Cerdd: Cnoi - Llinos Llaw Gyffes

Cnoi

Ble’r wyt fy annwyl Amélie?

Mae yma wacter hebddot ti.

Nid oes pwrpas i’m gwisg ddel i

Na’m colur - heb i ti sylwi!

Rwy’n colli’th wyneb fwy pob dydd

Ochenaid drom fy nghalon prudd

Sy’n gwthio dagrau lawr fy ngrudd

A glywi lefain fy ’mennydd?

Mae fy nychymyg llawn cynnwrf

Yn pigo pan ewch chi i ffwrdd

Ti’n ei gusanu a’i gyffwrdd

Yn y gegin ar ben y bwrdd

Cyfrinachau calchfaen ogof

A thithau’n ymddiried ynof

A finnau’n ffrindiau hefo fo!

Ei freichiau trwm sy’n dy lapio,

Mae’r angerdd sydd rhyngoch bob tro

Fel craith. Fedra i ddim anghofio.

Llinos Llaw Gyffes

Gallwch hefyd ddarllen blog Llinos Llaw Gyffes o LFest 2018 - gŵyl lesbiaidd fwyaf Prydain - ar wefan Cymdeithas yr Iaith yma: https://cymdeithas.cymru/blog/gwyl-lesbiaidd-fwyaf-gwledydd-prydain-yn-dod-i-landudno

Previous
Previous

Celf: Aralledd yn y Gymru wledig - Heledd Williams

Next
Next

Rhestr Ddarllen: LHDTC+ - Mair Jones