrinachol meddwl mai nhw ddylai ennill yr X-Factor eleni, nid cystadleuwyr bocs sebon y flwyddyn honno. Wedi’r cyfan roedden nhw wedi cael digon o ymarfer mewn eisteddfodau lleol, onid oedden nhw? Byddai digon o chwerthin, a mamgu a tadcu yn falch bod y plant yn cael gafael ar un o draddodiadau yr Ŵyl.

Edrychodd Alwyn ar y cwbl.

Roedd y tân yn profocio, a’r pren yn hisian yn ei dro. Bob nawr ac yn y man fe lwyddai’r darn lleiaf o bren i ddianc o grafangau’r goleuni a phoeri ei hun ar y carped. Syllodd Alwyn ar y cardiau’n crogi o’r llinyn a hongiau’n falch o un pen y silff dân i’r llall. Fe’u dedfrydwyd i fis o frolio cyn eu taflu i fol y tân i’w difa gyda’r papur lapio a’r hetiau papur. Yr un oedd gorchwyl bob un – arddangos i bawb llawenydd yr aelwyd, a phoblogrwydd ei deiliaid wrth gwrs. Trodd ei sylw at y piano. Gallai weld bysedd tewion yr hen ŵr yn cwympo’n blwmp ac yn ddiseremoni ar yr ifori. Doedd dim ysgafnder yn y chwarae, na chysur chwaith. Roedd y nodau’n sawrus ac yn cylchu’n fygythiol drwy’r awyr fel petai bob un yn eryr yn chwilio am fwyd.

Sylwodd Alwyn fod gwres y tân, y canu, a’r gymdeithas, wedi cymylu’r ffenest yn un haenen drwchus, yn amddiffynfa rhag oerfel y noson.  Estynnodd ei law a cheisio clirio’r ffenest. Roedd hi’n ffenest â digon o seis iddi. Yn yr haf dychmygai’r haul yn treiddio’r paneli gwyrdd ac yn creu patrymau ar y llawr pren. Gwasgodd ei law yn erbyn y gwydr; cyfarfu ei law â phanel gwlyb, caled. Dechreuodd symud ei law mewn cylchoedd. Dim byd. Rwbiodd yn galetach nes fod ei ddwylo’n goch a’r gwaed yn bygwth dianc. Na, safodd y cwmwl yn un staen stwbwrn, balch. Doedd dim siawns ganddo. Yna cofiodd mai ar y tu mewn roedd anwedd yn ffurfio, nid ar ei ochr ef.

Glaw, gwlypni ac ias. Swatiodd ar ei sedd goncrid ac estynnodd mewn i’w fag cyn dechrau ar y frechdan twrci a stwffin. Doedd y frechdan ddim yn gwireddu’r addewidion llu oedd ar y bocs – roedd sticer melyn arno am reswm. Meddyliodd fod tueddiad rhyfedd gan bethau i newid. Mae’n siwr bod y frechdan wedi bod yn un digon blasus cyn i’r holl saws llugaeron waedu mewn i’r bara a’i wlychu’n tsiwps.

Gallai gofio adeg pan mai ef oedd yr un wrth y piano, yn blentyn bach oedd newydd ddysgu sut oedd chwarae Jingl Bels gydag un llaw. Chafodd e byth mo’r cyfle i ddysgu’r darn gyda’i ddwy law… Doedd ei ddwylo byth wedi teimlo mor oer. Edrychodd ar ei ddwylo, y ddwy ohonynt yn ymddangosiadol hŷn na’i oedran. Y ddwy ohonynt wedi eu creithio gan chwipio didrugaredd y gaeaf. Y ddwy ohonynt heb gân i’w chanu. Gorfododd ei hun i suddo ei ddannedd yn y frechdan a rhwygo darn allan ohonni, cyn casglu cymaint o boer ag y gallai er mwyn ceisio gwanedu’r blas.

Llyfai’r gwynt ef fel ci’n croesawi ei feistr nôl adref. Ychydig bach yn oregniol efallai. Ychydig yn rhy bles i’w weld? Jest ychydig.

Previous
Previous

Cerdyn Post Creadigol: Berlin - Miriam Elin Jones